Uwchgynhadledd y Glust, y Trwyn a'r Gwddf: 8 Rhagfyr 2022
Dyma adroddiad cryno’r uwchgynhadledd weinidogol ar y glust, y trwyn a’r gwddf.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Cynhaliwyd uwchgynhadledd Weinidogol y Glust, y Trwyn a'r Gwddf (ENT) ym mis Rhagfyr i drafod yr hyn sydd angen i'r system ei wneud ar y cyd ac yn unigol i ymateb i'r adferiad araf o'r pandemig a'r nifer cynyddol o gleifion sy'n aros am apwyntiadau cleifion allanol (newydd a dilynol) ac yn aros i driniaeth ddechrau.
Cyn y cyfarfod, gofynnwyd i fyrddau iechyd ddatblygu eu cynlluniau er mwyn gwella perfformiad ac adfer eu gwasanaeth ENT ac egluro sut y byddant yn trawsnewid eu gwasanaethau er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn gynaliadwy. Roedd yr uwchgynhadledd wedi'i strwythuro o amgylch pum thema, sef:
- gweithredu llwybr cynaliadwy
- ymyriadau nas cyflawnir fel arfer (INNU)
- amseroedd aros canser
- pediatreg
- awdioleg
Cyd-destun strategol
Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwella ac Adfer ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd siaradodd gyntaf yn egluro’r rheswm dros yr uwchgynhadledd.
Disgrifiodd wasanaeth oedd wedi newid o fod yn gymharol agos at fod yn gytbwys cyn y pandemig, i un lle mae pobl yn disgwyl am gyfnodau cynyddol hir bellach. Yn rhannol roedd hyn oherwydd y problemau yn ystod y pandemig COVID wrth gyflawni triniaethau a oedd yn cynhyrchu erosol. Gofynnwyd i fyrddau iechyd nodi a gweithredu ffyrdd newydd o weithio gan gynnwys darparu model gwasanaeth modern er mwyn clirio'r ôl-groniad o gleifion trwy gynyddu gweithgarwch rhithwir, defnyddio dull tîm amlddisgyblaeth a chynyddu'r defnydd o wasanaethau cymunedol.
Mae'r cynllun cenedlaethol ar gyfer Trawsnewid Gofal a Gynlluniwyd a Lleihau Rhestrau Aros 2022 - 2025 a gyhoeddwyd fis Ebrill diwethaf yn nodi dyhead clir iawn am adferiad. Mae'n nodi’n eglur y camau sydd angen eu cymryd yn awr i gynyddu gweithgarwch. Mae'r adferiad yn canolbwyntio ar leihau nifer y cleifion sy'n aros yn rhy hir am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf ac apwyntiadau dilynol a thriniaeth, gan symud hefyd at ddull mwy cynaliadwy gan ddefnyddio modelau gofal wedi’u trawsnewid, ymgysylltiad pellach trwy ddefnyddio'r sector cymunedol a dulliau o weithio seiliedig ar arfer gorau dan arweiniad clinigol er mwyn darparu llwybrau a
gwasanaethau cadarnach a mwy effeithlon, diogel a phrydlon.
Trafod heriau
Cyflwynodd yr Uned Gyflawni dadansoddiad manwl o'r rhestrau aros cyfredol a data gweithgarwch. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i gyflawni yn erbyn y mesurau gweinidogol, dangosodd y data fod cryn amrywiaeth rhwng gwahanol fyrddau iechyd.
Mae atgyfeiriadau cleifion allanol yn parhau yn is na'r lefelau cyn COVID, sef oddeutu 88% ym mis Medi 2022. Mae gweithgarwch cleifion allanol yn parhau’n is na chyn y pandemig hefyd, sef 83%, mae gwir angen cynyddu gweithgarwch cleifion allanol. 71% yw gweithgarwch achosion cleifion mewnol a dydd, sy’n sylweddol is nag y dylai fod, ac mae angen i fyrddau iechyd weithredu i gynyddu gweithgarwch cyn gynted â phosibl. Mae’n bryder bod nifer y cleifion sy'n aros mwy na thair blynedd yn y cyfnod cleifion allanol a'r cyfnod triniaeth, sef cyfanswm o fwy na 1,500.
