Araith gan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyflwyniad

Rwy'n falch iawn o fod yma heddiw, a hoffwn ddiolch i'r Brifysgol Agored yng Nghymru am drefnu'r uwchgynhadledd hon. Hoffwn hefyd ddiolch i Alan am roi o'i amser ac am feithrin rhywfaint o ddealltwriaeth, yn ogystal â chynnig heriau, ar gyfer yr agenda bwysig hon.

Yn syml, mae materion sy'n ymwneud â symudedd cymdeithasol yn bwysicach nag erioed. Ond mae hefyd yn fwy cymhleth nag erioed.

Mae'r rhwygiadau mewn cymdeithas, rhwng y cenedlaethau ac ar draws cymunedau, yn rheidrwydd moesol, economaidd ac addysgol.

Bydd fy sylwadau heddiw yn canolbwyntio ar rôl addysg wrth fynd i'r afael â'r heriau hynny.

Rwy'n argyhoeddedig o rôl – anghenraid – llywodraeth dda ac arweinyddiaeth gref i hyrwyddo Cymru decach sy'n fwy ffyniannus ac yn fwy symudol.

Wrth gwrs, o ran symudedd cymdeithasol, gallai rhywrai fod yn fwy sinigaidd, fel y nodwyd yn enwog gan Quentin Crisp yn Naked Civil Servant.

“Keeping up with the Joneses was a full-time job with my mother and father. It was not until many years later when I lived alone that I realized how much cheaper it was to drag the Joneses down to my level.”

Efallai nad oedd yn meddwl am Gymru – mae'n anoddach yma i wahaniaethu rhwng y Joneses!

Cyd-destun

Felly, heddiw, rwy'n mynd i amlinellu rhai profion a thargedau ar gyfer cyflawni ym maes symudedd cymdeithasol fel rhan o'n gwaith i ddiwygio addysg dros y cyfnod sydd i ddod.

Ddwy flynedd yn ôl, nododd y cytundeb blaengar rhwng y Prif Weinidog a minnau ein bod yn credu mai addysg o ansawdd uchel sy'n ysgogi symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth ymgysylltiol.

Er ein bod yn amlwg yn dod o gefndiroedd gwleidyddol gwahanol, ond nid gwahanol iawn, mae'r dibenion hynny wrth wraidd ein credoau.

  • Felly, boed yn cyflwyno'r pecyn cymorth mwyaf blaengar i fyfyrwyr yn y DU, sy'n unigryw yn Ewrop
  • Lleihau maint dosbarthiadau, gan ein bod yn gwybod mai disgyblion o gefndiroedd difreintiedig sy'n elwa fwyaf
  • Ymestyn ac ehangu'r Grant Datblygu Disgyblion
  • Cyflwyno strategaeth bwrpasol gyntaf Cymru a darparu cyllid i gefnogi ein dysgwyr mwy abl
  • Neu ddiwygio mesurau perfformiad ysgolion er mwyn sicrhau nad yw'r bwlch cyrhaeddiad wedi'i guddio mwyach.

Rydym yn cymryd camau uniongyrchol i gynnig cyfleoedd, darparu cymorth wedi'i dargedu a gwella cyfleoedd bywyd pob dysgwr, yn benodol y rhai o'r cefndiroedd tlotaf. Ond mae mwy i'w wneud bob amser.

Felly, heddiw, byddaf yn amlinellu ein huchelgeisiau mewn rhai meysydd allweddol eraill:

  • Nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n symud ymlaen i astudio ar gyfer gradd Meistr – yr her fawr nesaf i wella symudedd cymdeithasol
  • Nifer y myfyrwyr o Gymru a ddylai elwa o brofiad rhyngwladol
  • Sut y bydd rhwydwaith Seren yn ehangu cyfleoedd i fyfyrwyr gael eu derbyn i'r prifysgolion blaenllaw
  • Cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio gwyddoniaeth ar lefel TGAU
  • Ailategu ein huchelgais i gael gweithlu mwy cymwysedig.

