Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac amodau llawn ar gyfer defnyddio'r gwasanaeth hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Cyflwyniad

1.1      Mae Gwasanaethau Ar-lein WEFO (y “Gwasanaethau”) yn caniatáu i bobl sy’n cymryd rhan mewn Gweithrediadau ac sy’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno ceisiadau am y Gwasanaethau (gan gynnwys cyflwyno hawliadau am arian ond heb fod yn gyfyngedig i hynny), anfon gwybodaeth i Lywodraeth Cymru, gweld cofnodion ar-lein ac, yn gyffredinol, ryngweithio â Llywodraeth Cymru drwy’r Rhyngrwyd. Mae’n bosibl yr ychwanegir gwasanaethau a nodweddion ychwanegol at y Gwasanaethau yn y dyfodol.

1.2      Gellir cyrchu’r Gwasanaethau trwy gyfrwng gwefan WEFO Ar-lein yn y cyfeiriad gwefan: https://www.llyw.cymru/mewngofnodi-i-wefo-ar-lein (neu'r cyfryw gyfeiriad arall ag y gallwn ei ddefnyddio yn y dyfodol) (y “Safle”).

1.3      Drwy ddefnyddio’r Safle a/neu gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau ac amodau hyn (“Telerau”) ac rydych yn cytuno’n benodol ac yn derbyn yr ymwadiadau a’r cyfyngiadau atebolrwydd sydd wedi eu cynnwys yn y Telerau hyn. Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r Safle neu gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau trwy wefan Porth y Llywodraeth. Os nad ydych yn dymuno cael eich rhwymo gan y Telerau hyn, gadewch y Safle hwn yn syth os gwelwch yn dda a/neu ddadgofrestru gan ddefnyddio gwefan Porth y Llywodraeth.

2. Diffiniadau

Yn y Telerau hyn:

ystyr “Manylion Mynediad” yw enw defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth a gafodd eu creu a’u defnyddio gennych er mwyn cyrchu’r Gwasanaethau;

ystyr “Cais” yw unrhyw gais am arian gan Lywodraeth Cymru a gyflwynir gennych drwy’r Safle; a deellir “Hawliadau" yn briodol yn hynny o beth;

ystyr “Cynnwys” yw dyluniad, testun, graffeg a deunydd arall ar y Safle;

“ystyr “Deunyddiau” yw'r deunyddiau sydd ar gael a/neu a ddarperir gennym ac y gellir eu cyrchu fel rhan o’r Gwasanaethau gan gynnwys, heb gyfyngiad, ffurflenni hawlio, dogfennau cofrestru a dogfennaeth sy'n ymwneud yn benodol â Gweithrediad neu Weithrediadau;

“ystyr "Gweithrediad" yw gweithrediad a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru neu sy'n derbyn arian ganddi; a deellir “Gweithrediadau" yn briodol yn hynny o beth;

bydd “person” yn cynnwys cyrff corfforaethol, cymdeithasau anghorfforedig, partneriaethau, ymddiriedolaethau, unigolion ac unrhyw gyfuniad o un neu fwy o’r rhai a grybwyllwyd eisoes;

ystyr "RhDG" yw Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru;

ystyr “Defnyddiwr” neu “Defnyddwyr” yw defnyddwyr y Safle a’r Gwasanaethau, yn unigol neu ar y cyd;

ystyr “ni” neu “ein” yw Llywodraeth Cymru sy’n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ynghyd â’n gweithwyr, asiantau a chontractwyr);

ystyr “WEFO” yw Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru;

at y diben hwn ystyr "Llywodraeth Cymru" yw is-adrannau WEFO ac Amaeth, Bwyd a'r Môr sy'n dosbarthu arian o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd;

ystyr “chi” yw’r person sy’n defnyddio’r Safle a/neu’n cyrchu’r Gwasanaethau (ar ran busnes neu sefydliad).

3. Cofrestru

3.1      Rhaid i chi gofrestru er mwyn cyrchu’r Gwasanaethau a’u defnyddio.

3.2      Gallwch gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau ar ran busnes neu sefydliad (gan gynnwys pan fyddwch yn gweithredu fel asiant iddynt).

3.3      Gallwch gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau drwy wefan Mewngofnodi i WEFO Ar-lein. Bydd eich manylion cofrestru, gan gynnwys eich enw, a’ch cyfeiriad e-bost, lle bo hynny’n berthnasol, yn cael eu storio ar Borth y Llywodraeth yn unol â pholisi preifatrwydd Porth y Llywodraeth. Defnyddir eich Manylion Mynediad i gadarnhau pwy ydych ac i ddilysu’r wybodaeth a roddir gennych. Ar ôl i chi gofrestru, gallwch fewngofnodi gan ddefnyddio eich Manylion Mynediad i gyrchu’r Gwasanaethau.

3.4      Drwy gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau, rydych yn dangos ac yn gwarantu bod gennych yr hawl, yr awdurdod a’r gallu i ddefnyddio’r Safle a’r Gwasanaethau ac yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn. Os byddwn yn darganfod, neu ag unrhyw reswm i gredu, nad oes gennych yr hawl, yr awdurdod na'r gallu i ddefnyddio'r Safle a'r Gwasanaethau neu i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn gallwn atal dros dro neu derfynu eich cofrestriad a/neu eich gallu i gyrchu'r Gwasanaethau ar unwaith a heb roi rhybudd ichi.

3.5      Yn gydnabyddiaeth am gael cofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau, rydych yn cytuno:

(a)      i ddarparu gwybodaeth wir, cywir, cyfredol a chyflawn amdanoch eich hun mewn ymateb i’r ffurflen gofrestru berthnasol neu unrhyw ffurflen arall y gallwn ofyn i chi ei chwblhau ar unrhyw adeg;

(b)      i roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newid i unrhyw wybodaeth a roesoch i ni er mwyn cadw’r wybodaeth sy’n cael ei dal gennym yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

4. Diogelwch

4.1      Rhaid i chi gadw eich Manylion Mynediad yn ddiogel a chymryd pob cam rhesymol i’w diogelu.

4.2      Rhaid ichi gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw un arall heblaw am chi yn defnyddio'r Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) gan ddefnyddio cyfrifon a gafodd eu creu i'w defnyddio gennych chi. Byddwch yn gyfrifol am unrhyw gamddefnydd o’r Gwasanaethau sy’n deillio o’r defnydd o’ch Manylion Mynediad, waeth ai chi oedd yn eu defnyddio mewn gwirionedd ai peidio. Os byddwch yn amau bod unrhyw un arall wedi defnyddio neu yn defnyddio eich Manylion Mynediad, rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith.  

