Heddiw, croesawodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, lwyddiant cyfnod peilot y gwasanaeth 111 a chomisiynodd cynlluniau i ystyried sut y byddai modd datblygu’r gwasanaeth yn y dyfodol.
Mae’r rhif 111 yn cyfarwyddo cleifion at y gwasanaeth sydd fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion o safbwynt clinigol, ac yn darparu cyngor iechyd a chymorth gofal brys drwy wasanaeth ffôn di-dâl. Mae ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.
Mae’r gwasanaeth yn dod â galw Iechyd Cymru a’r gwasanaeth ateb galwadau a brysbennu meddygon teulu y tu allan i oriau at ei gilydd yn un gwasanaeth, gan helpu cleifion i wneud y penderfyniadau cywir am eu gofal.
Cafodd y gwasanaeth, sy’n wahanol i fodeli eraill yn y DU oherwydd bod ganddo gyfran uwch o staff yn perthyn iddo, ei lansio fel peilot ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ym mis Hydref 2016, a’i ymestyn i Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2017.
Rhwng 4 Hydref 2016 a 30 Ebrill 2017 mae’r gwasanaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi ateb mwy na 73,000 o alwadau.
Dywedodd Vaughan Gething:
“Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael gan glinigwyr lleol, staff gweithredol ac, yn bwysicach na hynny, y cyhoedd sydd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth 111 wedi bod yn bositif iawn. Mae hyn yn newyddion da iawn ac yn arwydd clir bod y peilot wedi bod yn llwyddiant hyd yma.
“Rwy’n falch gyda’r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma a hoffwn ddiolch i’r tîm 111, clinigwyr a staff gweithredol am eu gwaith caled yn darparu’r gwasanaeth. Roeddwn i’n lwcus o weld aelodau’r tîm 111 wrth eu gwaith yn ddiweddar ac fe gafodd yr hyn a welais i dipyn o argraff arnaf i.
“Rydw i wedi comisiynu gwerthusiad o’r peilot hyd yma er mwyn inni allu dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Rydw i hefyd wedi gofyn i’r Bwrdd Rhaglen 111 ddarparu cynllun cadarn imi erbyn hydref 2017 ar gyfer datblygu’r gwasanaeth. Rwy’n disgwyl i’r cynllun hwn amlinellu opsiynau ar gyfer sut y gallai’r gwasanaeth 111 weithredu ar i’r peilot ddod i ben, fel gwasanaeth cenedlaethol i gefnogi cleifion a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i drin cleifion sydd ag anghenion gofal brys yn fwy effeithiol.
“Rydw i’n meddwl y bydd 111 yn rhoi tipyn o gyfleoedd inni i sicrhau bod cleifion yn cael y gwasanaeth mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, ar yr amser cywir ac yn y lle cywir. Mae rhai penderfyniadau mawr i’w gwneud o hyd, ond rydw i wedi dweud yn glir mai gwneud pethau’n iawn, nid eu gwneud nhw’n gyflym, sy’n bwysig.”