Iechyd Vaughan Gething gynllun cyflawni newydd Llywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.
Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn strategaeth ddeng mlynedd ar draws y llywodraeth i wella lles meddyliol pob preswylydd yng Nghymru. Mae'n strategaeth ar gyfer pobl o bob oedran sy'n cynnwys amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi pobl sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol a pharhaus.
Mae'r strategaeth yn nodi deg maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gwasanaethau a bydd yn cael ei rhoi ar waith drwy gynlluniau cyflawni tair blynedd i'r llywodraeth a rhanddeiliaid. Roedd y cynllun cyflawni cyntaf yn cynnwys y cyfnod 2012-15; mae strategaeth heddiw yn cynnwys 2016-19.
Yn dilyn ymgynghori diweddar, mae'r cynllun cyflawni yn cynnwys nifer o amcanion uchelgeisiol newydd, gan gynnwys:
- Cymorth gwell i bobl ifanc, yn enwedig y rheini sydd mewn perygl o ddioddef profiadau andwyol yn ystod eu plentyndod
- Cynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia
- Camau i fynd i'r afael ag achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio
- Amrywiaeth o gamau i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffordd ddiogel, amserol ac effeithiol gan sicrhau bod y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn cael eu trin ag urddas a pharch
- Nodau i sicrhau bod grwpiau sydd â risg uwch o ddioddef materion iechyd meddwl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt. Mae beichiogrwydd a'r cyfnod ar ôl yr enedigaeth yn gyfnodau heriol, ac mae'r cynllun yn cynnig cymorth ychwanegol i deuluoedd
- Targedau i helpu pobl sy'n dioddef o anhwylder bwyta, pobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog a phobl yn y system cyfiawnder troseddol gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar yr adeg gywir.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae Law yn Llaw at Iechyd Meddwl wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yma yng Nghymru.
"Rydyn ni wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac mae'r cyllid wedi cynyddu i £600m yn 2015-16. Yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydyn ni wedi cyhoeddi £22m o gyllid newydd sy'n gysylltiedig â'n meysydd blaenoriaeth i'w cyflawni dros y tair blynedd nesaf – sef y cyfnod sy'n cael ei gynnwys gan y cynllun cyflawni hwn.
"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl a bod mwy o bobl yn dechrau siarad am hyn. Mae'r stigma sy'n aml yn gysylltiedig ag iechyd meddwl yn parhau i fod yn her fawr. Mae rhoi terfyn ar wahaniaethu ar sail iechyd meddwl yn ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu newydd, ac mae'r cynllun cyflawni newydd yn rhoi hyd yn oed mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â stigma a gwahaniaethu. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.
"Mae cynllun cyflawni heddiw yn nodi ein blaenoriaethau am y tair blynedd nesaf. Bydd materion iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg neu’i gilydd – lle byddwn un ai yn profi'r materion ein hunain neu y byddant yn effeithio ar aelod o'r teulu neu ar rywun rydyn ni'n gweithio gyda nhw bob dydd.
"Rydyn ni am sicrhau bod pawb o bob oedran sydd angen mynediad at wasanaethau iechyd meddwl o ansawdd uchel yn cael y mynediad hwnnw, a'u bod yn cael eu trin ag urddas a pharch."