Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cwmnïau bysiau a defnyddwyr yn cyfarfod yn Wrecsam heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Uwchgynhadledd Bysiau gyntaf Cymru, rhan o gynllun 5 pwynt Ken Skates ar gyfer y diwydiant, yn dod â phawb sydd â diddordeb at ei gilydd i edrych ar sut y gallant gydweithio’n fwy effeithiol i ddarparu’r gwasanaethau gorau, mwyaf cadarn posib.  


Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith:   


“Nid oes amheuaeth i 2016 fod yn flwyddyn amrywiol i’r diwydiant bysiau yng Nghymru.  Er bod ein rhwydwaith bysiau yn gyfrifol am oddeutu 101 miliwn o deithiau – nifer o’r teithiau yn fwy poblogaidd – roedd y ffaith i rai cwmnïau ddod i ben olygu bod rhai cymunedau, gwasanaethau a defnyddwyr mewn sefyllfa anodd.  


“Roedd y cynllun pum pwynt a gyhoeddais fis Medi diwethaf yn ceisio sefydlogi a chefnogi’r diwydiant yn y tymor byr, ond mae’n rhaid inni hefyd chwilio am atebion mwy hirdymor os ydym i ddarparu gwasanaethau o safon fydd gan y miloedd o ddefnyddwyr ledled Cymru hyder ynddynt.  Rwy’n arbennig o awyddus i glywed safbwyntiau’r diwydiant o ran sut y gallwn annog pobl ifanc i deithio mwy ar fysiau.  Roedd y rhaglen beilot Fy Ngherdyn Teithio yn lle defnyddiol i ddechrau ac mae wedi rhoi gwybodaeth werthfawr inni, Mae’n rhaid inni nawr adeiladu ar hyn gyda’n partneriaid i ddatblygu ateb ar gyfer Cymru gyfan.   


“Mae’r Uwchgynhadledd Bysiau yn gyfle inni rannu syniadau ynghylch sut i ddatrys yr anawsterau sy’n wynebu’r diwydiant, diffinio yr hyn yr ydym am i’r gwasanaethau bysiau ei gynnig a deall sut y gallwn gydweithio’n well i ddarparu’r gwasanaethau o safon ledled Cymru y mae cymunedau yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.   


“Yn fy marn i, mae hynny’n golygu gwasanaeth cynaliadwy o safon uchel, un fydd yn gallu datblygu ein heconomi ac yn arwain at fwy o ffyniant yn ein cymunedau.  Mae’n golygu gwasanaeth sy’n gweithio mewn ardaloedd gwledig a threfol, i’r ifanc a’r hen, ac sy’n galluogi pobl i fyw yn annibynnol, tra’n sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr.   


“Mae’n dasg anodd, ond rwy’n bendant bod gennym yr arbenigedd a’r awydd yng Nghymru i sicrhau hyn.  


“Yn y cyfamser, wrth gwrs, byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau ble bynnag y bo’n bosibl, boed trwy ddechrau gwasanaethau newydd fel gwasanaeth T1C rhwng Aberystwyth a Chaerdydd neu ddarparu  rhagor o gymorth ariannol i awdurdodau lleol yr effeithir arnynt wedi i’r cwmnïau hyn ddod i ben.  


“Ond yn y tymor hwy rwyf am sicrhau ein bod yn sefydlu dull doethach, wedi’i gynllunio’n well, ac yn yr hirydymor wrth gynllunio ein system drafnidiaeth.  Rwy’n awyddus, ymysg pethau eraill, i edrych a allai’r ddeddfwriaeth newydd chwarae rhan yn hyn.  


“Bydd yr Uwchgynhadledd hon yn sbardun i hynny, ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’r diwydiant i lywio a darparu’r system orau bosib, gyda’n gilydd.”