Victoria Heath Y Prif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd

Victoria Heath yw'r Prif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd.
Cafodd ei phenodi yn Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf Cymru i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2025.
Mae Victoria yn argymell y ffyrdd mwyaf effeithiol o ddefnyddio gwyddor gofal iechyd i sicrhau polisïau gwell. Mae hyn yn cynnwys moderneiddio technolegau a thriniaethau diagnostig, a chyflwyno rhai newydd.
Mae'n helpu dros 50 o ddisgyblaethau ledled y maes gwyddor gofal iechyd yng Nghymru, yn ogystal â'u cynrychioli, gan gynnwys:
- gwyddorau labordy
- gwyddorau ffisiolegol
- gwyddorau ffisegol a pheirianneg fiofeddygol
- gwybodeg iechyd neu fiowybodeg
- gwyddorau delweddu
Dechreuodd Victoria ar ei gyrfa yn wyddonydd biofeddygol o dan hyfforddiant yn Swydd Rydychen. Cafodd ei chofrestru yn wyddonydd biofeddygol yn 2010 ac yn wyddonydd clinigol yn 2023. Mae ganddi brofiad o rolau ym maes gwyddor gofal iechyd ledled y DU ac yn 2015, aeth i weithio yn Sierra Leone i ymateb i'r brigiad o achosion Ebola Gorllewin Affrica.
Mae Victoria hefyd yn gyfathrebwr gwyddoniaeth sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae hi'n gweithio i godi proffil gyrfaoedd ym maes gwyddor gofal iechyd.