Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cynhaliwyd ail uwchgynhadledd orthopedig yn Chwefror 2023 i drafod pa gynnydd a wnaed ers yr uwchgynhadledd gyntaf yn Awst 2022. Y nod oedd adolygu'r cynnydd yr oedd byrddau iechyd wedi'i wneud, datblygiadau rhanbarthol a rhannu datblygiadau diweddaraf y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Orthopedig (NCSOS).

Cyd-destun strategol

Cafwyd braslun o’r disgwyliadau ar gyfer y diwrnod gan Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru. Nododd y cynnydd a wnaed ers Awst 2022 a’r camau gweithredu a roddwyd ar waith gan y byrddau iechyd i fynd i’r afael â chleifion sy’n aros a’r rhestrau aros tair blynedd. Dywedodd y dylai'r sgyrsiau drafod y defnydd o theatrau, cynnydd mewn gwaith rhanbarthol a chapasiti orthopedig 'gwyrdd' neu 'wedi’u clustnodi'.

Trafod heriau

Cyflwynodd yr Uned Gyflawni nifer o sleidiau a oedd yn amlinellu sut roedd amseroedd aros wedi newid ers mis Awst 2022. Mae'r rhain wedi eu hatodi i’r adroddiad hwn.Mae atgyfeiriadau i'r gwasanaeth orthopedig ledled Cymru yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Ym mhob mis ers Awst 2022, mae lefelau atgyfeiriadau wedi bod rhwng 80% ac 85% o’r hyn oedden nhw cyn y pandemig heblaw am fis Rhagfyr, pan oedd y lefel yn 63%. Mae gwaith newydd gyda chleifion allanol, er ei fod wedi cynyddu, yn dal i fod ychydig yn is na’r lefelau cyn y pandemig, ar lefel Cymru gyfan, ond mae rhai byrddau iechyd yn uwch na lefelau gweithgarwch cyn y pandemig. Mae gwaith gyda chleifion mewnol / dydd yn parhau’n is na’r lefelau cyn y pandemig hefyd, gyda lefel mis Rhagfyr yn 56%.

Mae cyfanswm y rhestr aros wedi lleihau ers mis Awst, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Hydref 2022, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos gostyngiad i 98,555 ddiwedd Ionawr. Mae nifer y llwybrau agored sy'n aros am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng ac ers canol Ionawr, dengys data wythnosol yr Uned ostyngiad yng nghyfanswm y llwybrau agored yng ngham 4, sef triniaeth, er iddo aros oddeutu 37,500. Mae gostyngiadau wedi bod yn nifer y
llwybrau agored dros 104 wythnos, gyda’r sefyllfa ddiwedd Ionawr yn 12,349, gostyngiad o ychydig dros 8,000 ers diwedd Mawrth 2022. Mae'r rhagolwg cyfredol ar gyfer diwedd Mawrth 2023 yn dangos tua 10,000 o lwybrau agored dros 104 wythnos, yn erbyn disgwyliad Gweinidogol o sero.

O ran cleifion allanol newydd dros 52 wythnos, mae’r sefyllfa ar ddiwedd Ionawr 2023 yn dangos 9,704 o lwybrau agored, 57% yn is na ffigur uchaf Awst 2023. 

Mae'n bwysig bod byrddau iechyd yn parhau i drefnu apwyntiadau i gleifion o'r garfan, er mwyn sicrhau bod yr ôl-groniad o gleifion sy'n aros yn cael ei glirio cyn gynted â phosibl.

Rhoddodd yr Athro Tim Briggs ddiweddariad byr gan Gwneud Pethau'n Iawn y Tro Cyntaf (GiRFT). Roedd yn falch o nodi'r gwelliannau a wnaed, ond roedd yn amlwgbod cryn dipyn o waith i'w wneud o hyd a chollwyd cyfle i achub y blaen gyda chleifion allanol, o gofio bod yr atgyfeiriadau’n dal i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig. Roedd yn falch o nodi bod BIPBC yn ystyried uned bwrpasol yn Llandudno. Parhaodd i gefnogi'r gwaith ym Mhowys ac roedd yn canmol y gwaith sy'n digwydd yn Ne-ddwyrain Cymru gan gynnwys prynu'r hen adeiladau BA. Roedd yr Athro Briggs yn canmol y gwaith parhaus yng Nghastell-nedd Port Talbot a'r ehangu ar gyfer trin achosion mwy cymhleth yno, ond bod pryder o hyd ynghylch lleoli ambiwlans parhaol yn yr ysbyty rhag ofn bod angen trosglwyddo cleifion a allai fod angen gwely gofal critigol yn dilyn llawdriniaeth. Amlygodd yr Athro Briggs fater tebyg yn St Albans, lle cafwyd gwared ar yr ambiwlans ar ôl mis, ac awgrymodd y dylai ein cydweithwyr ym Mae Abertawe siarad â chydweithwyr yn St Albans.

