Cylchlythyr Pwyllgor Deintyddol Cymru: Ebrill 2025
Crynodeb o faterion allweddol a drafodwyd yn y cyfarfod Pwyllgor Deintyddol Cymru sy’n cynnwys ymgyrchoedd a newyddion.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Myfyrio ar gynnydd Pwyllgor Deintyddol Cymru yn 2024
Ym mis Ionawr 2024, ailddechreuodd Pwyllgor Deintyddol Cymru ar ôl saib. Yn unol â'r pwyllgorau statudol eraill, mae Pwyllgor Deintyddol Cymru wedi cymryd camau i sicrhau bod y pwyllgor yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Camau gweithredu Pwyllgor Deintyddol Cymru yn 2024:
- Aelodaeth ddiwygiedig i sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer yr amrywiaeth eang o grwpiau yn y proffesiwn, gan ganolbwyntio'n benodol ar gymysgedd sgiliau.
- Cyfansoddiad diwygiedig i egluro telerau aelodaeth.
- Datganiad cenhadaeth newydd i egluro cylch gwaith ac awdurdod Pwyllgor Deintyddol Cymru (gweler ar y dde).
- Ymateb i ymgynghoriadau a darparu cyngor lle y bo angen.
- Sganio'r gorwel - gwahodd siaradwyr arbenigol ar bynciau sy'n berthnasol i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
- Gwelededd - datblygu'r cylchlythyr hwn i rannu gwybodaeth â'r proffesiwn.
Datganiad cenhadaeth
Mae Pwyllgor Deintyddol Cymru yn darparu cyngor a mewnwelediad arbenigol i Weinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru, gan ddarparu cyd-destun yn y byd go iawn i lywio a llunio polisi. Gan gynrychioli'r proffesiwn yn gynhwysfawr, mae'r pwyllgor yn darparu llwybr ffurfiol i amrywiaeth eang o randdeiliaid gydweithio a lledaenu gwybodaeth, sicrhau ansawdd a chynaliadwyedd gwasanaethau deintyddol yng Nghymru, a gwella iechyd y geg poblogaeth Cymru.
Blaengynllun gwaith 2025
Y nod ar gyfer y misoedd nesaf yw ysgrifennu datganiadau sefyllfa Pwyllgor Deintyddol Cymru ar nifer o bynciau sy'n berthnasol i ddeintyddiaeth mewn perthynas â ‘Cymru Iachach’ a ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)’. Bydd y datganiadau sefyllfa hyn yn defnyddio arbenigedd holl aelodau'r pwyllgor, ac yn adlewyrchu barn y proffesiwn deintyddol yn ei gyfanrwydd.
Sganio'r gorwel
- Dros y 12 mis diwethaf, mae Pwyllgor Deintyddol Cymru wedi derbyn cyflwyniadau gan siaradwyr ar y pynciau canlynol, sy'n berthnasol i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
- Iechyd Meddwl ymhlith ymarferwyr Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol.
- Datblygu Clwstwr Carlam.
- Cynaliadwyedd a Gwastraff.
- Deintyddiaeth sy'n Seiliedig ar Werth.
- Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Deintyddol.
- Data'r Gweithlu.
- Porth Mynediad Deintyddol.
- Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.
- Cyflwyniad i Gymdeithas Brydeinig y Nyrsys Deintyddol.
- Mynediad Uniongyrchol ac Esemptiadau.
- Defnyddio Data i Lywio Penderfyniadau a Chanlyniadau Iechyd Cyhoeddus.
- Grŵp Amrywiaeth a Chynhwysiant Cymdeithas Ddeintyddol Prydain.
- Diben y Pwyllgorau Statudol.
- Cyflwyniad i Fforwm Cynghori Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol Cyflwyniad i rôl Technegydd Deintyddol Clinigol.
- Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol.
Gofal sylfaenol gwyrddach Cymru
Cofrestrwch eich tîm am ddim yma ar wefan 'Green Impact'. Mae’n hawdd ac yn gyflym!
Dewiswch pa gamau gweithredu yr hoffech eu rhoi ar waith yn ystod 2025- 2026. Camau bach yn gyntaf, yna gamau mwy.
Anelwch am wobr – dim ond 8 pwynt sydd ei angen arnoch ar gyfer y wobr efydd!
Ewch i'n tudalennau gwe ar Ofal Sylfaenol Un i ddod o hyd i lawer o adnoddau defnyddiol.
Anfonwch e-bost at greenerprimarycare@wales.nhs.uk am gymorth.
Lledaenwch y gair am y cynllun ymysg eich cymheiriaid a'ch cydweithwyr.
Gwneud gwahaniaeth
Ar 29 Ionawr 2025 ail-lansiwyd Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru am y bedwaredd flwyddyn.
Daliwch ati i roi’r camau ar waith. Gall eich ymdrechion chi ein helpu i leihau allyriadau’r sector iechyd a gofal yng Nghymru 34% erbyn 2030.
Gofal sylfaenol gwyrddach Cymru, fframwaith a chynllun gwobrwyo 2025
Ydych chi’n gweithio ym maes gofal sylfaenol?:
- Optometreg
- Fferyllfeydd yn y Gymuned
- Deintyddiaeth
- Practis Cyffredinol
Ymunwch â Chynllun Cenedlaethol i elwa o nifer o fuddion:
- cymdeithasol
- clinigol
- amgylcheddol
- ariannol
Cofrestrwch yma ar wefan 'Green Impact' ar gyfer y cynllun gwobrwyo gofal sylfaenol gwyrddach Cymru.
Roedd yn wych oherwydd fe roddodd le i mi ddechrau ar y gwaith oedd yn torri popeth yn newidiadau bychain yr oeddwn yn gallu eu gweithredu fy hun ond hefyd trwy gydweithio â’r tîm cyfan i’w gwblhau.