Mae gormod o gleifion yn aros am apwyntiad claf allanol cyntaf gyda dros 20,000 o bobl yn aros mwy na 52 wythnos a thros 8,500 yn aros mwy na 104 wythnos ar bob cam. Mae'r rhestr aros bediatrig wedi tyfu o lai na 9,000 flwyddyn yn ôl, i 10,500 bron. Cleifion pediatrig yw oddeutu 16% o gyfanswm y rhestr aros. Mae llawer o gleifion canser yn rhan o arbenigedd ENT ac mae angen iddynt gael eu gweld a'u trin oherwydd y lefel uchel o frys clinigol.
Dros y chwe mis rhwng Ebrill a Hydref 2022, bu gostyngiad o dros 2,000 yn nifer y cleifion yn y categori aros 104 wythnos.
Mae cyfle enfawr i fwy o'r llwyth achosion ENT cenedlaethol gael eu trin fel cleifion dydd os gellid rhoi'r cyfleusterau a'r arbenigedd cywir ar waith. Mewn adolygiad diweddar, canfu GiRFT amrywiad eang yng nghyfraddau achosion dydd ar draws gwasanaethau ENT, na ellid eu hesbonio gan amrywiadau mewn cymysgedd oedran ac achos.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir yn ei hanerchiad beth oedd ei disgwyliadau, a chafwyd targedau adfer clir y byddai disgwyl i'r holl Fyrddau Iechyd eu cyflawni. Roedd hi'n cydnabod er gwaethaf ymdrechion caled pawb nad oes amheuaeth bod gwasanaethau ENT yn cael trafferth ymdopi ac ymateb i nifer y cleifion sydd angen eu gweld.
Mae ei blaenoriaethau'n glir, mae angen i ni leihau'r rhestrau aros a achoswyd gan y pandemig, a gweithio'n fwy clyfar fel system gyfan i wella'r llif yng ngwasanaethau achosion brys ac argyfwng ein hysbytai. Mae'n rhaid i ni wneud hyn drwy weithio’n wahanol a gweithio gyda'n gilydd.
Dywedodd fod yn rhaid i adferiad gwasanaethau ENT ganolbwyntio ar ôl-groniad y rhai sy'n aros yn rhy hir am eu triniaeth, ond bod angen i'r gwasanaeth weithio tuag at ddull mwy cynaliadwy o drawsnewid llwybrau a ffyrdd o weithio a fydd yn darparu llwybrau a gwasanaethau gofal cadarnach, a mwy effeithlon a phrydlon yn y dyfodol.
Mynegodd y Gweinidog awydd i leihau’r amrywiadau a nododd fod gan un bwrdd iechyd 500 o gleifion yn aros mwy na 104 wythnos, ac er bod hyn yn ormod, mae’n sylweddol well na rhai eraill sydd â thros 2,000 o gleifion yn aros mwy na dwy flynedd. Mae angen i ni wneud mwy i leihau amrywiadau a sicrhau bod pawb yn gweithredu ar yr un lefel.
Mae'r Gweinidog yn ymwybodol iawn o'r straen a'r pryder a deimlir gan y cleifion hyn, gan gynnwys cyfran fawr o blant sydd angen eu trin cyn gynted â phosibl. Mae'r Cynllun Adfer Gofal a Gynlluniwyd a gyhoeddwyd ym mis Ebrill yn nodi dyhead clir am adferiad, gyda chamau gweithredu clir y mae angen eu cymryd yn awr i gynyddu gweithgarwch a lleihau'r ôl-groniad trwy weithio'n fwy clyfar fel system gyfan.
Mae'r Gweinidog wedi buddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau gofal a gynlluniwyd. Mae rhywfaint o hyn wedi cael ei ddefnyddio i wella'r gweithlu. Mae hyn wedi cynnwys staff ychwanegol a buddsoddiad sylweddol mewn lleoedd hyfforddi.