Yng Nghwm Taf Morgannwg, roedd yn bwysig sicrhau bod y gwelyau dewisol yn parhau i gael eu clustnodi yn ysbyty Brenhinol Morgannwg. Un ardal sy’n destun pryder yw Hywel Dda, lle nad oedd yn ymddangos bod ateb, er bod yr Athro Briggs yn cydnabod bod yr uned achosion dydd newydd ar waith. Fodd bynnag, o ystyried Cymru gyfan, rhestr aros cleifion mewnol sydd ar gynnydd ac angen ei datrys.

Pwysleisiodd yr Athro Briggs yr argymhellion a welir ym mhob adroddiad, sef cynyddu cyfraddau achosion dydd, cynyddu cynhyrchiant theatrau, cyrraedd 85% ac agor y canolfannau gwarchodedig a’u gweithredu. Eglurodd fod angen defnyddio cyfleusterau presennol yn well, gan sicrhau bod pedwar cymal y dydd yn cael eu cyflawni a sicrhau bod y driniaeth gywir yn cael ei chyflawni yn y lle cywir. Mae'r British Hand Society wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer cyflawni rhywfaint o lawdriniaethau dwylo y tu allan i theatr.

Darparodd yr Athro Briggs rywfaint o wybodaeth am Loegr, gan dynnu sylw at y ffaith bod rhai sefydliadau’n cyflawni cyfradd o 80% ar gyfer achosion dydd erbyn hyn a'u bod yn cynyddu nifer y triniaethau cywir yn y lle cywir, h.y. symud triniaethau o theatrau i ystafelloedd triniaeth lle bo hynny'n berthnasol. Ar hyn o bryd mae GIG Lloegr yn achredu wyth safle, gan edrych ar brofiad cleifion, profiad clinigwyr, canlyniadau, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Mae 41 safle arall wedi'u cynnwys yng ngham 2 yn ystod Chwefror a Mawrth, cyn cyflwyno’r rhaglen ledled gweddill Lloegr a byddant yn hapus i rannu hynny gyda Chymru. Dywedodd yr Athro Briggs ei fod wedi cael dyrchafiad nid yn unig yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol Gwelliant Clinigol, ond hefyd Adferiad Dewisol gan weithio gyda Jim Mackey, sef Cyfarwyddwr Cenedlaethol Adferiad Dewisol. Byddai'n argymell cael uwch reolwr ac uwch glinigwr er mwyn sicrhau bod ystemau ac ymddiriedolaethau’n cael eu dwyn i gyfrif.

Nododd Mr Ian Smith nad oedd hi'n hawdd cymharu Cymru â'r hyn a gyflawnwyd yn Lloegr ac roedd angen diwygio cytundebau ymgynghorwyr yng Nghymru.

Cadarnhaodd Nick Wood fod trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gyda chydweithwyr yn y gweithlu yn Llywodraeth Cymru. Cytunodd Suzanne Rankin â'r sylwadau a chynnig pob cefnogaeth bosibl, a chroesawodd gefnogaeth bellach gan yr Athro Briggs.

Siaradodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â'r grŵp. Mynegodd yn glir yr angen i fynd i'r afael â'r cleifion sy'n dal i aros, gan gydnabod bod gormod o bobl yn gorfod aros yn hwy na’r amseroedd targed. Mae angen gwella cyfraddau achosion dydd a hyd cyfartalog arosiadau a gweithredu argymhellion rhaglen GiRFT ac NCSOS yn gyflym. Mae hi’n awyddus i sicrhau bod y gwasanaeth yn defnyddio'r adnoddau sydd ganddyn nhw i'r eithaf a datblygu atebion rhanbarthol lle bo hynny'n bosib. Nododd y Gweinidog y capasiti orthopedig ychwanegol a oedd yn dod ar-lein a'r angen i wneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r gweithlu sydd ar gael, a chynllunio swyddi cyn i ni feddwl am fuddsoddi mewn cyfleusterau newydd. Tynnodd y Gweinidog sylw at ei hymweliad diweddar ag Abergele a'i siom nad oedd unrhyw weithgarwch adeg ei hymweliad.

Mae swyddogion wedi siarad â thîm Theatr GiRFT i weld pa fetrigau y gellir eu casglu i fonitro effeithlonrwydd ac mae'r templed y mae Tîm GiRFT yn ei ddefnyddio wedi'i ddosbarthu i ddau sefydliad sy'n ei dreialu cyn iddo gael ei gyflwyno ledled Cymru. Dylid cynnal trafodaethau â chleifion i bennu ai llawdriniaeth yw’r opsiwn gorau i'r claf hwnnw ac os felly, dylai'r claf dderbyn rhagasesiad priodol cyn y llawdriniaeth a chael gofal dilynol priodol. Dylai fod gan fyrddau iechyd brosesau ar waith i atgoffa cleifion o ddyddiadau eu hapwyntiadau a'u triniaeth. Roedd y Gweinidog yn cydnabod ymdrechion caled pawb sy'n gweithio i leihau'r rhestrau aros a gwella’r gwasanaethau a dywedodd fod y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn gryn her ariannol. Felly, mae'n bwysig bod newidiadau i’r gwasanaethau’n digwydd yn gyflym a bod sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd ar draws ffiniau byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau.

Cafwyd diweddariad gan Mr Navin Verghese am waith y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth Orthopedig (NCSOS). Cytunodd â'r Gweinidog bod her fawr o'n blaenau a bod hyn yn fater i’w ddatrys yn y tymor canolig i’r tymor hir. Mae rhai camau y gellir eu cymryd ar unwaith i wneud rhywfaint o gynnydd. Roedd yr NCSOS wedi symud o ddull prosiect i ddull rhaglen, ac roedd pawb yn ymroi i drawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau orthopedig yn cael eu darparu. Mae pob ymgynghorydd orthopedig ar draws Cymru wedi cyfrannu at y strategaeth. Dros y chwe mis diwethaf mae cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud ac mae ymgysylltiad da wedi bod a gobeithio y bydd hyn yn helpu i gael gwared ar y gromlin neu ei lleihau dros y pum mlynedd nesaf.

Ar hyn o bryd mae 183 o ymgynghorwyr orthopedig ledled Cymru, yn gweithio mewn
24 uned orthopedig. Mae gan rai byrddau iechyd dair uned orthopedig neu fwy, pob un yn gweithio'n wahanol. Gall hyn arwain at aneffeithlonrwydd gydag un llwybr orthopedig yn gwbl wahanol i lwybr orthopedig arall. Mae tîm GiRFT wedi gwneud llawer iawn o waith dros y degawd diwethaf ac mae hynny wedi helpu i safoni gofal ar draws byrddau iechyd. Mae gan raglen NCSOS bedwar piler y mae'r rhaglen yn seiliedig arnynt: diwygio sefydliadol, rhwydweithiau clinigol, trawsnewid llwybrau a sefydlu canolfannau llawfeddygol. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd yn y bôn. Bu cynnydd da o ran diwygio yn Ne-ddwyrain Cymru. Roedd 155 o argymhellion gan NCSOS ac argymhellion niferus gan GiRFT, ac nid ydynt wedi’u gweithredu cystal ag y dylent. Mae angen i'r gwaith hwn gael ei gyflwyno yn genedlaethol gyda chyswllt rhanbarthol. Mae angen monitro data gwyliadwriaeth, DPA a llywodraethiant, a dim ond wedyn y gallwn leihau'r gwastraff yn sgil dyblygu, amrywiadau ac anghysondeb. Gall rhai o'r pethau hyn ddigwydd yn gyflym, ond mae rhai yn ymrwymiad hirdymor.

