Neidio i'r prif gynnwy

Aeth Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd i ymweld â'r gwasanaethau menywod a phlant yn Ysbytai Llwynhelyg a Glangwili yn y Gorllewin heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o'i ymweliad, cafodd Mr Gething fynd am dro o amgylch yr Unedau dan Arweiniad Bydwragedd a'r Unedau Pediatreg. Cafodd hefyd gyfle i gwrdd ag aelodau o staff a rhai o'r menywod sy'n cael gofal yno a siarad â nhw.

Ar ôl yr ymweliad, dywedodd Vaughan Gething:

"Mae'n braf gweld bod y diwygiadau a wnaed i wasanaethau menywod a phlant yn 2014 wedi dwyn ffrwyth, a’n bod ni’n gweld gwelliannau o ran canlyniadau i gleifion, a bod gwell cydymffurfiaeth â safonau erbyn hyn.

"Roedd canfyddiadau adroddiad y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn ategu hyn, a dylai pawb sy'n rhan o'r gwaith fod yn hynod o falch o'r ansawdd uchel o ofal y maent yn ei gynnig i famau a phlant."

Yn ystod ei ymweliad ag Ysbyty Glangwili, clywodd Ysgrifennydd y Cabinet am gynlluniau'r bwrdd iechyd lleol ar gyfer prosiect 'Cam 2' sy'n anelu i wella’r awyrgylch yn ward esgor, theatrau mamolaeth ac Uned Gofal Arbennig Babanod yr ysbyty.

Meddai'r Ysgrifennydd Iechyd:

"Rwy'n falch o glywed bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed i ddatblygu'r cam nesaf o'i achos busnes ar gyfer 'Cam 2' a'u bod yn gobeithio ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2016.

"Bydd y prosiect yn gwella gwasanaethau menywod a phlant yn Ysbyty Glangwili ac mae clywed bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynnal momentwm o ran y gwaith hwn yn galonogol iawn.

"Edrychwn ymlaen at weld eu hachos busnes amlinellol ym mis Medi, a'r achos busnes llawn yn y gwanwyn. Os byddwn yn cymeradwyo'r achos, dylai'r gwaith ddechrau’n yr ysbyty yng Nghaerfyrddin yn fuan wedi hynny."