4.3      Os bydd eich hawl neu’ch awdurdod i ddefnyddio’r Gwasanaethau fel asiant neu ar ran busnes neu sefydliad yn cael ei derfynu, ei dynnu’n ôl neu ei atal dros dro ar unrhyw adeg gan y busnes neu’r sefydliad perthnasol rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r Gwasanaethau ar unwaith a dadgofrestru o ran y cyfrif perthnasol hwnnw.

5. Eich Rhwymedigaethau

5.1      Tra byddwch yn gweithredu ar ran busnes neu sefydliad caniateir i chi chwilio, gweld, copïo, argraffu a defnyddio’r Cynnwys a’r Gwasanaethau (gan gynnwys y Deunyddiau) ar ran y busnes neu’r sefydliad hwnnw ar yr amodau a ganlyn:

(a)      rhaid ichi ond gweithredu yn unol â'ch rôl o fewn y busnes neu'r sefydliad hwnnw neu'n ymwneud ag ef; 

(b)      rhaid ichi weithredu bob amser o fewn awdurdod y busnes neu’r sefydliad perthnasol ac yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd;

(c)      dylech sicrhau nad oes unrhyw ran o’r Gwasanaethau sy'n ymwneud â’r busnes neu’r sefydliad hwnnw nac unrhyw Ddeunyddiau ar gael i unrhyw drydydd parti ac eithrio fel y caniateir o dan y Telerau hyn.

5.2      Ni chewch:

(a)      newid unrhyw ran o’r Cynnwys;

(b)      copïo, argraffu nac, fel arall, atgynhyrchu unrhyw ran o’r Deunyddiau ac eithrio fel rhan o’ch defnydd awdurdodedig o’r Gwasanaethau ac fel y caniateir o dan y Telerau hyn; neu

(c)      trosglwyddo na chael gwared â’r cyfan neu unrhyw rai o’ch hawliau o dan y Telerau hyn mewn ffordd arall.

5.3      Pan gewch eich penodi gan fusnes neu sefydliad yn gyswllt e-Borth, yn gyfrifol am nodi unigolion i weithredu ar ran y busnes neu’r sefydliad hwnnw mewn cysylltiad â Gweithrediad ac a fydd yn gallu cyrchu’r Gwasanaethau sy'n ymwneud â'r cyfryw Weithrediad a'u defnyddio, rhaid ichi:

(a)      cymryd pob gofal, sgil a sylw dyladwy wrth ddewis y cyfryw unigolion ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau gan y busnes neu’r sefydliad perthnasol;

(b)      dewis dim ond yr unigolion hynny sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau addas i gyrchu’r Gwasanaethau sy'n ymwneud â'r Gweithrediad hwnnw, a'u defnyddio;

(c)      dewis dim ond yr unigolion hynny sydd eu hangen i gyflawni dibenion y Gweithrediad a pheidio â dewis gormodedd o bobl;

(d)      sicrhau bod yr holl bobl hynny sy’n cael eu dewis yn ymwybodol o’r Telerau hyn ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y busnes neu’r sefydliad perthnasol ac yn cytuno â hwy, a rhaid i chi sicrhau bod yr unigolion hynny’n glynu wrth y Telerau hyn ac unrhyw gyfarwyddiadau felly a roddir.

ac rydych yn cydnabod ac yn cytuno y gallech gael eich dal yn gyfrifol gan y busnes neu’r sefydliad sydd wedi eich penodi fel cyswllt e-Borth am weithredoedd yr unigolion hynny a ddewiswyd gennych.

5.4      Pan fyddwch wedi’ch awdurdodi gan fusnes neu sefydliad i gyflwyno Hawliadau neu unrhyw ffurflenni eraill ar ran y busnes neu’r sefydliad hwnnw rhaid ichi:

(a)      sicrhau bod pob Hawliad neu ffurflen arall yn cael ei gwblhau a’i gyflwyno’n unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru o bryd i’w gilydd;

(b)      cymryd pob gofal, sgil a sylw dyladwy wrth gwblhau a chyflwyno unrhyw Hawliad neu ffurflen arall;

(c)      darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, dogfennaeth ategol ac/neu eglurhad y bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn amdano mewn cysylltiad â Hawliad neu unrhyw ffurflen arall a gyflwynir yn brydlon;

(d)      gweithredu o fewn cylch gwaith eich awdurdod yn unig wrth gwblhau a/neu gyflwyno Hawliadau neu unrhyw ffurflenni eraill ar ran busnes neu sefydliad ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i chi gan y busnes neu’r sefydliad hwnnw (ar yr amod, lle bo unrhyw gyfarwyddiadau’n mynd yn groes i gyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru bod telerau'r cyfryw cyfarwyddyd felly’n cael blaenoriaeth dros unrhyw gyfarwyddiadau);

(e)      peidio â cheisio hawlio mwy o gymorth ariannol nag a ganiateir o dan delerau unrhyw gytundeb ariannu (boed fel cyfanswm neu’n gysylltiedig â chyfnod neu fath penodol o arian); 

(f)       peidio â chynnwys unrhyw wariant anghymwys mewn unrhyw Hawliad

ac rydych yn cydnabod ac yn cytuno eich bod, drwy gyflwyno Hawliad neu ffurflen arall, yn dangos bod Hawliad felly neu gynnwys ffurflen arall o'r fath felly’n gyflawn, yn gywir ac yn gyfredol ac y gallech gael eich dal yn gyfrifol am unrhyw wallau neu gamliwio cysylltiedig ag unrhyw Hawliad neu ffurflen arall a gyflwynir gennych.  Rydym yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg yn y dyfodol i addasu’r Safle er mwyn cyfyngu a/neu ddileu eich gallu i gyflwyno Hawliadau neu unrhyw ffurflenni eraill ar ran busnes neu sefydliad a/neu fynnu eich bod yn dilyn proses benodi ffurfiol a/neu i ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu fodloni gofynion ychwanegol er mwyn cyflwyno/gweinyddu unrhyw Hawliadau neu ffurflenni eraill. Cewch eich hysbysu am unrhyw addasiad o’r fath yn unol â’r Telerau hyn.

