Neidio i'r prif gynnwy

Mae GIG Cymru ar fin elwa ar fuddsoddiad o £16.345m eleni mewn offer delweddu diagnostig newydd, gan gynnwys offer MRI a CT newydd a thechnoleg sganio cardiaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae’r galw am  wasanaethau diagnostig yn parhau i gynyddu, ac mae'n hanfodol bod cleifion yn gallu elwa ar yr offer gorau posibl. Mae'r buddsoddiad hwn yn golygu y gall ysbytai ddisodli sganwyr presennol â thechnoleg ddiagnostig a delweddu newydd arloesol."

Mae'r cyllid yn cynnwys: 

  • Caiff Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Prifysgol Llandochau dechnoleg camera Gamma uwch-dechnoleg newydd gyda  buddsoddiad o £4.5m. 
  • Bydd Ysbyty Gwynedd yn elwa ar sganiwr MRI newydd ar gost o £1.680m;
  • Bydd Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent yn cael budd o fuddsoddiad o £2.650m mewn ystafelloedd MRI a mamograffeg;
  • Caiff ysbyty Bronglais ac Ysbyty’r Tywysog Philip fuddsoddiad o £2.225m ar gyfer sganiwr MRI newydd a pheiriant pelydr-x diagnostig cardiaidd newydd.

Ychwanegodd Vaughan Gething:

"Bydd disodli’r hen sganwyr â thechnoleg newydd, cyflymach a mwy dibynadwy yn helpu i leihau achosion o ddileu apwyntiadau ac yn caniatáu i fwy o gleifion gael profion diagnostig, gan leihau amseroedd aros a gwella gofal.

"Mae'r datblygiadau newydd ym maes sganio CT yn golygu bod y dechnoleg ddiweddaraf yn ddigon cyflym i 'rewi' symudiad curiad y galon. Diolch i'r buddsoddiad hwn, bydd cleifion Cymru yn gallu elwa ar hyn cyn bo hir."