Uwchgynhadledd orthopedig: 8 Awst 2022
Dyma adroddiad cryno’r uwchgynhadledd weinidogol ar orthopedeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Camau gweithredu yn dilyn uwchgynhadledd
Cododd y camau gweithredu canlynol o’r uwchgynhadledd:
- LlC i drefnu cyfarfod brys gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas ag Abergele.
- LlC i drefnu cyfarfod brys gyda Bae Abertawe mewn perthynas â rhestr o bethau na ddylai fyth digwydd Treforys.
- LlC i egluro’r polisi ynglŷn â blaenoriaethu a thrin pawb yn eu tro.
- LlC i ysgrifennu i bob bwrdd iechyd i gadarnhau ein disgwyliad bod gwelyau orthopedig dewisol yn cael eu clustnodi y gaeaf hwn a phob gaeaf.
- Y tîm adfer i adolygu a monitro cynlluniau’r byrddau iechyd.
- LlC i gadarnhau’r disgwyliadau o ran trin pawb yn eu tro, achosion dydd, a gweithgarwch, yn ogystal â’r targedau.
Mae’r camau gweithredu hyn i gyd wedi cael eu cwblhau.
Roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn glir iawn yn y cyfarfod bod y blaenoriaethau ar gyfer orthopedeg fel a ganlyn:
- Gweithredu cynigion GiRFT a’r llwybrau cenedlaethol, gan gadw mewn cysylltiad â’r byrddau iechyd ynglŷn â hyn.
- Trin pawb yn eu tro – sicrhau bod y rheini sydd wedi aros yn hiraf yn cael eu trin.
- Sicrhau bod capasiti gweithgarwch achosion dydd mor effeithlon â phosibl – mae swyddogion yn monitro hyn yn fisol.
- Canolbwyntio ar y rheini sydd wedi aros dros 104 o wythnosau er mwyn dileu’r achosion hyn o’r rhestrau erbyn Gwanwyn 2023.
Gwelwyd y cynnydd canlynol eisoes:
- Mae’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu i’r byrddau iechyd i amlinellu’r sefyllfa o ran cleifion sy’n aros am gyfnod hir, gan ddweud y dylid rhoi’r rheini sydd wedi aros dros 104 o wythnosau yn yr un categori â chleifion brys wrth neilltuo apwyntiadau.
- Gwelwyd gwelliant o ran nifer y llwybrau agored lle mae pobl yn aros dros 104 o wythnosau, gyda’r nifer ddiwedd mis Gorffennaf yn cael ei nodi fel 17,408, sef y nifer isaf ers mis Rhagfyr 2021. Rydym yn disgwyl gweld gwella pellach wrth i’r byrddau iechyd barhau i weithredu a chynyddu’r cyfraddau trin pawb yn eu tro, gan sicrhau bod y cleifion sydd wedi aros yn hiraf yn cael eu gweld.
- O ran orthopedeg, mae’r data rheoli diweddaraf ar lefel Cymru gyfan yn dangos bod y gyfradd trin pawb yn eu tro yn 40% - mae hynny’n cymharu â 26% ar gyfer arbenigeddau eraill. Felly, gwelwyd gwelliant pendant ers yr uwchgynhadledd. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â’r gyfradd trin pawb yn eu tro gorau ar gyfer cleifion allanol orthopedig, gyda 55% o gleifion yn dod o’r cohort.
- Mae’r tabl isod yn dangos y gweithgarwch cleifion mewnol ac achosion dydd fesul bwrdd iechyd yn ystod y pum mis diwethaf, o’i gymharu â’r un mis cyn COVID (2022 o’i chymharu â 2019).
Gweithgarwch cleifion mewnol ac achosion dydd gan y bwrdd iechyd
Ebrill | Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst | ||
---|---|---|---|---|---|---|
ACUHB | Achosion dydd | 65 | 58 | 87 | 60 | 96 |
Cleifion mewnol | 72 | 87 | 74 | 78 | 126 | |
Wedi’u cyfuno | 68 | 72 | 80 | 69 | 108 | |
BCUHB | Achosion dydd | 52 | 58 | 50 | 46 | 76 |
Cleifion mewnol | 54 | 75 | 73 | 70 | 54 | |
Wedi’u cyfuno | 53 | 66 | 60 |
57 |
65 | |
C&VUHB | Achosion dydd | 32 | 48 | 33 | 47 | 56 |
Cleifion mewnol | 42 | 62 | 59 | 58 | 59 | |
Wedi’u cyfuno | 36 | 54 | 45 | 51 | 57 | |
CTMUHB | Achosion dydd | 46 | 62 | 61 | 33 | 44 |
Cleifion mewnol | 55 | 52 | 58 | 46 | 55 | |
Wedi’u cyfuno | 50 | 57 | 59 | 39 | 49 | |
HDUHB | Achosion dydd | 46 | 40 | 60 | 72 | 124 |
Cleifion mewnol | 29 | 28 | 32 | 29 | 48 | |
Wedi’u cyfuno | 38 | 35 | 47 | 51 | 88 | |
PtHB | Achosion dydd | 32 | 48 | 57 | 105 | 55 |
Cleifion mewnol | n/a | n/a | n/a | n/a | n/a | |
Wedi’u cyfuno | 32 | 48 | 57 | 105 | 55 | |
SBUHB | Achosion dydd | 84 | 67 | 81 | 95 |
103 |
Cleifion mewnol | 52 | 74 | 63 | 87 | 69 | |
Wedi’u cyfuno | 68 | 70 | 72 | 92 | 88 | |
Cymru | Achosion dydd | 51 | 54 | 61 | 57 | 79 |
Cleifion mewnol | 52 | 64 | 61 | 60 | 70 | |
Wedi’u cyfuno | 52 | 59 | 61 | 58 | 75 |
Gallai data gael eu diwygio
- Mae gan Hywel Dda gapasiti ychwanegol yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Mae dwy theatr dydd newydd a ddylai ddarparu hyd at 4,600 o driniaethau ychwanegol y flwyddyn. Bwriedir i’r ddwy theatr ddechrau gweithio ganol mis Hydref.
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn ad-drefnu gwasanaethau orthopedig o fewn y bwrdd iechyd er mwyn darparu’r than fwyaf o driniaethau orthopedig rheolaidd yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, gan wneud y gwaith mwy cymhleth yn Nhreforys.
- Mae Cwm Taf Morgannwg yn canoli gwaith orthopedig ar gyfer cleifion mewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gan wneud mwy o weithgarwch achosion dydd ar safle Ysbyty’r Tywysog Siarl.
- Mae cynlluniau’n cael eu datblygu ar gyfer capasiti ychwanegol yn y Gogledd, o bosibl yn Abergele.