5.5      Ni ddylech:

(a)      defnyddio’r Safle neu’r Gwasanaethau hyn fel cyfrwng i geisio busnes neu sefydlu cysylltiadau busnes;

(b)      hysbysebu neu hyrwyddo eich cynhyrchion neu’ch gwasanaethau eich hun neu rai trydydd parti ar y Safle; gan gynnwys ar ffurf e-bost “sbam”;

(c)      dynwared Defnyddiwr arall, neu gyrchu neu geisio cyrchu cyfrifon defnyddwyr sy’n perthyn i Ddefnyddwyr eraill heb i’r Defnyddwyr hynny roi hawl neu ganiatâd; 

(d)      defnyddio’r Safle ar gyfer unrhyw weithgaredd twyllodrus;

(e)      ymyrryd neu geisio ymyrryd ag unrhyw fesurau diogelwch sy’n perthyn i’r safle neu’n gysylltiedig â’r Safle.

5.6      Ni chaniateir i unrhyw ddeunyddiau sy’n cael eu gosod, eu cyhoeddi neu eu trosglwyddo gennych ar y safle neu drwy’r Safle, boed yn rhan o’r Gwasanaethau neu beidio:

(a)      bod yn fygythiol, yn anweddus, yn niweidiol, yn ddifenwol, yn bornograffaidd neu’n anghyfreithlon fel arall; a/neu

(b)      torri neu dresmasu mewn unrhyw ffordd ar hawliau eraill (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd, neu hawliau preifatrwydd); a/neu

(c)      achosi gofid neu anghyfleustra; a/neu

(d)      mynegi barn y gallai eraill ei hystyried yn ddi-chwaeth, yn amrwd, yn rhywiaethol, yn hiliol neu’n dramgwyddus fel arall; a/neu

(e)      bod yn anghyfreithlon fel arall.

5.7      Byddwn yn cydweithredu’n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy'n gofyn inni ddatgelu enw unrhyw un sy’n defnyddio’r Gwasanaethau a/neu unrhyw ddeunyddiau (gan gynnwys y Deunyddiau) mewn unrhyw rai o’r ffyrdd a nodir ym mharagraff 5.6 uchod neu'n ein cyfarwyddo i wneud hynny.

5.8      Byddwch yn sicrhau bod pob deunydd ac unrhyw ddeunydd a lanlwythir gennych ar y Safle yn wir, yn gywir ac yn gynhwysfawr, a’u bod wedi eu cwblhau gan ddefnyddio pob sgil a gofal rhesymol a’u bod yn gyfredol ym mhob ffordd bob amser.

5.9      Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd a ysgrifennir gan Ddefnyddwyr ac a osodir ar y Safle neu a rennir drwy’r Safle ac nid ydym yn cymeradwyo deunydd o’r fath o gwbl. Rydym yn derbyn yr hawl i olygu, gwrthod gosod neu dynnu unrhyw ddeunydd o’r fath oddi ar y Safle yn union fel y mynnwn. Ni fydd methiant ar ein rhan i gael gwared ar ddeunydd penodol yn golygu ein bod yn ei gymeradwyo nac yn ei dderbyn.

5.10    Rydych yn gyfrifol am sicrhau bod eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol, a’ch llwyfan wedi’u ffurfweddu er mwyn i chi ddefnyddio’r Gwasanaethau. Er gwaethaf paragraff 6(c) isod, dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu rhag firws eich hunain.

5.11    Rydych yn gyfrifol am gadw llygad ar y Telerau hyn a'r Safle am unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau i'r Safle, y Cynnwys a/neu'r Gwasanaethau ac, yn fwy cyffredinol, am fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru a all effeithio ar eich Gweithrediadau a/neu eich defnydd o'r Gwasanaethau.

6. Ein Rhwymedigaethau

6.1      Byddwn:

(a)      yn cymryd pob gofal rhesymol wrth gasglu a gosod Cynnwys a Deunyddiau ar y Safle;

(b)      yn gwneud ymdrech resymol i sicrhau bod y Safle ar gael;

(c)      yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw feddalwedd a ffeiliau data a roddir i chi fel rhan o’r Gwasanaethau yn rhydd o unrhyw firws;

(d)      yn amodol ar baragraff 6.2, yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y Gwasanaethau’n ddi-dor a bod cyn lleied ag sy’n bosibl o ymyriadau o ran mynediad i’r Safle gan unrhyw ddigwyddiad o fewn ein rheolaeth;

(e)      yn gwneud ymdrechion rhesymol i gadw unrhyw ddata personol a rowch i ni’n ddiogel.

6.2      Byddwn yn ceisio cynnal y Safle yn ddyddiol gan gynnwys diweddaru’r Gwasanaethau. Nodwch na fydd y Gwasanaethau ar gael yn ystod yr adegau hynny. Bydd y Gwasanaethau ar gael i’w cyrchu gan Ddefnyddwyr rhwng yr oriau 07:00 a 00:00. Ni allwn warantu y bydd y Gwasanaethau ar gael y tu allan i'r adegau hyn. Gwnawn ein gorau o fewn rheswm i roi gwybod i chi am unrhyw amser di-fynd a gynllunnir a allai effeithio ar hygyrchedd y Gwasanaethau o fewn yr oriau defnyddio a nodwyd uchod.