Wrth i'r galw barhau i gynyddu, mae'n hanfodol bod gwasanaethau'n parhau i addasu. Mae hyn yn cynnwys mynd ati i gynllunio swyddi a gweithio gyda gwasanaethau allweddol megis awdioleg i gynyddu capasiti. Roedd cynllun tymor byr yn cael ei ddatblygu i helpu i ymdopi â'r pwysau presennol ar y gweithlu. Bydd y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer y Gweithlu yn cyflwyno'r dull amlweddog o adeiladu a chefnogi'r gweithlu cyfan.
Mae clinigwyr wedi bod yn glir eu bod am ddiogelu gwasanaethau i ddarparu gwasanaethau mwy darbodus, effeithlon ac effeithiol.
I gloi, gofynnodd y Gweinidog i fyrddau iechyd ystyried:
- Byrddau iechyd i ganolbwyntio ar leihau'r arosiadau hiraf a gweithredu'r llwybrau cenedlaethol.
- Cyflymu'r defnydd o sylw yn ôl symptomau a llwybrau atgyfeirio.
- Cynyddu lefelau gweithgarwch a datblygu gwasanaeth mwy cynaliadwy.
- Dileu'r angen am fentrau ad hoc a phwysau ar staff i wneud mwy.
- Blaenoriaethu cleifion canser a chleifion brys clinigol a lleihau'r amseroedd aros pediatrig.
Cyflwynwyd i'r uwchgynhadledd gan Alun Tomkinson, arweinydd clinigol ENT, fodel cyflawni cynaliadwy ar gyfer ENT. Roedd hyn yn canolbwyntio ar yr angen i ailgynllunio gwasanaethau’n effeithiol gyda ffocws ar:
- Ofal sylfaenol
- Llwybrau
- Ailgynllunio adrannol
- Gofal a gynlluniwyd
- Gofal brys / argyfwng
- Adran cleifion allanol
- Diagnosteg
- Theatrau
Mae angen wedyn i hyn gael ei ategu gan drawsnewid gwasanaethau gyda ffocws ar:
- Cyngor – llwybr a system
- Cyngor – unigolion
- Brysbennu
- Adolygu cleifion
- Rheoli rhestrau aros
- Diagnosteg
- Trin cleifion
Mae llwybrau iechyd cymunedol, meddygon teulu rhyngwyneb, Consultant Connect, Sylw yn ôl Symptomau, Apwyntiad Dilynol ar Gais y Claf, a chynllunio swyddi i gyd yn elfennau sy’n ategu’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau.
Mae cydweithwyr clinigol ENT wedi cytuno’n flaenorol i fabwysiadu’r llwybrau iechyd ENT hyn dan arweiniad clinigol ledled Cymru. Fodd bynnag, mae wedi bod yn anodd eu cyflwyno i'w llawn botensial. Cydnabyddir bod angen gwneud rhagor o waith i’w gweithredu'n gyflym. Mae Caerdydd a'r Fro wedi gwneud llawer o'r newidiadau ac mae hyn wedi'i nodi yn eu data a'u perfformiad.
Rhoddodd John Day, Cyfarwyddwr Clinigol Awdioleg, BIPBC, gyflwyniad i’r uwchgynhadledd am y modd y gall awdioleg gefnogi cleifion a gofal eilaidd, ar ran arweinyddiaeth Awdioleg yng Nghymru. Tynnodd sylw at y daith awdioleg a'r berthynas ag ENT dros y blynyddoedd diwethaf, gan nodi'r manteision a gafwyd yn sgil y berthynas newidiol hon. Amlinellodd rôl bwysig y pwynt cyswllt cyntaf sef Awdiolegwyr Ymarfer Uwch. Mae'n nodi'r cyfleoedd canlynol:
- Cyflwyno awdioleg gofal sylfaenol
- Cyflwyno mynediad uniongyrchol i awdioleg (o ofal sylfaenol) i gynnwys clyw, tinitws, cydbwysedd ac atgyfeirio ar gyfer MRI (byrddau iechyd)
- Cynllunio ar y cyd (teg) gydag ENT ar lefel leol
- Recriwtio'n lleol (i Fyrddau Iechyd a Chymru), Cyflwyno mwy o brentisiaethau, hyfforddi staff presennol i rolau lefel uwch, cadw staff
- Comisiynu a chynllunio’r gweithlu yn genedlaethol yn y modd gorau posibl
- Ymestyn rolau
Trafodaeth
Cafwyd trafodaeth dan arweiniad clinigol a oedd yn canolbwyntio ar y cyfleoedd i ymgorffori dulliau cynaliadwy mewn gwasanaethau ENT.
