Vikki Howells AS Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Strategaeth, polisi a chyllid Addysg Drydyddol ac Ymchwil
- Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)
- Ansawdd addysg drydyddol a phrofiad dysgwyr
- Gweithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022
- Gweithlu Addysg Ôl-16 gan gynnwys ymgysylltu, tâl ac amodau, llwyth gwaith a llesiant
- Trefniadau Cymorth i Fyfyrwyr gan gynnwys y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, Cyllid Myfyrwyr Addysg Uwch ac arwain o ran y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
- Strategaeth a dysgu rhyngwladol, gan gynnwys y Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (Taith) a Chymru Fyd-eang
- Strategaeth, polisi a chyllid Dysgu Oedolion yn y Gymuned
- Dysgu Gydol Oes
- Dysgu Carcharorion
- Y Fframwaith Credydau a Chymwysterau
- Cynyddu ac ehangu cyfranogiad ôl-16
Bywgraffiad
Vikki Howells yw’r Aelod o’r Senedd dros Gwm Cynon, yn cynrychioli Llafur Cymru. Cafodd Vikki ei geni a’i magu yn yr etholaeth, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru yn Aberdâr. Yna, aeth i Brifysgol Cymru, Caerdydd, lle enillodd radd baglor mewn Hanes Rhyngwladol a Hanes Cymru, yn ogystal â gradd meistr mewn Hanes Cymru Fodern. Wrth astudio yng Nghaerdydd, enillodd Vikki wobr Charles Morgan yn sgil ei chyfraniad i faes Hanes Cymru.
Roedd Vikki yn athrawes Hanes yn Ysgol Gymunedol Cenydd Sant yng Nghaerffili rhwng 2000 a 2016. Ymgymerodd ag amryw rolau bugeiliol yno, gan wasanaethu’n fwyaf diweddar fel Pennaeth Cynorthwyol y Chweched Dosbarth. Mae Vikki hefyd wedi gweithio fel mentor ar gyfer athrawon dan hyfforddiant ac wedi eistedd ar y panel derbyn ar gyfer cwrs TAR Hanes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Etholwyd Vikki i Gadeirydd Grŵp Llafur Cymru o Aelodau'r Senedd ym mis Tachwedd 2017 a bu'n Gadeirydd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd rhwng 2021 a 2024.
Ar 11 Medi 2024, penodwyd Vikki yn Weinidog Addysg Bellach ac Uwch.