Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Lles Vaughan Gething â chanolfan gofal sylfaenol arloesol newydd ym Mhrestatyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

A hithau wedi’i hagor yn Ebrill eleni, mae canolfan Healthy Prestatyn Iach yn cyfuno tri phractis Meddygon Teulu a oedd yn gweithredu gynt yn yr ardal.

Dywedodd Vaughan Gething AC:

“Mae Healthy Prestatyn Iach yn tynnu ar sgiliau lawer o weithwyr iechyd proffesiynol sy’n gallu cynnig cyngor arbenigol, tra’n rhyddhau Meddygon Teulu i drin pobl sydd â’r cyflyrau mwyaf cymhleth.  Dyma’r model cyntaf o’i fath yn y Gogledd a gall y staff yma ymfalchïo yn yr hyn y maent wedi’i gyflawni. 

“Gwn fod Dr Chris Stockport a’i dîm wedi gweithio’n galed, ynghyd â’r bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol, i wella’r gwasanaeth sydd ar gael.   Rwyf am inni ddefnyddio’r hyn y byddwn yn ei ddysgu o’r model hwn ledled Cymru.”


Mae pum tîm amlddisgyblaeth, gan gynnwys Meddygon Teulu, ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a gweithwyr iechyd cymunedol, wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ofalu am grwpiau penodol o gleifion. Mae hyn yn golygu y caiff cleifion eu gweld yn  uniongyrchol gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol i’w hanghenion gan sicrhau y gall Meddygon Teulu neilltuo eu hamser ar gyfer y cleifion hynny sydd â’r cyflyrau mwyaf cymhleth.  

Dywedodd y tri phractis blaenorol wrth y Bwrdd Iechyd y byddent yn tynnu’n ôl o’u contractau i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol yr hydref diwethaf. Mae’r gwasanaeth newydd eisoes wedi recriwtio o leiaf naw o Feddygon Teulu ac fe’i canmolwyd yr wythnos diwethaf gan gynghorwyr Sir Ddinbych fel esiampl i weddill y Gogledd.