Roedd y drafodaeth yn cynnwys y canlynol:
- Mae angen ail-werthuso dulliau gofal a gynlluniwyd er mwyn cynyddu capasiti'r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r gwasanaethau a ddarperir gan staff gofal sylfaenol ac eilaidd, meddygon teulu, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Chymdeithion Meddygol.
- Dylai’r llwybr ar gyfer llywio cleifion trwy wasanaethau gofal a gynlluniwyd gwmpasu pob agwedd ar y llwybr. Dylid ailgynllunio llwybrau lle bo hynny'n briodol i ganiatáu ar gyfer prosesau symlach ac amseroedd aros byrrach.
Wrth ailgynllunio llwybrau, dylid ystyried pob cam. Dylai gwasanaethau ENT arfer gorau ystyried agwedd glinigol profiad y claf yn ogystal â’r stad. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau gofal sylfaenol, unedau gofal argyfwng a brys a defnydd effeithlon o Adrannau Cleifion Allanol, unedau diagnostig a theatrau.
- Wrth adeiladu gwasanaethau sydd wedi’u diogelu at y dyfodol, dylai byrddau iechyd integreiddio rhyngwynebau diogel ar gyfer meddygon teulu ac ymwreiddio'r 5 Nod ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd ym mhob llwybr a gwasanaeth.
- Dylai Ailgynllunio Gofal a Gynlluniwyd ymgorffori'r themâu canlynol.
- Darparu cyngor perthnasol a chyson cyn gynted â phosibl.
- Ailgynllunio gwasanaethau a/neu fyrddau clinigol
- Ymgorffori'r llwybrau iechyd Awdioleg / ENT a gytunwyd ar gyfer gofal a gynlluniwyd yn genedlaethol.
- Defnyddio Consultant Connect i gael cyngor cyson.
- Sefydlu a gweithredu SOS /PIFU.
- Sesiynau pwrpasol mewn cynlluniau swyddi i adolygu’n rheolaidd ôlgroniadau
- Rhestri Aros ac Apwyntiadau Dilynol i gyfateb i sesiynau Consultant Connect.
Mae angen chwilio am gyfleoedd, dysgu a rennir, a datblygiad pellach a awgrymir:
- Llwybrau symlach sy'n gwella’r sefyllfa o ran rhestrau aros a'r canlyniadau i gleifion.
- Ymgysylltiad Gofal sylfaenol /Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru.
- Llwybrau un o bedwar amcan allweddol yn y cynllun adfer cenedlaethol.
- Defnyddio llwybrau SOS /PIFU lle bo hynny'n bosibl.
- Archwilio INNUs ENT a monitro eu gweithgaredd.
- Dewisiadau amgen i'r brif theatr – defnyddio gofod cleifion allanol pwrpasol.
- Apwyntiadau rhithwir.
- Cryfhau cysylltiadau ag awdioleg.
Sut gall awdioleg gefnogi gofal a gynlluniwyd
Trafododd cynrychiolwyr yr uwchgynhadledd yr angen i awdioleg alinio’n well â gwasanaethau ENT. Awgrymiadau i wella hyn oedd:
- Cydweithio proffesiynol cenedlaethol effeithiol – gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.
- Cynhyrchu a chyhoeddi Cynllun Cenedlaethol ar gyfer gofal integredig.
- Mae gan awdioleg hanes da o ddatblygu staff ar gyfer gweithlu arbenigol ac ystwyth, dylid dysgu o hyn a’i ymgorffori mewn meysydd allweddol eraill.
- Cydweithio effeithiol gydag AaGIC.
- Mae awdioleg GIG Cymru’n arweinydd yn y DU mewn arloesi gwasanaethau a sicrhau ansawdd:
- Awdioleg Gofal Sylfaenol Ymarfer Uwch – sylfaenol ac eilaidd yn gydgysylltiedig.
- Llwybrau asesu cof.
- Safonau Ansawdd Gwasanaeth a gymeradwyir yn genedlaethol..
- Awdiolegwyr Ymarfer Uwch yn bwynt cyswllt cyntaf mewn gofal sylfaenol.
- Cyflwyno llwybr cenedlaethol newydd ar gyfer rheoli cwyr clust.
- Comisiynu a chynllunio gweithlu yn genedlaethol yn y modd gorau posibl.
Ymrwymiadau
Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir am yr hyn mae’n ei ddisgwyl gan y gwasanaeth. Anogodd y cynrychiolwyr i feddwl yn greadigol wrth gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd. Roedd hi’n glir hefyd, er mwyn gwella profiad y claf, bod yn rhaid i ni ddysgu o'r gorffennol a gweithredu ffyrdd arloesol newydd o weithio yn ogystal â gweithredu arferion gorau dan arweiniad clinigol ym mhob model gofal. Cydnabu'r Gweinidog y gwaith caled gan bawb sy'n gweithio i leihau'r ôl-groniad a gwella gwasanaethau a nododd y byddai cryn her ariannol yn y blynyddoedd nesaf. O ganlyniad, mae hwyluso newidiadau i’r gwasanaeth yn bwysig.
Dywedodd hefyd
Mae angen i ni rannu ein llwyddiannau yn well a dysgu gan ein gilydd. Pennwyd y disgwyliadau a'r camau canlynol:
- Byrddau Iechyd i ganolbwyntio ar leihau'r arosiadau hiraf a gweithredu'r llwybrau cenedlaethol.
- Cyflymu'r defnydd o Sylw yn ôl Symptomau a llwybrau PIFU.
- Gweithredu Llwybrau Iechyd ar gyfer ENT fel mater o frys, mae angen cynigion ar gyfer cyflawni hyn erbyn diwedd Mawrth 2023.
- Adolygu'r ymyriadau (INNUs) presennol i sicrhau eu bod yn gyfredol erbyn diwedd Mawrth 2023 a Gweithrediaeth y GIG i wirio bod y rhestrau’n cael eu dilyn.
- Pob bwrdd iechyd i ddatblygu cynigion i weithredu model ENT Caerdydd yn llwyr neu ran ohono. Mae'r cynlluniau hyn i'w rhannu â Gweithrediaeth y GIG a'u gweithredu gan y bwrdd arbenigedd ENT erbyn diwedd Mawrth 2023 a bod yn rhan o Gynllunio Tymor Canolig Integredig y Bwrdd Iechyd.
- Sefydlu awdioleg gofal sylfaenol.
- Cynyddu lefelau gweithgarwch a datblygu gwasanaeth mwy cynaliadwy.
- Blaenoriaethu cleifion canser a chleifion brys clinigol a lleihau'r amseroedd aros pediatrig.
- Gweithredu Argymhellion GiRFT ENT (Tachwedd 2019) fel a ganlyn:
- cynyddu'r defnydd o achosion dydd ar draws ENT
- leihau nifer y cyfnodau (derbyniadau) annewisol lle nad oes triniaeth yn digwydd
- ffurfioli rhwydweithiau ar gyfer darpariaeth y tu allan i oriau
- cynyddu'r targed achosion dydd ar gyfer tonsilectomi pediatrig i 80%
- lleihau cyfraddau aildderbyn yn dilyn tonsilectomio
- lleihau canslo ar ddiwrnod llawdriniaethau
- gwneud y defnydd gorau o amser ymgynghorwyr gyda chleifion allanol
- manteisio i'r eithaf ar y defnydd o wasanaethau gofal clywedol priodol ar gyfer gofal ôl-lawdriniaeth ar y glust ac i reoli clefydau cronig
- manteisio i'r eithaf ar y defnydd o wasanaethau awdioleg priodol ar gyfer apwyntiadau dilynol ar ôl gosod gromedau
- lleihau cymarebau apwyntiad newydd i apwyntiad dilynol, gan wneud y defnydd gorau posibl
- adnoddau cleifion allanol clinigol
- galluogi adrodd ar gleifion sy'n aros am ddyddiad ar gyfer eu hapwyntiad dilynol fel y gellir ystyried hyn ochr yn ochr â'r dyddiad dilynol.
- Caffael
- Gwell codio