Taith symudedd cymdeithasol

Bydd llawer ohonoch yn gwybod mai ymrwymiad i ddileu rhwystrau ac ehangu cyfleoedd – a gosod disgwyliadau uchel i bawb – sy'n cymell fy ngwleidyddiaeth.

Ac mae hyn yn arbennig o wir wrth sicrhau bod menywod a merched – o bob cefndir – yn cael eu hannog i anelu mor uchel â phosibl.

Nid yw'n hawdd. Ond mae gennym draddodiad balch a llawer – ond nid digon – o enghreifftiau o lwyddiannau diweddar.

Maria Dawson, a astudiodd yn y sefydliad a ragflaenodd Prifysgol Caerdydd yn y 1890au, oedd y person – gwrywaidd neu fenywaidd – cyntaf i raddio o Brifysgol Cymru. Mae hyn yn dangos y tegwch – a'r rhagoriaeth – a ysbrydolodd ein sector addysg uwch yn ei ddyddiau cynnar.

Ac aeth Dr Dawson – fel y'i galwyd wedyn – ymlaen i gael ei PhD a gwneud ymchwil fotanegol bwysig.

Wrth gwrs, gwnaeth Prifysgol Caerdydd hefyd benodi'r Athro benywaidd cyntaf erioed yn y DU, sef Millicent Hughes McKenzie, a ddaeth yn Athro Addysg yn 1910.

Heddiw, gallwn fod yn falch bod mwy na hanner arweinwyr ein prifysgolion yng Nghymru yn fenywod. A'n bod wedi ymrwymo'r sector i fod y cyntaf yn y DU i dalu'r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff.

Mae'r hyn y gall ein prifysgolion ei wneud heddiw – i'w myfyrwyr a'u staff, a dinasyddion ledled y wlad, yn dangos symudedd cymdeithasol go iawn ar waith.

Ystyriwch Kath Southard o Abertawe a raddiodd yn ddiweddar o'r Brifysgol Agored.

Yn ei thridegau hwyr, roedd yn dal i ddifaru nad oedd erioed wedi bod i'r brifysgol, ac roedd magu ei mab bach fel rhiant sengl tra oedd yn gweithio yn golygu nad oedd astudio yn y ffordd draddodiadol yn hawdd ei wneud.

Roedd ei gwaith fel derbynnydd yn gwneud iddi deimlo'n ddiflas ac yn rhwystredig, ac roedd wedi colli hyder oherwydd hynny a'i sefyllfa bersonol.

Felly, ar ôl ymroi i astudio am sawl blwyddyn, a gwneud hynny o amgylch ei bywyd, mae ei gradd bellach yn golygu bod ganddi ei swydd ddelfrydol – dyrchafiad sylweddol – fel rheolwr gweithrediadau yn yr un cwmni.

Mae miloedd o bobl fel Kath yng Nghymru.

Ar ôl bod i lawer o seremonïau graddio'r Brifysgol Agored, rwy'n gwybod nad oes fawr ddim yn dod yn agos i'r teimlad o gyflawni, y dathlu a'r fuddugoliaeth sy'n llenwi Canolfan y Mileniwm ar y diwrnodau hynny.

Prawf 1af – Graddau meistr

Felly, ymlaen i'r mesurau newydd rwy'n eu cyhoeddi heddiw, a fydd yn profi sut mae diwygio addysg – sef yr hyn sy'n ysgogi symudedd cymdeithasol fwyaf – yn cyflawni'r agenda hon.

Mae'n amlwg i mi mai symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yw ein her nesaf wrth ehangu cyfranogiad – mae'n dda i ddatblygiad unigolion, yn dda ar gyfer arallgyfeirio i broffesiynau eraill ac yn dda i lesiant economaidd.

Ac mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith bod nifer y myfyrwyr o Gymru ar gyrsiau ôl-raddedig wedi lleihau'n sylweddol yn y deng mlynedd hyd at 2015/16.

