Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Cymru Iachach yn nodi’r cyfeiriad polisi ac mae'r datganiad ansawdd canser yn disgrifio'r canlyniadau a'r safonau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar gleifion. Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser yn nodi 22 o ddisgwyliadau cynllunio ac atebolrwydd i'w cyflawni'n gyson ledled Cymru.

Mae 22 o Lwybrau Delfrydol Cenedlaethol yn nodi'r daith orau bosibl i gleifion ar y llwybrau hynny. Disgwyliad Llywodraeth Cymru yw bod gwasanaethau canser y byrddau iechyd yn cyd-fynd â'r llwybrau gorau posibl hyn gan leihau amrywiaeth a lleihau arosiadau i gleifion yn y pen draw. 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Adfer Gofal wedi'i Gynllunio ym mis Ebrill 2022. Mae’r adran canser yn y cynllun adfer yn gwbl glir ynghylch y camau sydd angen eu cymryd yn awr i gynyddu gweithgarwch. Mae ein hagwedd at adfer gwasanaethau canser yn canolbwyntio ar leihau ôl-groniad pobl sy'n aros yn rhy hir ar eu llwybr canser a sicrhau bod cyfathrebu clir yn digwydd gyda chleifion trwy gydol eu llwybr canser, ond mae hefyd yn gweithio tuag at ddull mwy cynaliadwy o drawsnewid llwybrau a fydd yn darparu llwybrau a gwasanaethau cadarn, effeithlon ac amserol ar gyfer gofal canser yn y dyfodol.

Cyhoeddodd Rhwydwaith Canser Cymru, sydd bellach yn rhan o Weithrediaeth y GIG, Gynllun Gwella Canser i roi cymorth pellach i’r gwasanaeth yn Chwefror 2023.

Cynhaliwyd uwchgynhadledd ganser ym Mawrth 2023 i:

  1. olrhain cynnydd yn erbyn ymrwymiadau a wnaed yn Uwchgynhadledd mis Hydref
  2. atgyfnerthu'r angen am ffocws parhaus dros yr 8-10 mis nesaf
  3. clywed ymrwymiadau wedi'u diweddaru gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau
  4. canolbwyntio ar 3 o'r mannau canser mwyaf heriol; Gynaecoleg, Wroleg a Gastroberfeddol Isaf

Adroddiad yr uwchgynhadledd

Croesawodd Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru arweinwyr gweithredol, gweithrediaeth a chlinigol o bob rhan o Gymru a nodi disgwyliadau'r diwrnod, gan amlinellu ble mae cynnydd wedi'i wneud ers mis Hydref 2022 a’r camau gweithredu a roddwyd ar waith i leihau ôl-groniad cleifion sy’n aros am driniaethau canser.

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol y GIG ar gyfer Canser yr heriau allweddol i’r gwasanaeth sy'n wynebu GIG Cymru. Y pwyntiau allweddol oedd:

  • Mae'r GIG yn gweld nifer cynyddol o atgyfeiriadau gan ymateb drwy ymchwilio a thrin mwy o gleifion nag erioed o'r blaen. Mae galluoedd gwybodaeth fusnes presennol wedi gwella'n sylweddol.
  • Mae'r Rhwydwaith Canser yn gweithio'n agos gyda sefydliad y GIG a thimau cenedlaethol i gefnogi darpariaeth y GIG ac mae wedi cyflwyno Cynllun Gwella Canser cenedlaethol. Mae cymorth cynllunio pellach ar gael i bob bwrdd iechyd.
  • Mae perfformiad yn parhau yn gryn her, ac mae hyn yn dylanwadu ar ganlyniadau cleifion, gan gynnwys amrywiadau sylweddol rhwng byrddau iechyd a rhwng safleoedd canser. Mae angen canolbwyntio ar leihau amrywiaeth a manteisio ar gyfleoedd i weithio'n fwy rhanbarthol.
  • Mae gwasanaethau'n dibynnu ar fentrau rhestrau aros i ddal i fyny ac adfer. Mae angen i ni ddatblygu atebion cynaliadwy ac edrych ar gomisiynu llwybrau cyfan.
  • Mae'r Rhaglen Ddiagnostig ar waith i gefnogi’r gwaith o wella mynediad at ymchwiliadau canser.
  • Gellir dathlu llawer o enghreifftiau da o ddatblygu gwasanaethau megis cyflwyno Clinigau Diagnostig Cyflym, llwybrau delweddu cyflym, genomeg canser yr ysgyfaint, prawf imiwnocemegol ar ysgarthion, ac endosgopi drwy’r trwyn.
  • Mae staff y GIG yn gweithio'n eithriadol o galed ac mae angen arweinyddiaeth systemau effeithiol i wella gwasanaethau.

Cafwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Perfformiad a Sicrwydd Gweithredol y GIG ar gynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau allweddol a wnaed yn yr uwchgynhadledd flaenorol. Roedd hyn yn cynnwys ôl-groniad a thrywydd perfformiad ar gyfer pob claf canser, ac amrywiaeth rhwng byrddau iechyd a mathau o ganser. Dyma’r pwyntiau allweddol:

  • Mae byrddau iechyd yn trin mwy o gleifion ac wedi dechrau lleihau eu hôlgroniadau, er bod angen cynyddu a pharhau i wneud hyn.
  • Mae niferoedd ar y rhestrau aros yn parhau'n uchel, yn enwedig ar gyfer ymchwiliad diagnostig.
  • Mae amseroedd aros cleifion allanol newydd wedi bod yn cynyddu ers diwedd Ionawr.
  • Bydd perfformiad tymor byr yn cael ei effeithio gan y ffocws ar leihau ôlgroniadau.
  • Mae angen i weithgarwch cleifion newydd gadw i fynd hefyd.
  • Ffocws ar fynediad diagnostig sydd â'r potensial mwyaf i gefnogi adferiad.

Wrth annerch yr uwchgynhadledd, diolchodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i bawb am eu gwaith a’u hymdrech i adfer a gwella gwasanaethau canser. Ategodd y Gweinidog lefel y flaenoriaeth sy’n ofynnol er mwyn cynllunio a darparu gwasanaethau canser. Cydnabu'r Gweinidog y cafwyd rhywfaint o gynnydd ers yr uwchgynhadledd ddiwethaf ac effaith yr ôl-groniad ar berfformiad ym maes canser. Nododd y Gweinidog eto fod y datganiad ansawdd ar gyfer canser yn mynegi’r disgwyliadau cenedlaethol i adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig a gweithio tuag at gyrraedd y targed perfformiad. Er mwyn gwneud hyn, dylai'r GIG weithredu'r llwybrau cenedlaethol gorau posibl yn lleol, buddsoddi yng nghapasiti ei weithlu ar bob cam o'r llwybr, ac ad-drefnu ei wasanaethau mwy bregus lle bo angen gan weithio ar draws unedau, ar draws byrddau iechyd, neu ar draws rhanbarthau Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd cefnogi pobl sy'n aros am ymchwiliad a
thriniaeth hefyd.

Gofynnodd y Gweinidog i'r mynychwyr adfer gwasanaethau canser cyn gynted â phosibl yn unol â’r llwybrau a gytunwyd. Dylid blaenoriaethu'r capasiti sydd ar gael yn unol â hynny, a rhaid lleihau’r ôl-groniad. Dylid adlewyrchu gwasanaethau canser yn briodol fel blaenoriaeth genedlaethol mewn cynlluniau lleol, a dylai hyn gynnwys canolbwyntio ar weithredu'r llwybrau cenedlaethol, diwygio llwybrau, a mynediad at wasanaethau cleifion allanol cyntaf a diagnosteg.

Adroddiadau ymddiriedolaethau a byrddau iechyd

I Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y brif her fu'r amser aros o’r cyfnod atgyfeirio i ddechrau'r llwybr. Pennwyd targed i weld 75% o gleifion o fewn 14 diwrnod, bydd hyn yn sicrhau bod cleifion yn llifo'n gynt trwy'r llwybr. Cynhaliwyd gweithdai, yn cyfateb i themâu'r uwchgynhadledd hon ac maent wedi blaenoriaethu gweithgareddau. Crëwyd rhagolwg byw a phroffil galw i dimau gynllunio ar gyfer galw yn y dyfodol. Mae adroddiadau patholeg wedi cael eu hallanoli. Mae'r amseroedd aros yn dechrau gostwng erbyn hyn ac mae'r nifer sy'n aros mwy na 104 diwrnod yn lleihau.

