Sut i newid manylion eich proffil defnyddiwr ar gyfer eich cyfrif WEFO Ar-lein
Bwriedir y canllawiau hyn ar gyfer defnyddwyr sydd am newid manylion eu proffil defnyddwyr ar eu cyfrif WEFO Ar-lein. I gael arweiniad ar sut i newid eich cyfrinair neu ar sut i newid eich dewisiadau diogelwch, ewch i ganllawiau WEFO Ar-lein
I newid eich proffil defnyddiwr, bydd angen ichi fewngofnodi i'ch cyfrif WEFO Ar-lein
- ewch i mewngofnodi i WEFO Ar-lein:
- dewiswch Mewngofnodi
- o dudalen Porth y Llywodraeth, rhowch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch Cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, yna dewiswch Mewngofnodi
- os ydych wedi sefydlu mwy nag un cod mynediad, dewiswch Neges destun, Galwad llais neu Ap Dilysu ar gyfer ffôn clyfar neu lechen, yna dewiswch Parhau
- Rhowch y cod mynediad, yna dewiswch Parhau, a byddwch yn cael eich mewngofnodi i WEFO Ar-lein
- dewiswch eich enw defnyddiwr
I newid eich Rhif ffôn, eich Rhif ffôn symudol neu Deitl eich Swydd
- dewiswch Golygu yn yr adran Manylion personol
- rhowch y Rhif ffôn newydd, y Rhif ffôn symudol newydd, Teitl newydd eich Swydd, yna dewiswch Cyflwyno
I newid eich Cyfeiriad presennol
- dewiswch Golygu yn yr adran Manylion Cyfeiriad
- dewiswch Golygu cyfeiriad presennol yna dewiswch Parhau
- nodwch Rhif yr Adeilad neu Enw’r Adeilad, eich Cyfeiriad gan gynnwys Tref neu Ddinas, Sir, Cod Post, dewiswch Gwlad o'r gwymplen, yna dewiswch Cyflwyno
Newid eich Cyfeiriad i gyfeiriad presennol sy'n gysylltiedig â'r Parti Busnes
- dewiswch Golygu yn yr adran manylion Cyfeiriad
- dewiswch Cyfeiriad presennol sy'n gysylltiedig â'r Parti Busnes yna dewiswch Parhau
- chwiliwch am y cyfeiriad cywir yna pwyswch Dewis
I newid eich Dewisiadau Iaith
- dim ond os ydych yn cael cyllid oddi wrth WEFO y dylech lenwi’r adran hon
- dewiswch Golygu yn yr adran Dewisiadau Iaith
- dewiswch eich dewis iaith ar gyfer Galwadau ffôn, Gohebiaeth ysgrifenedig, Negeseuon e-byst, Cyfarfodydd yna dewiswch Cyflwyno