Felly, drwy gyflwyno cymorth cyfatebol gyda chostau byw – ar ffurf grantiau a benthyciadau – i fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd meistr, byddwn yn mynd i'r afael â'r her hon.

Felly, gallaf addo y byddwn yn gweld cynnydd o 10% o leiaf yn nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru ac sy'n astudio ar lefel meistr dros oes y llywodraeth hon.

A, thrwy sicrhau y bydd y myfyrwyr hynny o'r cefndiroedd tlotaf yn cael y cymorth mwyaf hael, byddwn yn ehangu mynediad i astudiaethau ôl-raddedig.

Ar hyn o bryd, tra bod gennym un myfyriwr ôl-raddedig o Gaerdydd neu Geredigion am bob dau fyfyriwr israddedig amser llawn o'r un ardaloedd hynny, dim ond un am bob pedwar yw'r ffigur hwnnw yn ardaloedd y cymoedd megis Merthyr Tudful neu Dorfaen.

Mae hyn, wrth gwrs, eisoes yng nghyd-destun cyfraddau cyfranogi is myfyrwyr israddedig o'r cymoedd.

Rwyf am i CCAUC, drwy weithio gyda'n prifysgolion, helpu i fynd i'r afael â hyn. Edrychaf ymlaen at gael ei gynllun gweithredu ym mis Ionawr – os nad yn gynt.

2il brawf – Rhyngwladol

Fel rhywun a elwodd yn fawr o dreulio amser yn astudio dramor fel myfyriwr israddedig, rwy'n gwybod sut mae profiad o'r fath yn ehangu gorwelion, yn ehangu sgiliau allweddol a, thrwy gysylltiadau cryfach, hefyd o fudd i brifysgolion ein gwlad a'n cymunedau.

Fel y mae Universities UK wedi nodi, mae'r manteision hyn yn arbennig o bwysig i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig. Mae'r rhai sy'n treulio amser dramor yn symud ymlaen i ennill 6% yn fwy na'u cyfoedion ar gyfartaledd.

Ond y myfyrwyr difreintiedig hyn sy'n aml yn colli allan ar gael profiad o'r fath.

Felly, rwyf wrth fy modd bod llawer o brifysgolion yng Nghymru wedi ymuno ag ymgyrch 'Go International' Universities UK er mwyn dyblu canran y myfyrwyr israddedig sydd â lleoliad rhyngwladol fel rhan o'u rhaglen yn y brifysgol erbyn 2020.

Rwyf am weld pob prifysgol yng Nghymru yn ymuno â'r ymgyrch.

Yn wir, rwyf am weld nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n treulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau yn dyblu erbyn diwedd y llywodraeth hon.

Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 1,400 o fyfyrwyr o Gymru yn treulio rhywfaint o amser yn astudio, yn gwirfoddoli neu'n gwneud profiad gwaith dramor. Rwy'n benderfynol o weithio gyda'r sector i wella hyn.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn lansio – gan ddechrau gyda chynllun peilot – raglen sy'n cael ei hariannu er mwyn sicrhau bod cymaint yn fwy o fyfyrwyr o Gymru yn cael y cyfle i astudio a gwneud profiad gwaith yn rhyngwladol.

Ond ni ddylid dibynnu ar raglenni sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth na rhaglenni arian cyfatebol yn unig; rwyf am weld prifysgolion a cholegau yn gwneud mwy – gweithio gyda'r diwydiant ac arweinyddiaeth ddinesig – i fanteisio ar y cyfle hwn.

3ydd prawf – Gwyddoniaeth

Dylwn gydnabod bod y sector addysg uwch yng Nghymru eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol i'm cais i ail-greu ymdeimlad o genhadaeth ddinesig.

Nid yn unig ymrwymo i dalu'r cyflog byw fel y soniais amdano'n gynharach, ond bod yn rhagweithiol wrth gryfhau cydberthnasau ag ysgolion ac athrawon – mynd y tu hwnt i hyfforddi athrawon a recriwtio myfyrwyr.

Gan adeiladu ar lwyddiant cael mwy a mwy o fyfyrwyr ieithoedd israddedig i ymweld ag ysgolion er mwyn ysbrydoli myfyrwyr i barhau i astudio ieithoedd tramor modern, rydym yn symud ymlaen gyda chynllun tebyg ar gyfer ffiseg, gan ddechrau ym mis Medi.

Mae'n wych ar gyfer myfyrwyr unigol gan ei bod yn cynnig profiad o weithio a chyfathrebu iddynt, ac mae disgyblion ysgol yn elwa'n fawr o weld a chlywed gan y rhai yn eu cymunedau sydd wedi penderfynu astudio pynciau gwyddoniaeth ymhellach. Rwy'n argyhoeddedig bod y dull gweithredu hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod mwy o ddisgyblion yn astudio gwyddoniaeth ar lefel TGAU a Safon Uwch.

Roedd yn drueni bod cohortau cyfan o ddisgyblion 16 oed mewn rhai ysgolion yn astudio ar gyfer BTEC mewn gwyddoniaeth tan yn ddiweddar. Ac roedd yn digwydd mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn arbennig. Mae hwnnw'n ddiwylliant o ddisgwyliadau is y dylem, ac y byddwn, yn eu gwrthod.

Ni fydd ein mesurau perfformiad yn galluogi'r system i gael ei chwarae yn y fath ffordd. Roedd yn duedd bryderus bod disgyblion a ddylai fod wedi cael eu cofrestru ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth yn cael eu cofrestru ar gyfer BTEC Gwyddoniaeth.

Rydym eisoes yn gweld nifer y disgyblion sy'n cael eu cofrestru ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth yn cynyddu. Rwy'n disgwyl i'r momentwm hwnnw barhau i'r fath raddau y caiff bron pob disgybl yn ein system ei gofrestru ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.

4ydd prawf – Seren

Wrth gwrs, mae pwnc gwyddoniaeth yn bwnc pwysig sy'n hwyluso'r broses o gael eich derbyn i astudio lawer o bynciau yn y brifysgol.

Mae rhwydwaith Seren yn gwneud gwaith gwych ac yn datblygu uchelgeisiau a dyheadau ledled y wlad.

Fis nesaf, rwy'n edrych ymlaen yn arw at gyfarfod â'r 18 o fyfyrwyr cyntaf o Gymru a fydd yn mynychu'r ysgol haf ym Mhrifysgol Yale.

Ni allwn gyfyngu ar uchelgeisiau ein pobl ifanc – o bob cefndir.

Felly, fy uchelgais i yw y bydd canran y myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn gyntaf sy'n hanu o Gymru ac sy'n mynd i sefydliadau Ymddiriedolaeth Sutton yn cynyddu i 22% dros y pum mlynedd nesaf. Bydd hynny'n gynnydd o 10% o gymharu â'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael.

Wrth gwrs, mae Seren yn chwarae rôl hollbwysig – drwy weithio gyda holl brifysgolion Cymru – i hyrwyddo dilyniant a mynediad. Bydd hyn yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r rhwydwaith.
Ac wrth i ni ddiwygio cymwysterau meistr a hyfforddiant i athrawon, rwyf hefyd yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n aros ac yn dychwelyd i Gymru er mwyn ymgymryd â'u hastudiaethau ôl-raddedig.

5ed prawf – Bwlch rhwng cymwysterau

Yn olaf, gwyddom nad yw symudedd cymdeithasol yn rhywbeth sydd ond yn berthnasol pan fyddwch yn 11 neu'n 18 oed, er gwaethaf y penderfyniadau polisi mewn mannau eraill yn y DU sy'n ymddangos fel petaent yn annog hyn.

Wrth i'r economi a'r farchnad lafur barhau i newid, nid yw dysgu gydol oes erioed wedi bod yn bwysicach, i ffyniant cenedlaethol a datblygiad unigol.

