Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi cyfarfod â chwmni hedfan mwyaf newydd Cymru, Wizz Air, cyn lansiad y safle ym Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddarach eleni.
Y cyfarfod rhithwir oedd y cyfle cyntaf i Lywodraeth Cymru groesawu’r cwmni hedfan i Gymru yn swyddogol, ers y cyhoeddiad ym mis Rhagfyr 2020.
Dyma fenter gyntaf Wizz Air yng Nghymru, ac mae'r safle newydd yn fuddsoddiad sylweddol ym Maes Awyr Caerdydd a'r rhanbarth lleol. Mae’n creu dros 40 o swyddi uniongyrchol a thros 250 o swyddi anuniongyrchol, gan gefnogi diwydiannau fel hedfanaeth, cludiant, lletygarwch a thwristiaeth. Bydd cysylltu Cymru â naw cyrchfan gwyliau poblogaidd yn rhoi hwb i'r economi leol drwy gynyddu capasiti blynyddol Maes Awyr Caerdydd gan ychwanegu dros 350,000 o seddi, a rhoi hyd yn oed mwy o ddewis i deithwyr lleol ar garreg eu drws.
Bydd y safle newydd yn cynnig teithiau hedfan i gyrchfannau heulog gan gynnwys Alicante, Faro, Larnaca a Tenerife yn ogystal â llwybrau tymhorol yn ystod yr haf i Corfu, Heraklion a Palma de Mallorca a llwybrau i Lanzarote a Sharm El Sheikh yn ystod tymor y gaeaf.
Mae Wizz Air yn gweithredu fflyd o 136 o awyrennau y teulu Airbus A320, gan gynnwys y genhedlaeth newydd A320neo a'r A321neo. Mae Brychdyn yn un o ddau safle i ddylunio, profi a gweithgynhyrchu'r adenydd ar gyfer holl awyrennau masnachol Airbus.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
"Roedd yn wych cwrdd â'r cwmni hedfan a thrafod y cyfleoedd yn y dyfodol i Wizz Air ehangu ei weithrediadau ymhellach yng Nghymru a fydd yn creu swyddi ac o fudd i'r economi.
"Mae lansiad y safle yn dyst i waith caled tîm Gweithredol Maes Awyr Caerdydd ac mae'n gam cadarnhaol a fydd yn helpu'r maes awyr i ddod allan o effaith pandemig COVID-19. Edrychaf ymlaen at weld yr hediadau cyntaf yn esgyn i’r awyr a thwf pellach dros y blynyddoedd nesaf.
Wrth siarad yn y lansiad ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd Owain Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Wizz Air UK:
"Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Wizz Air wrth i ni gynyddu ein hôl troed yn y DU hyd yn oed ymhellach. Mae creu ein pedwerydd safle yn y DU ym Maes Awyr Caerdydd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus Wizz Air i wasanaethu marchnad y DU a sbarduno twf economaidd, wrth i ni greu swyddi lleol, ysgogi'r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch a chyflawni ein haddewid i ddarparu teithiau hedfan fforddiadwy, uniongyrchol i gyrchfannau gwyliau cyffrous.
"Mae'r ehangu i Gymru yn sicrhau mwy o gysylltiadau i'r rhanbarth, fel y gall teithwyr fanteisio ar docynnau rhad iawn Wizz Air i deithio i'w hoff fannau gwyliau heulog ar fwrdd ein fflyd awyrennau ifanc a gwyrdd. Gyda lansiad 47 o lwybrau newydd o'r DU eleni yn unig, rydym yn sicrhau bod teithwyr yn gallu gwneud yn iawn am amser a gollwyd wrth greu atgofion teithio anhygoel.
Roedd lansiad y safle wedi'i gynllunio'n wreiddiol ar gyfer mis Mawrth 2021 ond cafodd ei wthio'n ôl i fis Mai 2021 o ganlyniad i'r cyfyngiadau parhaus ar deithio oherwydd pandemig COVID-19.