Mae Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw gynlluniau ar gyfer cronfa triniaethau newydd gwerth £80m ac adolygiad o'r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR).
Bydd y gronfa triniaethau newydd hon yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r meddyginiaethau mwyaf arloesol a chostus, sy'n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), i wasanaeth iechyd Cymru.
Bydd cyfanswm o £80m ar gael yn ystod tymor y llywodraeth hon. Bydd y gronfa yn gam ymlaen o ran sicrhau bod triniaethau ar gyfer clefydau sy'n cyfyngu neu'n peryglu bywydau pobl, ac sy'n cael eu cymeradwyo gan NICE neu AWMSG, ar gael yn ddi-oed ac yn gyson ledled Cymru.
Dywedodd Vaughan Gething:
Rydyn ni wedi ymrwymo i wella'r ffordd y mae triniaethau arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn cael eu cyflwyno i'r gwasanaeth iechyd. Byddwn yn mynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno cronfa triniaethau newydd yng Nghymru.
Mae'r galw cynyddol ar ofal iechyd a'r datblygiadau cyson mewn meddyginiaethau newydd sy'n aml yn rai drudfawr, yn rhoi dyletswydd arnom ni i sicrhau ein bod yn buddsoddi ein hadnoddau prin yn y meysydd hynny lle mae eu budd amlwg yn gymesur â'r gost.
Mae'n hanfodol bod y gronfa yn cael ei rhedeg mewn modd dryloyw a bod dealltwriaeth dda ohoni. Dros yr haf byddwn yn gweithio'n galed i amlygu'r meini prawf a'r systemau y bydd eu hangen er mwyn rheoli'r gronfa yn effeithiol.
Yn anad dim, bydd y gronfa yn sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru ffordd gynt at driniaethau sy'n newid ac yn arbed bywydau.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd y bydd adolygiad o'r broses IPFR yng Nghymru yn cael ei gynnal, i adolygu'r meini prawf clinigol y mae'n rhaid eu bodloni i fod yn gymwys ar gyfer y triniaethau nad ydynt yn cael eu cynnig yn arferol gan y GIG.
Bydd y panel adolygu annibynnol yn manteisio i'r eithaf ar arbenigedd a phrofiad o'r system yng Nghymru, yn ogystal â chynnig safbwynt newydd o'r tu allan i Gymru. Bydd barn y claf hefyd yn ganolog i'r adolygiad.
Wrth drafod y broses IPFR newydd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Mae'n briodol bod gennym ni broses yma yng Nghymru sy'n galluogi pobl i gael triniaethau a dyfeisiau sydd ddim fel arfer ar gael gan y GIG. Mae gan bob gwasanaeth iechyd yn y DU broses o'r fath, gyda meini prawf clinigol i bennu cymhwysedd.
Mae proses GIG Cymru wedi ei gwella ers adolygiad 2013-14. Bydd adolygiad pellach yn cael ei gynnal nawr i sicrhau bod penderfyniadau yn gyson ledled Cymru ac i argymell pa feini prawf y dylid eu bodloni er mwyn bod yn gymwys am y driniaeth.
Bydd yr adolygiad o'r IPFR yn un byr, gydag amcanion clir, a byddaf yn cyhoeddi'r cynnydd ym mis Medi.