Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn rhoi ei araith gyntaf i annerch Cynhadledd Conffederasiwn GIG Cymru yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad cyn y gynhadledd, dywedodd Vaughan Gething:

“Roedd 2016 yn flwyddyn dymhestlog i'n cenedl. Doedden ni erioed wedi gweld y fath gynnwrf gwleidyddol ac ansicrwydd a fydd yn cael effaith ar gymdeithas ac ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd i ddod.
 
“Ond, er gwaetha'r ansicrwydd hwnnw, a lefel galw ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol na welwyd erioed mo'i thebyg, cafodd gwell gofal iechyd ei ddarparu gan y Gwasanaeth i bobl ym mhob cwr o Gymru. Erbyn hyn, mae Ambiwlansys Cymru yn perfformio'n well nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. Mae ein cyfraddau goroesi canser ni yma yng Nghymru yn parhau i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae ein hamseroedd aros ni wedi syrthio 20% yn gyffredinol o'u cymharu â'r llynedd. 

“Nid oes gwahaniaeth pa wasanaeth mae pobl yn ei ddefnyddio – yr ysbyty, meddygon teulu, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl – maen nhw'n disgwyl gofal o safon a hynny'n brydlon. Mae gwireddu hyn yn bwysicach inni na dim arall. 
“Mae ein staff ni wedi gweithio'n galed iawn dros gyfnod y gaeaf arbennig o anodd hwn ac mae'r amseroedd aros am ofal wedi’i gynllunio a phrofion diagnostig wedi lleihau'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad i werthoedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac am ddarparu gofal o ansawdd uchel. 

“Dw i'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni, ond dw i am inni fod yn fwy uchelgeisiol eto ar gyfer 2017. Dw i am inni barhau i leihau amseroedd aros am ofal wedi'i gynllunio ac am brofion diagnostig. Dw i hefyd am inni adeiladu gwasanaeth iechyd sy'n diwallu anghenion ein cleifion; gwasanaeth sy'n gynaliadwy, er gwaetha'r heriau sy'n ei wynebu. 

“Mae hi'n hanfodol diwygio ar gyfer y dyfodol. Os na fyddwn ni'n diwygio, fyddwn ni ddim yn newid nac yn gwella i’r graddau angenrheidiol. 

“Dyma ein huchelgais ni. Fydd hi ddim yn hawdd ond fe fydd hi’n werth chweil. 

"Mae'n hen bryd cydnabod perfformiad da. Dw i am annog y byrddau a'r ymddiriedolaethau sy'n gweithredu'n dda, sy'n cyflawni ar ran pobl leol, a chymell ein gwasanaeth iechyd i ragori. Byddwn ni'n ymchwilio i weld sut fydd orau inni wneud hyn."