Mae angen sefydlu rhwydweithiau clinigol. Mae grwpiau darparu gwasanaethau ar bob safle ac mae rhywfaint o waith cenedlaethol drwy'r Bwrdd Rhaglen Gofal Cynlluniedig. Mae cyllid ar gael i ddatblygu'r rhwydwaith orthopedig ac is-arbenigedd Grwpiau Cyswllt Clinigol a Thîm Amlddisgyblaeth i edrych ar yr holl lwybr er mwyn safoni gofal. Bydd hyn yn helpu i weithredu argymhellion GiRFT trwy gefnogaeth gan dimau gweithredol. Mae'n hanfodol cael gweithgorau rhanbarthol i ddiwallu'r anghenion wrth symud ymlaen er mwyn gweithredu strategaethau cenedlaethol i lawr i grwpiau darparu gwasanaethau.

O ran rhwydweithiau clinigol, dyma fu'r prif ffocws hyd yma ac mae'n amlwg bod llawer iawn o aneffeithlonrwydd wedi'i ymgorffori yn y gweithlu. Mae rhai byrddau iechyd yn brin mewn rhai meysydd is-arbenigedd, ond os gwneir gwaith yn rhanbarthol, gellir rhannu'r ymgynghorwyr hynny ar draws y rhanbarth. Mae'n bwysig nad yw byrddau iechyd yn recriwtio ar gyfer meysydd is-arbenigedd penodol ond yn ceisio gweithio ar sail fwy rhanbarthol.

Mae pob rhan o'r llwybr yn drwm o ran adnoddau, o frysbennu, i gleifion allanol, diagnosteg a thriniaethau a phopeth rhyngddynt. Trwy edrych ar y llwybr cyfan, gellir rhoi ymyriadau ar waith sydd naill ai'n atal llawdriniaeth neu'n ei gwneud yn llai cymhleth. Mae angen i ymgynghorwyr fod yn nes at flaen y llwybr – yn ôl gwaith a wnaed ar y llwybr asgwrn cefn ym Mae Abertawe ar ddechrau'r pandemig, roedd atgyfeiriadau i glinig asgwrn cefn cam un wedi lleihau 50%, gyda’r costau’n lleihau dros £100k, a llwyddwyd i gwtogi’r rhestr aros cam un tua 70% a neb yn aros mwy na 26 wythnos.

Mae ffocws NCSOS wedi bod ar sefydlu canolfannau llawfeddygol. Mae GIG Lloegr wedi arloesi ar ddatblygu canolfannau, ac mae angen i ni ddatblygu canolfannau achrededig GiRFT gyda thrwybwn uwch ledled Cymru. Er mwyn datrys rhestr aros triniaeth y glun, mae angen cynnydd o 192% mewn gweithgarwch ledled Cymru. Ar y lefelau presennol, er mwyn gwneud hyn, byddai angen 15 neu 16 o theatrau yng Nghymru yn gweithio’n ddi-baid gyda phedwar achos y dydd i gyrraedd y lefel honno. Pe baent yn symud i weithio 2.6 diwrnod sesiwn, byddai’n ofynnol cael 10 theatr. O edrych ar y cyfleuster newydd ar gyfer De-ddwyrain Cymru, wrth symud o bum diwrnod i chwech, byddai'r galw am theatrau yn gostwng i bump a byddai'r galw am welyau yn lleihau'n sylweddol pe bai gostyngiad yn unol ag argymhellion GiRFT.
Mae'r cyfan yn ymwneud â thrawsnewid y llwybr. Hefyd, rhaid sicrhau bod y claf yn addas ar gyfer llawdriniaeth. Mae dadansoddiad cyflym o ddata ar safleoedd acíwt yn dangos bod 41% o driniaethau wedi'u canslo, 53% yn y safleoedd acíwt, 36% yn y safleoedd dewisol, sy'n dangos bod potensial i wella gyda safleoedd dewisol. Mae'n bwysig sicrhau bod canllawiau cyn triniaethau yn cael eu dilyn yn gywir fel mai dim ond y cleifion hynny sy'n addas ar gyfer llawdriniaeth sy'n cael eu rhestru. Mae nifer fawr o gleifion yn dal i gael eu canslo ar y diwrnod, rhai oherwydd nad yw canllawiau cyn triniaeth wedi eu dilyn, yn ogystal â diffyg gwelyau (hyd yn oed ar safleoedd dewisol).

Diolchodd Nick Wood i bawb am eu cyflwyniadau.

Trafodaeth

Cafwyd nifer o gyflwyniadau gan y byrddau iechyd, yn unigol ac fel rhan o'r cynllun rhanbarthol. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Er y bu gostyngiadau yn nifer y llwybrau agored, yn y cam cyntaf fel cleifion allanol ac yn y cam llawdriniaeth, roedd cydnabyddiaeth gan fyrddau iechyd bod angen i lefelau gweithgarwch gynyddu ar gyfer y ddau faes os oes oeddem yn mynd i gyflawni’r targedau Gweinidogol.
  • Mae heriau ar draws Cymru mewn rhai meysydd is-arbenigol, yn enwedig yr asgwrn cefn.
  • Mae angen i fyrddau iechyd amddiffyn capasiti gwelyau rhag pwysau gofal brys ac argyfwng.
  • Mae byrddau iechyd yn gweithio i wella effeithlonrwydd, gan gynnwys defnyddio theatrau a lleihau hyd cyfartalog yr arhosiad.
  • Mae heriau gyda gofynion y gweithlu, o ran staff theatr a staff eraill.
  • Mae yna ddibyniaeth ar Fentrau Rhestrau Aros (WLIs) a mewnoli / allanoli gweithgaredd i ddatrys ôl-groniad o gleifion.
  • Er mai dymuniad byrddau iechyd yw gwneud mwy o restrau nifer uchel/llai cymhleth, ar hyn o bryd mae’r ffaith bod mwyafrif yr achosion yn y byrddau iechyd yn fwy cymhleth oherwydd yr amser maent eisoes wedi aros yn rhwystro hynny, sy’n golygu nad yw’r cleifion hyn yn addas ar gyfer y math hwnnw o restr.
  • Mae angen cael y gwasanaethau cymorth cywir ar waith, gan gynnwys ffisiotherapi.
  • Mae atgyfeiriadau i orthopedeg yn dal i fod yn is na'r lefelau cyn COVID.
  • Mae pob bwrdd iechyd yn datblygu ac yn gweithredu gwaith NCSOS a GiRFT ac yn parhau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer eu gweithredu, gan gynnwys ffyrdd newydd o weithio fel Sylw yn ôl Symptomau (SoS) ac Apwyntiadau Dilynol ar Gais y Claf (PIFU).

Ymrwymiadau

Dyma gasgliad y drafodaeth: er mwyn lleihau'r rhestrau aros a sicrhau amserau aros realistig i gleifion, mae angen i lefelau gweithgarwch gynyddu a chael eu cynnal.

Mae angen mynd i'r afael ag aneffeithlonrwydd yn y system, gan gynnwys theatrau, gan nad oes unrhyw fudd gwirioneddol mewn agor cyfleusterau newydd os nad yw'r rhai presennol yn cael eu defnyddio i'r eithaf. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithredu camau gweithredu ac argymhellion adolygiadau GiRFT ac adroddiad NCSOS.

Mae'r camau canlynol wedi eu pennu:

  • Swyddogion Llywodraeth Cymru a thîm theatr GiRFT i gydweithio er mwyn rhoi ar waith yng Nghymru yr offeryn adrodd sydd ganddynt yn Lloegr, fel y gallwn weld pa feysydd sydd angen eu gwella.
  • Dylai pob safle barhau i weithredu argymhellion GiRFT a NCSOS.
  • Datblygu setiau data cadarn a datblygedig, gan adeiladu ar waith gan GiRFT, fel y gellir sicrhau gwyliadwriaeth ar y llwybr cyfan.
  • Cyflwyno llwybrau is-arbenigedd yn raddol.
  • Pob bwrdd iechyd i wella lefelau gweithgarwch ar gyfer cleifion mewnol / dydd a chleifion allanol.
  • Ffocws parhaus ar ddileu sefyllfaoedd o gleifion allanol yn aros am fwy na 52 wythnos a phob cyfnod aros sy’n fwy na 104 wythnos.
  • Parhau i archwilio cyfleoedd i weithio'n fwy rhanbarthol.