6.3      Gwnawn ein gorau o fewn rheswm i sicrhau bod unrhyw wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau a gyflwynir gennych i’r Safle neu fel rhan o’r Gwasanaethau yn cael eu cynnal yn ddiogel a bod copïau wrth gefn wedi eu gwneud yn gywir. Os bydd unrhyw wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau o’r fath yn mynd ar goll neu’n cael eu difrodi, yr unig ffordd y byddwn yn gallu cywiro hynny i chi i raddau yw trwy wneud ein gorau i adfer yr wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau sydd wedi eu colli neu’u difrodi o’r copïau wrth gefn mwyaf diweddar o wybodaeth, data a/neu ddeunyddiau o’r fath. Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw ddigwyddiad lle bo gwybodaeth, data a/neu ddeunyddiau sy’n eiddo i chi yn cael eu colli, eu difrodi, eu newid neu eu datgelu gan unrhyw drydydd parti (ac eithrio’r trydydd partïon hynny sy’n cael eu his-gontractio gennym i gyflawni gwasanaethau cysylltiedig â chynnal a storio copïau wrth gefn o’ch gwybodaeth, data a/neu ddeunyddiau).

7. Perchenogaeth a Defnyddio Hawliau Perchen

7.1      Yn amodol ar baragraffau 5 a 7.2, cewch ddefnyddio ac ailddefnyddio cynnwys Hawlfraint y Goron ar y Safle yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, yn unol â thelerau ac amodau Trwydded Llywodraeth Agored, ar yr amod bod cynnwys o'r fath yn cael ei gopïo'n gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fydd deunydd Hawlfraint y Goron ar y Safle yn cael ei ailgyhoeddi neu'i gopïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod ei statws o ran hawlfraint [drwy ddefnyddio'r datganiad canlynol [WEFO © Hawlfraint y Goron 2016]] ac yn cynnwys, lle y bo'n bosibl, ddolen i Drwydded Llywodraeth Agored.

7.2      Mae'r caniatâd a nodir ym mharagraff 7.1 yn amodol ar gymal 5 ac nid yw'n cynnwys:

(a)      holl ac unrhyw enwau a logos ar gyfer “Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru”; “RhDG”, “Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru”, “WEFO Ar-lein” a “Llywodraeth Cymru”. Gweinidogion Cymru sy'n meddu ar yr hawliau hyn. Dim ond yn unol â Chanllawiau Brandio Llywodraeth Cymru ac unrhyw delerau cytundeb ariannu cymwys y cewch ddefnyddio’r enwau a'r logos hyn, neu fel y gallwn ei ganiatáu fel arall;

(b)      delweddau ar y Safle y gellir eu defnyddio gyda'n caniatâd datganedig yn unig; 

(c)      unrhyw hawliau cronfa ddata yn y Gwasanaethau, a fydd yn parhau i fod yn eiddo i Weinidogion Cymru;

(d)      unrhyw ddeunydd ar y Safle a nodir fel hawlfraint trydydd parti. Rhaid ichi gael caniatâd i ddefnyddio unrhyw hawlfraint trydydd parti yn uniongyrchol gan y trydydd parti hwnnw.

7.3      Rydych yn cytuno i roi gwybod i ni’n syth os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r Cynnwys neu’r Gwasanaethau.

7.4      Yn amodol ar ddarpariaethau paragraff 14, rydych drwy hyn yn rhoi i ni, ein trwyddedeion a’n haseineion, drwydded ddi-alw’n-ôl, barhaus, ddi-freindal, fyd-eang i gopïo, cyhoeddi copïau, hysbysu’r cyhoedd, darparu ar gyfer y cyhoedd a defnyddio unrhyw ddeunydd y byddwch yn ei drosglwyddo neu’n ei lanlwytho i’r Safle neu’n ei osod arno nad yw’n cael ei drosglwyddo, ei lanlwytho na’i osod yn amodol ar unrhyw ymrwymiad i gyfrinachedd.

8. Eich Gwarantiadau

8.1      Rydych yn gwarantu:

(a)      bod gennych yr hawl, yr awdurdod a’r gallu angenrheidiol i ddefnyddio’r Safle a’r Gwasanaethau (gan gynnwys yr awdurdod i gyflwyno Hawliadau neu unrhyw ffurflenni eraill, lle bo hynny’n berthnasol) ac i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn;

(b)      bod yr holl wybodaeth a manylion a roddwch i ni (gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, y wybodaeth a geir mewn unrhyw Hawliadau neu mewn unrhyw ffurflenni eraill a gyflwynir gennych) yn wir, yn gywir ac yn gyfredol ym mhob ffordd ac ar bob adeg; 

(c)      y byddwch yn cydymffurfio â’r Telerau hyn gan gynnwys, heb gyfyngiad, eich rhwymedigaethau a nodir ym mharagraff 5 uchod.

9. Ymwadiad Cyffredinol a Chyfyngiad ar Atebolrwydd

9.1      Rydych yn deall ac yn cytuno’n benodol eich bod yn defnyddio’r Cynnwys, y Gwasanaethau a’r Deunyddiau ar eich menter eich hun. Darparwn y Safle ar sail “fel y mae” ac "fel y bo ar gael" ac nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantiadau o unrhyw fath o ran y Cynnwys, y Gwasanaethau a/neu’r Deunyddiau (gan gynnwys cywirdeb, amseriad, dibynadwyedd, cyfanrwydd neu addasrwydd i bwrpas unrhyw wybodaeth neu ddatganiadau sydd wedi eu cynnwys ynddynt, na datganiadau, cyngor a barn a roddir gan Ddefnyddwyr am y Safle). Gall y Cynnwys a’r Deunyddiau gynnwys gwallau technegol neu gamgymeriadau argraffyddol.

9.2      Nid ydym yn gwarantu nac yn honni:

(a)      y bydd mynediad i’r Safle neu’r Gwasanaethau neu unrhyw ran ohonynt yn ddi-dor, yn ddibynadwy nac yn ddi-fai; neu

(b)      bod y Safle a neu’r Feddalwedd yn rhydd o firysau neu fygiau neu fod y Safle neu’r gweinyddwyr sy’n achosi iddo fod ar gael yn rhydd o firysau neu fygiau; neu

(c)      y bydd unrhyw wallau mewn unrhyw feddalwedd a gyflenwir fel rhan o'r Gwasanaethau yn cael eu cywiro; neu

(d)      y bydd y Deunyddiau’n gwbl gyfredol a heb wallau.