Mae'n hanfodol bod gan bobl y sgiliau a'r wybodaeth gywir er mwyn sicrhau y gallant fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir gan farchnad lafur sy'n datblygu.

Bydd ein gwaith i ddiwygio cyllid myfyrwyr – gan helpu myfyrwyr rhan-amser gyda chostau byw – yn cyflawni hyn. Ond mae angen i ni wneud mwy hefyd – gweithio gyda chyflogwyr a darparwyr dysgu – er mwyn cynnig rhaglenni a chyrsiau sy'n diwallu anghenion o ran gyrfaoedd a sgiliau.

Mae'n rhaid i ni fentro wrth feddwl am lwybrau amgen a hyblyg.

Felly, rydym eisoes yn ystyried sut y gallwn wneud mwy i ddenu gweithwyr anhraddodiadol i'r proffesiwn addysgu. Bydd dau lwybr amgen ar gael:

  • TAR rhan-amser
  • llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth.

Bydd y llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth yn golygu y gellir cyflogi'r athro neu athrawes dan hyfforddiant o'r cychwyn cyntaf. Bydd hefyd yn galluogi'r consortia rhanbarthol i fynd i'r afael â'r prinder mewn ysgolion fesul rhanbarth.

Bydd y TAR rhan-amser yn cyflwyno'r cymhwyster i fyfyrwyr drwy fodel dysgu cyfunol. Bydd hyn yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiduedd yn ddaearyddol. Bydd hefyd yn galluogi myfyrwyr rhan-amser i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y trefniadau cyllid myfyrwyr newydd.

Byddwn yn chwilio am ddarparwr addysg uwch, neu bartneriaeth o ddarparwyr, i gyflawni'r ddau gynnig hyn. Bydd hyn yn golygu gweithio gyda'r consortia ym mhob rhanbarth, a chydag ysgolion, ac felly sicrhau manteision gweithio yn ôl graddfa. Byddaf yn sôn mwy am hyn ar 5 Mehefin mewn digwyddiad i ennyn diddordeb ac annog trafodaeth.

Ymhellach, o ran ailsgilio ac ailhyfforddi, fel llywodraeth a thrwy weithio gyda nifer o adrannau a sectorau, byddwn yn cau'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU mewn perthynas â phob cymhwyster mewn deng mlynedd, ac yn sicrhau ein bod yn cynnal ein perfformiad o gymharu â gweddill y DU yn y dyfodol fan leiaf.

Dros y cyfnod sydd i ddod, byddwn yn gwneud rhagor o gyhoeddiadau ar ein dull o wneud hyn.

Casgliad

Dechreuais drwy ddweud bod symudedd cymdeithasol yn fater sy'n fwy cymhleth nag erioed.

Ond nid yw hynny'n golygu ei fod yn her na ddylem fynd i'r afael â hi.

Mae ein gwaith i ddiwygio addysg eisoes yn mynd i'r afael â'r ardaloedd hynny lle mae disgwyliadau'n is a llwybrau a chymwysterau sydd wedi'u rhagdynodi.

Ni ddylai unrhyw un deimlo bod ei sefyllfa a'i le mewn cymdeithas wedi'u pennu'n barod.

Ac mae angen i ni hyrwyddo ail gyfleoedd a newid cwrs eich gyrfa a'ch bywyd fel rhan hollbwysig o'n her symudedd cymdeithasol.

Felly, diolch yn fawr i'r Brifysgol Agored am drefnu'r uwchgynhadledd hon heddiw – mae gan Y Brifysgol Agored a cholegau, prifysgolion a darparwyr dysgu eraill rôl hollbwysig wrth weithio gyda ni i gyflawni'r agenda hon.

Fel llywodraeth, rydym yn barod i glywed eich syniadau a chael ein hysbrydoli gennych heddiw – wrth i ni geisio ehangu gorwelion ein dysgwyr, agor y drws i'r proffesiynau a chynnig cyfleoedd i bawb.

Diolch.