Mae drama ias a chyffro oriau brig newydd gan BBC One yn cael ei ffilmio ar draws De Cymru. Heddiw, cafodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, gipolwg y tu ôl i’r camerâu yn stiwdios eiconig Enfys yng Nghaerdydd, a chyfarfu â’r hyfforddeion sy’n gweithio ar y cynhyrchiad.
Yn seiliedig ar y nofelau Jack Caffery mawr eu clod gan Mo Hayder, ac wedi’i chynhyrchu gan gwmnïau o fri Hartswood Films ac APC Studios, mae gwaith ffilmio’n mynd rhagddo bellach ar y ddrama ias a chyffro fawr, newydd, chwe-phennod hon ar gyfer BBC One a BBC iPlayer.
Wedi’i hysgrifennu a’i haddasu gan Megan Gallagher, dewiswyd Ukweli Roach i chwarae’r prif gymeriad, sef Ditectif Arolygydd Jack Caffery, ynghyd â chast yn cynnwys Sacha Dhawan, Iwan Rheon, Siân Reese-Williams, Juliet Stevenson ac Owen Teale.
Ariannwyd y cynhyrchiad drwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cymru Greadigol a BBC Cymru, sy'n anelu at roi diwydiant teledu Cymru ar lwyfan y byd. Mae 14 o hyfforddeion yn gweithio ar y cynhyrchiad, gan gynnwys prentisiaid o’r cynllun rhannu prentisiaeth, Criw, a chynllun canfod hyfforddeion ScreenSkills.
Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog ag Oliver Gabe, sy’n Gyfarwyddwr Cysgodol sydd ar leoliad Ffilm Cymru.
Meddai Oliver:
“Drwy Wolf dw i wedi cael profiad dysgu heb ei ail. Dw i wedi dysgu llawer iawn wrth wylio Lee a’r tîm wrth eu gwaith. Mae’r criw yn anhygoel ac yn parhau i ddysgu pethau newydd imi bob dydd.
“Mae’r profiad cyfan hwn wedi fy nghymell yn llwyr, ac mae’n parhau i’m hysbrydoli i barhau i wneud fy ffilmiau fy hun. Hoffwn ddiolch o galon i Lee, Nikki, Elaine ac i bawb yn Hartswood a Ffilm Cymru am y cyfle, dw i’n teimlo’n lwcus iawn i fod yn rhan o’r cynllun hwn.”
Mae Morgan Smith o ardal Tyllgoed yng Nghaerdydd, sy’n Gynorthwyydd Lleoliadau, yn hyfforddai ScreenSkills a dreuliodd ei brofiad cyntaf yn y diwydiant fel glanhawr COVID-19 ar y cynhyrchiad Roald and Beatrix gan Hartswood. Meddai Morgan, “Rwyf wir wedi mwynhau’r profiad o weithio gyda Chris Hill, Iestyn Hampson-Jones a gweddill y tîm lleoliadau ar Wolf. Rwy’n gobeithio y bydd y profiad hwn yn fy helpu i wneud cynnydd fel rhan o’r adran leoliadau ac i barhau i weithio fel rhan o dîm mor wych.”
Disgwylir i’r gyfres chwe-phennod gyrraedd ein sgriniau yn 2023 a gallai gael ei darlledu yn fyd-eang. Dyma gyfres ag iddi hunaniaeth Gymreig gref. Disgwylir i’r cynhyrchiad greu budd economaidd uniongyrchol sy’n werth dros £6 miliwn, gan ddefnyddio criw Cymraeg a lleoliadau a chyfleusterau yng Nghymru.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
“Rwyf wrth fy modd o gael cip bach cynnil ar y cynhyrchiad hwn sydd ar droed. Mae wir yn gynhyrchiad sydd â’i wreiddiau yng Nghymru, sy’n manteisio i’r eithaf ar dirweddau bendigedig Cymru – a chriw a phobl dalentog Cymru wrth gwrs.
“Ceir cyfoeth o leoliadau ffilmio amrywiol yng Nghymru, a gweithlu medrus, ac mae’n wych gweld Hartswood Films yn dychwelyd i Gymru.
“O safbwynt cynyrchiadau teledu a ffilm, Cymru yw’r ganolfan drydedd brysuraf yn y DU, ac mae hynny’n creu galw digynsail am sgiliau a thalent mewn sector sy’n tyfu. Mae Cymru Greadigol yn gweithio gyda’r sector i hybu hyfforddiant drwy ddarparu cyllid a chymorth.
“Bydd y cynhyrchiad hwn yn darparu llawer o gyfleoedd i hyfforddi a datblygu sgiliau, ac rydym yn gobeithio y bydd Wolf yn dod yn gyfres hirsefydlog a bod yr hyfforddeion hyn yn cael y cyfle i dyfu a datblygu yn eu rolau.”
Meddai Dan Cheesbrough, sef Rheolwr Gyfarwyddwr Hartswood:
“Mae bob amser yn fraint i ffilmio yng Nghymru. Mae’r criwiau, y lleoliadau, y dalent, a’r cyfleusterau o’r radd flaenaf. Nid hap a damwain yw’r ffaith bod Hartswood wedi meithrin presenoldeb mawr yma. Rydym wrth ein boddau yn parhau i adeiladu ar hynny gyda sioe mor arwyddocaol a chyffrous â ‘Wolf’. Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth y mae tîm Cymru Greadigol yn parhau i’w ddarparu. Dyma’r gefnogaeth sydd wedi’n galluogi i gyflwyno’r nifer mwyaf o gyfleoedd hyfforddi a gafwyd ar unrhyw gynhyrchiad gan Hartswood hyd yn hyn - sy’n rhywbeth yr ydym yn arbennig o falch ohono.”
Mae Cymru Greadigol wedi buddsoddi mwy na £12 miliwn i gefnogi prosiectau sgrin ers ei greu ym mis Ionawr 2020. Mae wedi buddsoddi mewn mwy na 18 o gynyrchiadau a chreu gwariant o oddeutu £131 miliwn yn economi Cymru.
Er mwyn mynd i’r afael â’r galw digynsail am sgiliau a thalent, mae Cymru Greadigol wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i hyfforddeion ar ffurf lleoliadau diwydiant â thâl. Mae hynt y lleoliadau hyn yn cael ei holrhain a’i monitro er mwyn helpu i sicrhau llwybrau gyrfa yn y dyfodol ar gyfer pob hyfforddai.