9.3      Yn benodol nid ydym yn gwneud unrhyw warantiadau o unrhyw fath o ran y Gwasanaethau, boed yn benodol neu’n oblygedig, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i, warantiadau goblygedig ansawdd boddhaol, addasrwydd i ddiben arbennig a heb dor-cyfraith. Yn benodol, nid ydym yn gwarantu nac yn honni:

(a)      y bydd y Gwasanaethau’n bodloni eich gofynion, y byddant yn ddi-dor, yn amserol, yn gwbl ddiogel na heb wallau; neu

(b)      y bydd y canlyniadau a geir o ddefnyddio’r Gwasanaethau’n gywir neu'n ddibynadwy; neu

(c)      y bydd ansawdd unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth na deunyddiau eraill gan gynnwys y Deunyddiau) a gewch drwy’r Gwasanaethau yn unol â’ch disgwyliadau.

9.4      Bydd unrhyw Gynnwys a lawrlwythir neu a geir fel arall drwy ddefnyddio’r Gwasanaethau yn digwydd yn ôl eich disgresiwn ac ar eich menter eich hun ac rydych yn deall ac yn cytuno mai chi’n unig fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’ch system gyfrifiadur neu ddata y gallech eu colli yn sgil lawrlwytho unrhyw Gynnwys o’r fath gennych chi.

9.5      Rydym yn eithrio, i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, bob atebolrwydd sy’n codi am:

(a)      unrhyw anghywirdebau/gwallau neu hepgoriadau technegol, ffeithiol, testunol, teipograffyddol, ar y Safle neu’n gysylltiedig â’r Safle neu’r Cynnwys, y Deunyddiau a/neu’r Gwasanaethau;

(b)      y ffaith nad yw’r Safle (neu unrhyw ran ohono) ar gael;

(c)      unrhyw ddatganiad a wneir gan drydydd partïon sy’n defnyddio’r Safle;

(ch)    unrhyw gamliwio ar y Safle neu’n ymwneud â’r Safle, y Cynnwys a/neu’r Gwasanaethau (heblaw am gamliwio twyllodrus a wnaed gennym ni neu ar ein rhan); neu

(d)      unrhyw oedi wrth ddarparu Gwasanaethau, neu fethiant i’w darparu neu i drefnu eu bod nhw (neu ran ohonynt) ar gael.

9.6      Rydym yn eithrio i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith bob atebolrwydd sy’n codi am unrhyw ddeunydd a osodwyd, a gyhoeddwyd neu a drosglwyddwyd gan Ddefnyddwyr y Safle. Nid ydym yn gwneud unrhyw honiadau ynglŷn â gwybodaeth a roddir ar y Safle (boed o ran eu cywirdeb, digonolrwydd neu gyfanrwydd yr wybodaeth neu ryw agwedd arall arni) ac rydych yn gyfrifol am geisio eich cyngor annibynnol eich hun cyn gweithredu’n ddibynnol arni ac am unrhyw ddefnydd a wnewch ohoni. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw benderfyniad a wneir neu unrhyw gam a gymerir gan Ddefnyddiwr (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw drefniant dan gontract neu fel arall a lunnir rhyngoch chi ac unrhyw drydydd parti neu unrhyw weithgaredd all-lein y byddwch yn cymryd rhan ynddo yn sgil defnyddio’r Safle) yn gysylltiedig â’ch defnydd o’r Safle, ac rydych yn cydnabod yma y bydd y defnydd a wnewch o’r Safle yn ôl eich disgresiwn ac ar eich menter eich hun.

9.7      Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gyfathrebiadau neu ddefnydd arall o’r Safle gan bersonau o dan ddeunaw (18) oed, neu rai nad oes ganddynt yr hawl, yr awdurdod na’r gallu angenrheidiol i ddefnyddio’r Safle neu i gael eu rhwymo gan y Telerau hyn, a hynny’n groes i’r Telerau hyn.

9.8      Ni fyddwn ni nac unrhyw rai o’n gweithwyr, asiantau neu gynrychiolwyr eraill yn atebol boed mewn contract, camwedd, esgeulustod neu fel arall, am unrhyw golled neu niwed o fath yn y byd boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol sy’n codi o’ch defnydd o’r Safle neu’n gysylltiedig â hynny. Mae hwn yn gyfyngiad atebolrwydd cynhwysfawr sy’n berthnasol i bob difrod o unrhyw fath gan gynnwys, heb gyfyngiad, ddifrod i feddalwedd neu galedwedd, colli busnes, colli data, incwm neu elw, iawndal ad-daliadol, uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli eiddo neu ddifrod i eiddo a hawliadau gan drydydd partïon.

9.9      Ni fwriedir i unrhyw rai o’r gwaharddiadau na’r cyfyngiadau yn y Telerau hyn gyfyngu ar unrhyw hawliau statudol na ellir eu heithrio, nac eithrio neu gyfyngu ar ein hatebolrwydd i chi mewn unrhyw ffordd am gamliwio twyllodrus neu am farwolaeth neu anaf i berson o ganlyniad i’n hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr neu’n hasiantau.

9.10    Caiff pob un eithriad a/neu atebolrwydd uchod eu dehongli fel darpariaeth ar wahân a thoradwy o’r Telerau hyn.

9.11    Nid yw rhai awdurdodaethau’n caniatáu ar gyfer eithrio rhai gwarantiadau neu gyfyngu neu eithrio cyfrifoldeb am iawndal cysylltiedig neu ganlyniadol. Yn unol â hynny, mae’n bosibl na fydd rhai o’r cyfyngiadau a’r eithriadau yn y Telerau hyn yn berthnasol i chi.

10. Indemniad

10.1    Rydych yn cytuno i’n rhyddarbed a’n digolledu am unrhyw hawliadau neu iawndal (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol cysylltiedig â hyn) a wneir gan unrhyw berson mewn cysylltiad ag unrhyw fater yn ymwneud â’ch defnydd o’r Safle a/neu’r Gwasanaethau a/neu’ch statws fel Defnyddiwr y Safle neu’n codi o hynny, neu yn sgil unrhyw achos ohonoch yn torri neu amheuaeth eich bod wedi torri’r Telerau hyn neu ohonoch yn mynd yn groes i unrhyw ddeddf neu wedi troseddu yn erbyn hawliau unrhyw berson.

11. Defnyddio, Addasu, Atal dros dro a Therfynu’r Gwasanaethau

11.1    Bydd hawl gennych i ddiddymu eich cofrestriad ar unrhyw adeg trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar-lein a ddarperir trwy ddilyn y ddolen: 
https://www.llyw.cymru/mewngofnodi-i-wefo-ar-lein.

11.2    Rydym yn cadw’r hawl i ddiwygio, addasu, newid neu ddiweddaru’r Safle (gan gynnwys y Cynnwys) a'r Gwasanaethau (gan gynnwys y Deunyddiau) a/neu'r Telerau hyn ac rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan yr addasiadau, y newidiadau neu’r diweddariadau hynny sy’n cael eu gosod ar y Safle. Drwy barhau i ddefnyddio’r Safle ar ôl i unrhyw gyfryw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau gael eu gosod, byddwch yn dangos eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y diwygiadau hynny. Rydych yn gyfrifol am gadw llygad ar y Telerau hyn a’r Safle am unrhyw addasiadau, newidiadau neu ddiweddariadau.

11.3    Rydym yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i’w gilydd fel y gwelwn yn dda a chan roi neu beidio â rhoi rhybudd:

(a)      i wadu mynediad i Ddefnyddwyr i’r Safle neu unrhyw ran ohono ac i wrthod darparu Gwasanaethau i unrhyw Ddefnyddiwr sy’n torri’r Telerau hyn; a/neu

(b)      i addasu neu derfynu’r Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) neu’ch defnydd unigol o’r Gwasanaethau dros dro neu’n barhaol. Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am addasu, atal dros dro neu derfynu’r Gwasanaethau felly; neu

(c)      i ddiddymu eich cofrestriad a/neu dynnu’n ôl eich hawl i ddefnyddio’r Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt). Rydych yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am y cyfryw ddiddymu neu dynnu’n ôl.

11.4    Mae ein hawliau o dan baragraff 11 yn ychwanegol at ein holl hawliau o dan y Telerau hyn neu fel arall ac nid ydynt yn amharu arnynt.

12. Defnydd a Storio

12.1    Rydych yn cytuno nad ydym yn gyfrifol nac yn atebol o gwbl am ddileu neu beidio â chadw unrhyw negeseuon neu gyfathrebiadau eraill a gaiff eu cynnal neu eu trosglwyddo fel rhan o’r Gwasanaethau. Rydych yn cydnabod ymhellach ein bod yn cadw’r hawl i newid yr arferion cyffredinol hyn yn ôl ein disgresiwn ein hunain yn unig a chan roi neu beidio â rhoi rhybudd.

13. Dolenni Trydydd Parti

13.1    O bryd i’w gilydd mae’n bosibl y byddwn yn darparu dolenni o’r Safle i wefannau trydydd parti. Ni fyddwn yn atebol mewn unrhyw ffordd o gwbl ac nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantiadau, argymhellion na chymeradwyaeth yn gysylltiedig â’r ffaith fod unrhyw wefan o’r fath ar gael nac unrhyw gynnwys, hysbysebion, cynhyrchion neu Wasanaethau sydd ar wefannau felly neu ar gael oddi arnynt.

13.2    Drwy gynnig y dolenni y cyfeirir atynt uchod i chi, nid ydym un ai drwy awgrym nac yn uniongyrchol yn cefnogi unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys ar wefannau felly nac yn cadarnhau unrhyw gysylltiad â gweithredwyr gwefannau o’r fath. Rydym yn benodol yn gwrthod bod yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd gwallus, tramgwyddus, difenwol neu anweddus sy’n ymddangos ar y gwefannau trydydd parti hyn.

14 Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data

14.1    Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gyflwynwch i ni, ar-lein a hefyd drwy’r Safle ac all-lein, yn unol â deddfwriaeth fel Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (y “Ddeddf”). Ni fyddwn yn rhannu, gwerthu na rhentu’r wybodaeth y byddwch yn ei darparu i unrhyw berson, cwmni neu sefydliad neu gydag unrhyw berson, cwmni neu sefydliad mewn unrhyw ffordd ac eithrio fel y nodir yn y Telerau hyn (gan gynnwys paragraff 15 isod ond heb fod yn gyfyngedig iddo) neu fel sy’n ofynnol gan ein polisïau mewnol.

14.2    Yn ystod y broses gofrestru neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny pan allech chi ateb cwestiynau mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol gennych chi, fel eich enw, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad cartref a rhifau ffôn cyswllt. Bydd y wybodaeth bersonol hon yn cael ei rheoli yn unol â'r Deddfau, ynghyd â hysbysiad Preifatrwydd Grantiau Llywodraeth Cymru, y gellir gweld copi ohono yma: https://www.llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-grantiau-llywodraeth-cymru. Gallwn ddefnyddio gwybodaeth rydym wedi ei chasglu i wella a rhedeg y Safle, cysylltu â chi, darparu ystadegau defnydd i Lywodraeth Cymru a/neu ddibenion adrodd am arian Ewropeaidd ac at unrhyw ddiben arall a ganiatewch. Mae’n ofynnol ein bod yn cadw a chasglu gwybodaeth am y wlad rydych chi’n byw ynddi. Drwy ddatgelu gwybodaeth bersonol i ni, rydych chi yn rhoi eich caniatâd i gasglu, storio a phrosesu gwybodaeth yn unol â’r hyn a nodir yn y Telerau hyn.

14.3    Byddwn yn dilyn camau diogelwch priodol wrth storio gwybodaeth bersonol er mwyn rhwystro mynediad heb awdurdod gan drydydd partïon. Er hynny, nid yw’r Rhyngrwyd yn gyfrwng cwbl ddiogel ac rydych yn cydnabod ac yn cytuno, i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, na fyddwn yn gyfrifol am unrhyw ddata personol a gaiff eu defnyddio, eu dosbarthu, eu difrodi na’u difetha heb awdurdod.

