Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, wedi galw ar bawb yng Nghymru i feddwl am gadw’n iach y gaeaf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Drwy wneud y Dewis Doeth, bydd unigolion yn gallu cynorthwyo gwasanaethau prysur y GIG – gan gynnwys unedau damweiniau ac achosion brys sy’n gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n dod drwy eu drysau bob gaeaf – i helpu’r bobl sydd mewn mwyaf o angen eu gwasanaethau.

Heddiw, aeth Vaughan Gething i gyfarfod cynllunio’r gaeaf lle cafodd staff allweddol y GIG ac Awdurdodau Lleol drafod eu cynlluniau integredig, a’u harchwilio, a rhannu gwybodaeth i baratoi ar gyfer cyfnod y gaeaf sydd o’n blaenau. Dywedodd:  

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld mwy a mwy o bobl yn defnyddio unedau damweiniau ac achosion brys ac yn gwneud galwadau ambiwlans brys adeg y gaeaf. Yn ogystal â’r cynnydd hwnnw, mae nifer y bobl sy’n gweld eu meddyg teulu y tu allan i oriau hefyd wedi codi.  

“Mae Byrddau Iechyd, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac awdurdodau lleol wedi gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu cynlluniau integredig ar gyfer y gaeaf, sydd wedi’u cynllunio i helpu gyda’u hymateb i bwysau’r gaeaf a’r heriau sy’n dod gyda hyn.

“Ond, gallwn ni gyd chwarae ein rhan. Os ydych chi’n gymwys i gael y brechlyn  ffliw yn rhad ac am ddim, dylech chi drefnu i’w gael cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn ichi gael eich amddiffyn gydol yr hydref a’r gaeaf eleni.  

“Os byddwch chi’n sâl, ac os bydd angen sylw meddygol arnoch chi, dylech chi fynd i wefan Dewis Doeth ac edrych ar yr ap sy’n egluro beth mae pob gwasanaeth yn y GIG yn ei wneud. Mewn llawer o achosion, mae pobl yn mynd i unedau damweiniau ac achosion brys pan fyddai’n bosibl iddyn nhw gael cyngor a chael eu gweld a’u hasesu mewn uned mân anafiadau, meddygfa neu fferyllfa".

I wneud y Dewis Doeth, ewch i www.dewisdoethcymru.org.uk/hafan neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47