Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r nifer uchaf erioed o nyrsys, bydwragedd, ymgynghorwyr ysbyty a gweithwyr ambiwlans cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ôl yr ystadegau:

  • Roedd 76,288 o staff cyfwerth ag amser llawn yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Iechyd ym mis Medi 2016. Roedd hyn 3.2 y cant (2,330) yn uwch na 2015 a'r nifer uchaf erioed.
  • Roedd 2,369 o ymgynghorwyr ysbyty cyfwerth ag amser llawn yn 2016, cynnydd o 2.9 y cant (66) ers 2015 a'r nifer uchaf erioed.
  • Roedd 22,479 o nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd cymwys cyfwerth ag amser llawn yn 2016, cynnydd o 1.3 y cant (286) ers 2015.
  • Roedd 2,045 o weithwyr ambiwlans cyfwerth ag amser llawn yn 2016, cynnydd o 0.7 y cant (14) ers 2015 a'r nifer uchaf erioed.
  • Roedd 12,429 o staff gwyddonol, therapiwtig a thechnegol cyfwerth ag amser llawn yn 2016, cynnydd o 3.8 y cant (457) ers 2015 a'r nifer uchaf erioed.

Cafodd ystadegau ar nifer y meddygon teulu yng Nghymru hefyd eu cyhoeddi heddiw. Yn ôl y rhain roedd 2,009 o feddygon teulu yng Nghymru yn 2016, sy'n gynnydd ers 2015 a 127 neu 7% yn uwch na'r nifer yn 2006.

Yn 2016, cyfanswm y gweithlu o feddygon teulu oedd 2,944 sy'n cynnwys meddygon teulu, cofrestrwyr mewn meddygfeydd teulu, meddygon teulu wrth gefn a meddygon teulu locwm. Mae hyn yn cymharu â 2,887 yn 2015.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Mae gweld y nifer uchaf erioed o weithwyr yn ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn amlwg yn newyddion da ac yn dangos cadernid ein hymrwymiad i'r gwasanaeth iechyd. Mae mwy o nyrsys cymwys, mwy o ymgynghorwyr mewn ysbytai, mwy o weithwyr ambiwlans a mwy o feddygon teulu yn dystiolaeth bod y Llywodraeth yn buddsoddi yn nyfodol ei gwasanaeth iechyd.

“Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi pecyn sylweddol i gefnogi amrywiaeth o raglenni addysg a hyfforddi i weithwyr iechyd proffesiynol Cymru. Er bod y cynnydd da ry’n ni wedi’i wneud o ran staffio yn gadarnhaol, nid da lle gellir gwell ac mae mwy o waith i’w wneud o hyd.

"Ry'n ni wedi llwyddo i sicrhau'r cynnydd hwn yn niferoedd staff y gwasanaeth iechyd mewn amrywiaeth o feysydd er gwaethaf toriadau parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyllideb Llywodraeth Cymru. Er ein bod yn y sefyllfa ariannol anoddaf erioed yn hanes datganoli, ry'n ni'n parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd."