Neidio i'r prif gynnwy
llun ardduniadol

Rydym wedi gwella cyfnewidfa cyffordd 48.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
De-orllewin Cymru
Dyddiad dechrau:
gwanwyn 2021
Dyddiad gorffen:
gaeaf 2021
Cost:
tua £3.5 miliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Trosolwg

Ein rhesymau dros wneud hyn

Roedd problemau oedd angen eu cywiro, gan gynnwys diffyg cyfleusterau teithio llesol, mynediad cyfyngedig i Dal-y-Coed ac oddi yno a phryderon diogelwch wrth y gyffordd.

Cyffordd 48 yw'r brif gyffordd ar gyfer mynediad i Lanelli a Phontarddulais. Mae'r gwaith hwn wedi'i gynllunio er mwyn:

  • ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio rhwng Pontarddulais/Hendy a Llangennech/Llanelli
  • byrhau amseroedd teithio:
  • gwella ansawdd aer
  • llai o lygredd sŵn 

Cynlluniwyd y prosiect i weithio gyda llwybrau trafnidiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin i gysylltu cymunedau.

Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym mis Rhagfyr 2021.

Beth rydym wedi'i wneud

Rydym wedi darparu:

  • signalau traffig newydd ar yr M4 oddi ar y ffordd ymadael tua'r gorllewin a chyffordd Tal-y-Coed
  • mesurau rheoli lonydd ar yr A4138 tua'r de
  • gwelliannau i holl gyffyrdd yr M4 gyda'r A4138
  • llwybr troed a llwybr beicio cyfun ar hyd yr A4138 rhwng Hendy a Llangennech
  • gwella cynefinoedd pathewod.

Sut aethon ni ati i ymgynghori 

Oherwydd y pandemig cytunwyd ar gynllun ymgysylltu amgen. Roedd y ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Roedd y ddwy ddogfen yn cynnwys ffeiliau sain ar gyfer y rhannol ddall. Darparwyd cyfeiriad e-bost penodol i gynllun fel y gallai pobl e-bostio eu hymholiadau. 

Gwnaethom ymgynghori ag aelodau etholedig lleol ym mis Rhagfyr 2020. Anfonwyd llythyr hefyd at drigolion a busnesau lleol yn eu hysbysu o'r ymgynghoriad. 

Ydy'r gwelliannau wedi gweithio?

Ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, rydym wedi defnyddio arolygon traffig ac arolygon lleol i gasglu'r wybodaeth isod.

Gwella'r cysylltiad o'r M4 i'r A4138

Dywedodd 75% o'r ymatebwyr fod y cynllun wedi gwella effeithlonrwydd y gyffordd i yrwyr i ryw raddau.

Gwella'r cysylltiad o'r A4138 i'r M4

Dywedodd 75% o'r ymatebwyr fod y cynllun wedi gwella effeithlonrwydd y gyffordd i yrwyr i ryw raddau.

Sicrhau nad yw'r ciwio ar y ffordd ymadael yn ymestyn i'r M4

Mae’r ciwiau ar lôn 1 a lôn 2 o'r M4 ar ffordd ymadael y gorllewin Cyffordd 48 bellach yn llai ar gyfartaledd a phan maent ar eu gwaethaf.

Gwella amseroedd teithio cyfnod brig ar yr A4138 o'r Hendy/M4 i oleuadau traffig Tal-y-clun

Nid yw amseroedd teithio wedi newid yn sylweddol.

Gwella amseroedd teithio ar yr A4138 o oleuadau traffig Tal-y-clun a'r Hendy/M4

Roedd 50% o'r ymatebwyr yn teimlo bod rhywfaint o ostyngiad mewn amser teithio.

Cyfrannu at Nodau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 Cyngor Sir Caerfyrddin

Ehangwyd y droedffordd bresennol i greu llwybr defnydd a rennir, gan gysylltu â rhwydwaith presennol Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Roedd 63% o'r ymatebwyr yn teimlo fod y cynllun wedi gwella teithio llesol yn yr ardal.

Beth yw'r newidiadau

Image
Darlun 1: Golygfa o'r awyr o'r cynllun sydd wedi'i gwblhau, i'r de o'r M4.

Darlun 1: Golygfa o'r awyr o'r cynllun sydd wedi'i gwblhau, i'r de o'r M4.

Image
Darlun 2: Golygfa o'r awyr ar gynllun cyffordd 48 yr M4 wedi'i gwblhau, a adeiladwyd gan ystyried yr amgylchedd Eco gyfoethog.

Darlun 2: Golygfa o'r awyr ar gynllun cyffordd 48 yr M4 wedi'i gwblhau, a adeiladwyd gan ystyried yr amgylchedd Eco gyfoethog.

Image
Darlun 3: Yn dangos y goleuadau traffig newydd a chynllun ffordd mwy diffiniedig. Gwella diogelwch ar y ffyrdd ac effeithlonrwydd llif y traffig.

Darlun 3: Yn dangos y goleuadau traffig newydd a chynllun ffordd mwy diffiniedig. Gwella diogelwch ar y ffyrdd ac effeithlonrwydd llif y traffig.

Image
Darlun 4: Golygfa ogleddol yn dangos y Llwybr Defnydd a Rennir newydd ger yr A4138.

Darlun 4: Golygfa ogleddol yn dangos y Llwybr Defnydd a Rennir newydd ger yr A4138.

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau

Help a chymorth

Gofyn cwestiwn ynghylch y prosiect neu adrodd am broblem

Dysgu mwy

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, gallwch gysylltu â: M4J48@atkinsglobal.com.