Neidio i'r prif gynnwy

Dylai pob un ohonon ni fod yn falch o’r twf yn nifer y bobl sy’n goroesi canser yng Nghymru, ond mae yna dal lle i wella.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyfraddau goroesi canser yn dal i godi yng Nghymru flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae mwy na hanner y rheini sy’n cael canser nawr yn goroesi am bum mlynedd ar ôl cael y diagnosis ac mae marwolaeth cyn pryd ymhlith pobl sydd â chanser wedi syrthio tua 14 y cant yn y deng mlynedd diwethaf. Yn ôl arolwg cleifion canser 2013 hefyd, roedd 96 y cant o’r cleifion yn hapus â’r gofal roedden nhw’n ei gael.  

Mae byrddau iechyd yn gweithio’n galed i fodloni’r amseroedd aros canser heriol sydd wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, cafodd 28 y cant yn rhagor o bobl eu gweld, a chael diagnosis a dechrau ar eu triniaeth o fewn amser aros y llwybr brys amheuaeth o ganser fwy na phum mlynedd yn ôl.  

Dywedodd Vaughan Gething: 

“Dw i wedi bod yn gefnogwr brwd o Gofal Canser Macmillan ers blynyddoedd lawer a dw i wedi gweld, â’m llygaid fy hun, y gwaith trawiadol maen nhw’n ei wneud i gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser.  

“Dw i’n ymwybodol iawn ein bod ni’n wynebu tipyn o her yn sgil y twf yn nifer y bobl y mae canser yn cyffwrdd â’u bywydau. Mae hyn ar adeg o bwysau cynyddol ar adnoddau’r GIG hefyd, wrth gwrs. 

“Dw i wedi ymrwymo i ddull cydweithredol yng Nghymru – gan weithio gydag elusennau fel Macmillian a Tenovus – i ymateb i’r galw ar wasanaethau canser, a sicrhau bod pobl yn cael y canlyniad a’r profiad gorau posibl.

“Nid hap a damwain yw’r cyfraddau goroesi canser cadarnhaol rydyn ni’n eu gweld; gwaith caled clinigwyr, rheolwyr, cynllunwyr a’r gwaith sy’n cael ei wneud i weithredu ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn llwyddiannus sydd tu ôl i’r cyfraddau hyn.  

“Rhaid inni nawr adeiladu ar nodweddion cadarnhaol y cynllun yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Rhaid inni ei gryfhau, a thrawsnewid y broses o roi diagnosis yng Nghymru er mwyn dal y mwyafrif o ganserau ar adegau pan fyddant yn haws i’w trin.

“I fwy a mwy ohonon ni, bydd canser yn cael ei drin yn llwyddiannus ond allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. Dw i am weld system gofal iechyd sy’n cyflawni canlyniadau gyda’r gorau yn y byd, y gallwn ni ei haddasu i anghenion unigolion. System sy’n barod ar gyfer y technegau a’r treialon clinigol diweddaraf. Yr unig ffordd allwn ni wireddu hyn yw drwy weithio gyda’n gilydd.”