Dr Flo King.
Rhaglen epidemiolegol deintyddol GIG Cymru
Archwiliodd yr arolwg deintyddol, a rannwyd â 203 o ysgolion prif ffrwd a gynhelir gan y wladwriaeth, 6,329 o blant ym mlwyddyn ysgol saith (12 oed) yn ystod tymhorau’r gaeaf a’r gwanwyn 2023 i 2024.
Llai o gyffredinrwydd pydredd dannedd
Mae’r canlyniadau’n dangos bod nifer yr achosion o bydredd dannedd – canran y plant sydd â dannedd wedi pydru, ar goll neu wedi’u llenwi – wedi gostwng o bron i un o bob tri yn 2016 i 2017 i un o bob pedwar yn 2023 i 2024. Mae difrifoldeb, a fesurir fel nifer cyfartalog y dannedd y mae pydredd dannedd yn effeithio arnynt fesul plentyn, hefyd wedi gostwng o gymharu â lefelau blaenorol.
Canfyddiadau allweddol:
- Mae nifer yr achosion o bydredd dannedd ar gyfartaledd bellach yn 25.3%, gostyngiad ystadegol arwyddocaol ers 2016 i 2017.
- Mae gan blant 12 oed yng Nghymru, ar gyfartaledd, hanner dant wedi pydru. Mae hyn wedi gwella ers 2016/17.
- Ar gyfer plant sy'n cael eu heffeithio gan bydredd dannedd, bydd gan bob un ar gyfartaledd 2 ddannedd heintiedig. Nid yw hyn wedi newid ers 2016 i 2017.
- Dywedodd bron i 30% o blant fod problemau iechyd y geg yn effeithio ar ansawdd eu bywyd, gyda phoen yn cael ei nodi fel y broblem fwyaf cyffredin.
- Er gwaethaf y newidiadau cadarnhaol hyn, mae lefelau pydredd heb ei drin ac anghydraddoldebau yn parhau. Profodd plant o ardaloedd mwy difreintiedig gyfraddau uwch o bydredd dannedd o gymharu â’r plant hynny o ardaloedd llai difreintiedig, er bod rhai arwyddion o welliant ers 2008 i 2009.
Darllenwch y manylion llawn ynghylch y canfyddiadau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
Cyflwyniad i Fforwm Cynghori Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol AaGIC
Mae Fforwm Cynghori Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol Cymru yn blatfform cydweithredol i weithwyr proffesiynol gofal deintyddol drafod materion allweddol yng Nghymru, a dylanwadu arnynt a'u hyrwyddo. Mae'n canolbwyntio ar ddiwygio gofal sylfaenol, cynllunio'r gweithlu, addysg, llwybrau gyrfa, ac arweinyddiaeth. Mae'r fforwm yn darparu mewnbwn proffesiynol i agenda ddeintyddol Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), gan lunio addysg ôl-raddedig, datblygu'r gweithlu, a chynllunio strategol.
Mae'r fforwm yn cynghori ar faterion addysgol a gweithlu, yn sicrhau cyfnodau pontio didrafferth o hyfforddiant israddedig i ôl-raddedig, ac mae'n ffurfio gweithgorau pan fo angen. Gan gyfarfod dair gwaith y flwyddyn, mae AaGIC yn cynnal ac yn darparu cymorth ysgrifenyddiaeth, gydag arweinyddiaeth gan gadeirydd ac is-gadeirydd etholedig. Mae'r fforwm yn adrodd i'r Uwch-dîm Arwain Deintyddol ac yn cysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Pwyllgor Deintyddol Cymru ac arweinwyr clinigol y bwrdd iechyd.
Rôl technegydd deintyddol clinigol
Mae Matthew Thomas yn Dechnegydd Deintyddol Clinigol, sy'n cynrychioli Fforwm Cynghori Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol Cymru ar Bwyllgor Deintyddol Cymru.
Mae technegydd deintyddol clinigol yn weithiwr proffesiynol deintyddol sy'n gymwys i ddarparu dannedd gosod cyflawn yn uniongyrchol i gleifion a dyfeisiau deintyddol eraill ar bresgripsiwn deintydd. Mae technegwyr deintyddol clinigol yn cynnal triniaethau clinigol a thechnegol, gan gynnwys cymryd hanes meddygol, archwiliadau clinigol, radiograffau, a gosod dyfeisiau symudadwy. Maent yn nodi pryderon iechyd y geg ac yn atgyfeirio cleifion pan fo angen.
Gall technegwyr deintyddol clinigol hefyd ddarparu amddiffynwyr ceg ar gyfer chwaraeon, dyfeisiau gwrthchwyrnu, a gwynnu dannedd ar bresgripsiwn deintydd. Mae eu rôl yn adeiladu ar dechnoleg ddeintyddol, gyda sgiliau ychwanegol ar gael drwy hyfforddiant pellach a datblygu proffesiynol. Gall technegwyr deintyddol clinigol weithio ar y GIG, neu'n breifat. Dim ond nifer fach o dechnegwyr deintyddol clinigol sydd yng Nghymru, ond gall fod cyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer y rôl unigryw hon wrth ddarparu gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Ymholiadau neu sylwadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu sylwadau am waith Pwyllgor Deintyddol Cymru, cysylltwch â’r canlynol:
- Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru: Adam Porter - adam.porter2@wales.nhs.uk
- Is-gadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru: Jonathan Carter - chairgwentldc@gmail.com
- Ysgrifennydd Pwyllgor Deintyddol Cymru: Rebecca Evans - rebecca.evans034@gov.wales