Neidio i'r prif gynnwy

Manteisiodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y cyfle i gyfarfod â'r tîm sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i bobl ledled y Gogledd. Siaradodd â nhw ynghylch y gwasanaeth podiatreg a'r model atal cymunedol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Manteisiodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y cyfle i gyfarfod â'r tîm sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i bobl ledled y Gogledd. Siaradodd â nhw ynghylch y gwasanaeth podiatreg a'r model atal cymunedol.

Mae'r Tîm Wlser Diabetig ar y Droed yn helpu ac yn cefnogi cleifion sydd mewn risg canolig neu uchel o golli rhan o'r corff, fel y droed, gan weithio'n agos gyda'r tîm llawfeddygol fasgwlaidd.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Roedd yn dda gweld drosof fy hun ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu i bobl sy'n byw â diabetes yn y Gogledd.

"Rydyn ni'n gwybod y gall gofal gwael am y traed gael effaith niweidiol ddifrifol, gan gynnwys colli'r droed neu ran ohoni, felly mae angen i ni sicrhau bod ffordd fwy cyson a theg i gleifion gael gwasanaethau.

"Nod ein Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes yw gwella sut y caiff y cyflwr ei adnabod, ei ofalu amdano a'i drin. Mae hyn yn cynnwys penodi arweinydd gofal traed diabetes cenedlaethol i helpu byrddau iechyd ledled Cymru i fodloni safonau cenedlaethol, cyflwyno llwybr gofal traed newydd a darparu offer sgrinio traed trwy'r wlad.

"Fory, byddaf yn nigwyddiad ‘The Truth About Diabetes’ ym Mae Caerdydd sy'n annog pobl i rannu eu profiadau o ddiabetes. Rydw i am i Gymru gael cyfraddau diabetes a chanlyniadau gofal iechyd sy'n cymharu â'r gorau yn Ewrop.

"Rydyn ni'n gweld momentwm a chynnydd go iawn trwy'r cynllun cyflawni, ac rydw i am weld hyn yn parhau."