14.4    Byddwn yn ceisio sicrhau bod pob un o’n darparwyr gwasanaeth, isgontractwyr ac asiantau sy’n rhan o ddarparu’r Gwasanaethau (neu unrhyw un ohonynt) yn cydymffurfio â’r Ddeddf yn ogystal â chontractwyr trydydd parti rydym yn eu cyflogi i drwsio, addasu neu roi cyngor ynghylch gweithredu’r Safle.

14.5    Mae'r Safle yn storio ffeiliau testun bach, sef "cwcis", ar eich cyfrifiadur neu ddyfais (e.e. llechen neu ffôn symudol) tra'ch bod wedi mewngofnodi i'r Gwasanaethau. Gelwir y rhain yn "Cwcis Sesiwn" ac maent yn cynnwys gwybodaeth i'ch adnabod pan fyddwch yn defnyddio'r Safle ac yn symud o un dudalen i'r llall. Cânt eu dinistrio pan fyddwch yn allgofnodi neu'n cau eich porwr.

14.6    Hefyd, mae'r Safle yn defnyddio Google Analytics, sef gwasanaeth dadansoddi'r we a ddarperir gan Google Inc. (“Google”), i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych yn defnyddio'r Safle a/neu'r Gwasanaethau. Gwnawn hyn er mwyn sicrhau bod y Safle yn diwallu anghenion ei ddefnyddwyr ac er mwyn helpu i wneud gwelliannau. Mae Google Analytics yn defnyddio "cwcis" a chod Javascript er mwyn dadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau a chaiff y cwcis hyn eu dinistrio yn unol â'r dyddiadau dod i ben a ddangosir isod yn adran 14.9.

14.7    Caiff y wybodaeth a gynhyrchir am eich defnydd o'r Safle (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) ei throsglwyddo a'i storio ar weinyddwyr Google yn y Deyrnas Unedig. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata personol arall a gadwyd yn flaenorol ac nid ydym yn datgelu eich gwybodaeth bersonol iddo (e.e. eich enw neu'ch cyfeiriad) felly ni ellir defnyddio'r wybodaeth hon i'ch adnabod. Hefyd, nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol (oni fydd angen gwneud hynny o dan y gyfraith neu lle mae'r cyfryw trydydd partïon yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google). Drwy ddefnyddio'r Safle, rydych yn caniatáu i Google brosesu data amdanoch yn y ffordd ac at y dibenion a nodir uchod.

14.8    Er bod modd atal eich porwr rhag derbyn cwcis, mae'r rhain yn angenrheidiol er mwyn gwneud i'r Gwasanaethau weithio ac felly ni allwch ddefnyddio'r Gwasanaethau heb gwcis. Gallwch eithrio o Google Analytics drwy lawrlwytho a gosod adnodd “Google Analytics Opt-out Browser Add-on” sydd ar gael ar wefan Google.

14.9    Disgrifir y cwcis a ddefnyddir gennym ar y Safle isod:

Cwci

Diben 

Dyddiad dod i ben

JSESSIONID

Cyfuniad ar hap o lythrennau a rhifau - fe'i defnyddir i gynnal sesiwn gyfredol WEFO Ar-lein.

Pan fyddwch yn allgofnodi neu'n cau eich porwr

_ga

Defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr

2 flynedd

_gat

Fe'i defnyddir i gyflymu'r gyfradd gwneud cais.

10 munud

GoogleAnalytics:

 

_utma

_utmb

_utmc

_utmz

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am y ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio'r Safle.  Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i'n helpu i wella'r Safle.  Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn modd dienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â'r Safle, a ydynt wedi ymweld o'r blaen, a'r tudalennau y maent wedi ymweld â nhw.

[                      ]

 

14.10  Nid ydym yn gyfrifol am y defnydd o cwcis gan unrhyw wefannau trydydd parti rydym yn gysylltiedig â hwy neu y gellir darparu dolenni iddynt yn unol â pharagraff 13 uchod gan gynnwys dolenni i wefan Porth y Llywodraeth, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny

14.11  Mae ein gweithdrefnau diogelwch ar gyfer storio a datgelu manylion cwsmeriaid yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf. Pan fo’r Safle yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti, dylech nodi nad ydym yn gyfrifol am arferion na pholisïau preifatrwydd eraill perchnogion a gweithredwyr y gwefannau hynny. Felly rydym yn eich annog i ddarllen datganiadau a pholisïau preifatrwydd pob gwefan trydydd parti y gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth bersonol iddi.

14.12  Ac eithrio pan fo’n ofynnol yn ôl y gyfraith (gan gynnwys cyfraith yr Undeb Ewropeaidd) i ddatgelu eich gwybodaeth, ac yn unol â darpariaethau paragraff 15 isod, ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i drydydd parti heb eich caniatâd.

14.13  Bydd gan eich swyddogion, gweithwyr a/neu Unigolion Cyswllt hawl mynediad at unrhyw wybodaeth bersonol all fod yn ein meddiant amdanynt (y gallwn godi tâl bychan amdani) a bydd hawl ganddynt i gywiro unrhyw beth sy’n anghywir yn eu gwybodaeth.

15 Rhyddid Gwybodaeth

y'u nodwyd yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall. Er y gallem ddatgelu’r holl wybodaeth a rowch i ni, mae eithriadau sy’n gallu diogelu gwybodaeth gyfrinachol neu sy’n fasnachol sensitif. Byddwn yn eithrio’r wybodaeth honno rhag cael ei datgelu, lle bo tystiolaeth bod yr wybodaeth yn wirioneddol gyfrinachol neu lle byddai ei datgelu yn niweidiol i’ch buddiannau masnachol chi, neu’n buddiannau masnachol ni, a'r budd cyhoeddus wrth gymhwyso'r eithriad.

15.2    Fel rheol byddwn yn ymgynghori â chi os byddwn yn derbyn cais am yr wybodaeth yr ydych wedi’i darparu.

15.3    Er gwaethaf darpariaethau 15.1 a 15.2 uchod, gallwn ddatgelu unrhyw wybodaeth amdanoch yr ydym, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, yn ystyried ei bod yn ofynnol inni ei datgelu yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a/neu unrhyw ofynion statudol eraill.

16 Hysbysiadau a llofnodion electronig

16.1    Mae defnyddwyr a'u sefydliadau yn cydnabod ac yn derbyn y canlynol:

(a)      yn achos data a anfonwyd neu a dderbyniwyd drwy WEFO Ar-lein, mae rhagdybiaeth gyfreithiol o blaid cyfanrwydd y data a chywirdeb y dyddiad a'r amser pan anfonwyd neu y derbyniwyd y data (fel y nodir gan WEFO Ar-lein);

(b)      mae dogfen a anfonwyd neu a hysbyswyd drwy WEFO Ar-lein yn cael ei hystyried yn gyfwerth â dogfen bapur; mae’n dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol, caiff ei hystyried yn ddogfen wreiddiol ac mae rhagdybiaeth gyfreithiol o blaid ei dilysrwydd a'i chyfanrwydd, ar yr amod nad yw'n cynnwys unrhyw nodweddion deinamig sy'n gallu ei newid yn awtomatig;

(c)      mae llofnodion electronig a wnaed gan ddefnyddwyr drwy WEFO Ar-lein yn cael effaith gyfreithiol sy'n cyfateb i lofnodion wedi'u hysgrifennu â llaw.

16.2    Mae defnyddwyr a'u sefydliadau yn cydnabod ac yn derbyn y canlynol:

(a)      mae unrhyw ddogfen gyfathrebu neu ddogfen a anfonir neu a hysbysir drwy ddefnyddio unrhyw fath o lofnod electronig drwy WEFO Ar-lein yn cael ei hystyried yn gyfwerth â dogfen bapur wedi'i llofnodi â llaw a bydd yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol ac yn ddigonol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol;

(b)      Ystyrir bod unrhyw gontract wedi'i lofnodi drwy ddefnyddio unrhyw fath o lofnod electronig drwy WEFO Ar-lein yn gyfwerth â chontract papur wedi'i lofnodi â llaw a bydd yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol ac yn ddigonol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol;

(c)      ni allant ddadlau: (i) bodolaeth neu ddilysrwydd unrhyw gyfathrebiad, dogfen neu gontract wedi'i lofnodi drwy ddefnyddio unrhyw fath o lofnod electronig drwy WEFO Ar-lein; neu (ii) derbynioldeb unrhyw gyfathrebu, dogfen neu gontract a gyflwynwyd neu a lofnodwyd drwy WEFO Ar-lein fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol, ar yr unig sail bod cyfathrebiad, dogfen neu gontract o'r fath wedi cael eu cyflwyno'n electronig drwy WEFO Ar-lein neu wedi'u llofnodi â llofnod electronig.

17 Cyffredinol

17.1    Os bydd unrhyw lys yn penderfynu nad oes modd gorfodi unrhyw un o ddarpariaethau’r Telerau hyn, caiff ei dileu a bydd gweddill y darpariaethau’n parhau’n llawn o ran eu grym a’u heffaith.

17.2    Ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw achos o fethu â mynd at y Safle, unrhyw Gynnwys neu Wasanaethau nac am atal dros dro na therfynu'r mynediad hwnnw sy’n codi yn sgil digwyddiad force majeure, neu yn sgil gweithredoedd neu reoliadau unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch-genedlaethol, neu os nad yw ein gweinyddion yn gweithio. Bydd digwyddiad force majeure yn cynnwys, heb fod yn gyfyngedig i hynny, fethiant yn y seilwaith, ymyrraeth gan y llywodraeth, rhyfeloedd, helynt sifil, herwgipio, tân, llifogydd, storm, streic, cau allan, ymosodiad terfysgol neu weithredu diwydiannol sy’n effeithio arnom ni neu ar ein cyflenwyr.

17.3    Mae eich hawliau a’ch rhwymedigaethau o dan y Telerau hyn yn bersonol i chi, ac rydych yn ymrwymo na fyddwch yn aseinio, yn lesio, yn arwystlo, yn isdrwyddedu nac yn trosglwyddo’r cyfryw hawliau a’r rhwymedigaethau hynny’n gyfan gwbl neu’n rhannol nac yn awgrymu eich bod yn gwneud hynny.

17.4    Ni chaiff dim yn y telerau hyn (fel y’u diwygir gennym o bryd i’w gilydd) greu unrhyw hawl neu fudd i unrhyw drydydd parti dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999. Nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan drydydd parti na’i hawl i gael iawn os yw’r hawliau hynny'n bodoli neu ar gael y tu allan i ddarpariaethau’r Ddeddf honno.

17.5    Bydd y Telerau hyn yn rheoli eich mynediad at y Gwasanaethau ac ni chewch chi gynnig unrhyw delerau ac amodau eraill.

17.6    Cynhwysir penawdau’r adrannau er hwylustod yn unig ac ni chânt effeithio ar y ffordd y dehonglir y Telerau hyn.

17.7    Ni fydd unrhyw fethiant neu oedi ar ein rhan i fynnu unrhyw hawl neu hawl i gael iawn dan y telerau hyn yn golygu ein bod yn ildio hawl neu hawl i gael iawn o'r fath nac ychwaith yn ein hatal rhag defnyddio'r hawl honno neu unrhyw hawl neu hawl i gael iawn rywbryd eto.

17.8    Gellir anfon hysbysiadau atoch naill ai drwy’r e-bost neu drwy’r post cyffredin. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn eich hysbysu ynglŷn â newidiadau i’r Telerau neu i faterion eraill drwy ddangos hysbysiadau neu ddolenni at hysbysiadau’n gyffredinol ar y Safle.

17.9    Caiff y Telerau hyn eu llywodraethu a’u deall yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac rydych yn cytuno i ymddarostwng i awdurdodaeth benodol Llysoedd Cymru a Lloegr.

18. Adborth a Chwynion

18.1    Os oes gennych unrhyw gŵyn am Ddefnyddiwr arall neu am unrhyw agwedd ar y Safle neu’r Gwasanaethau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu yr hoffech gynnig adborth arall, yna, cewch gysylltu â ni drwy ddilyn y ddolen ‘cysylltu â ni’ ar Mewngofnodi i WEFO Ar-lein.