Ers yr uwchgynhadledd ddiwethaf mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi adolygu llwybr y brostad ac wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i weithredu newidiadau allweddol. Mae hyn yn cynnwys gweithredu gwasanaeth uniongyrchol i MRI a chlinigau dan arweiniad nyrsys. O 1 Ebrill ymlaen, bydd y canllawiau FIT newydd yn cael eu rhoi ar waith gyda ffocws penodol ar weithdrefnau diogelwch gyda meddygon teulu. Mae'r archwiliad o'r llwybr lwmp gwddf wedi'i gwblhau, sefydlwyd clinig un stop ac mae amseroedd diagnostig 14 diwrnod yn llai mewn 1
ysbyty gyda'r bwriad o gyflwyno'r drefn ar 2 safle arall yn fuan. Mae capasiti oncoleg wedi cynyddu yn sgil penodi ymgynghorwyr newydd, 1 parhaol, 2 locwm ac oncolegydd meddygol ychwanegol. Mae problemau o hyd o ran teledermosgopeg heb unrhyw ymgynghorwyr parhaol yn y gorllewin ac felly mae'r bwrdd iechyd yn parhau i drosglwyddo cleifion rhwng safleoedd. Derbynnir atgyfeiriadau’n electronig oddi wrth y meddyg teulu, ond rhaid eu hargraffu, mae gwaith i'w wneud i'w hadolygu'n electronig. Mae cryn ffocws yn parhau ar leihau'r ôl-groniad 62 diwrnod.

Ers mis Medi mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cynnal tair uwchgynhadledd canser fewnol, pob un wedi'i harwain yn glinigol, gan ganolbwyntio ar leihau'r ôl-groniad. Mae'r ffocws hwn wedi gweithio'n dda gyda gostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n aros dros 62 diwrnod, o uchafswm o oddeutu 750 i lai na 200. Mae'r aros am gyswllt cyntaf wedi lleihau i tua 15 diwrnod, gyda nod o 14 diwrnod neu lai erbyn diwedd Ch1. Y nod yw sicrhau bod 85% o gleifion yn cael diagnosis erbyn diwrnod 28. Perfformiad Ionawr oedd 55%, bydd Chwefror tua 62% a 75% erbyn diwedd Ch1 gan anelu at 80% erbyn C2.

Mae'r perfformiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gryn dipyn yn is nag y dylai fod. Bu rhywfaint o ostyngiad yn yr ôl-groniad, ac er ei fod ar ei lefel isafers mis Tachwedd 2021 gyda 618 o gleifion, mae'n dal yn rhy uchel. Mae un tîm amlddisgyblaeth niwrolegol gyda llwybr unigol ar waith erbyn hyn ar draws dau safle tiwmor. Mae'r gwasanaeth wroleg yn cael ei ail-gyflunio gan ddod â'r holl ddiagnosteg i safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd y llwybr lwmp gwddf ar waith erbyn diwedd y mis. Mae'r clinig gynaecoleg un stop ar waith erbyn hyn. Bu
rhywfaint o recriwtio cadarnhaol, gan gynnwys llawfeddyg ychwanegol y fron ac wrolegydd ychwanegol. Mae capasiti ychwanegol ar gyfer endosgopi ar y gweill. Ar hyn o bryd mae gwasanaeth canser y fron ar sawl safle ond y bwriad yw cyfuno’r gwasanaeth cleifion allanol ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Ymrwymiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dilyn yr uwchgynhadledd ddiwethaf oedd lleihau ôl-groniad a maint cyffredinol y Rhestr Olrhain Cleifion (PTL). Mae'r ôl-groniad oddeutu 40% o'r hyn ydoedd ar ei anterth yr haf diwethaf a gostyngodd y PTL yn sylweddol. Mae triniaethau llawfeddygol yn sylweddol uwch na'r lefelau cyn y pandemig i gleifion canser. Y ddau faes mwyaf problemus yw wroleg a gastroberfeddol isaf, ac mae cynlluniau ar waith i gynyddu capasiti.

Nododd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys nad oes ganddynt ysbyty ardal cyffredinol na thimau arbenigol cysylltiedig, felly prin yw gwasanaethau diagnosteg a thriniaeth canser o fewn y bwrdd iechyd. Ceir themâu cyson yn codi yn y panel adolygu niwed misol dan arweiniad clinigol, sef capasiti radioleg a phatholeg yn bennaf, capasiti cleifion allanol, llwybrau cymhleth lle mae cleifion yn ymwneud â nifer o ddarparwyr a ffactorau’n ymwneud â chleifion hefyd. Mae profion FIT wedi cael eu gweithredu'n llwyddiannus ym mhob practis ym Mhowys drwy amrywiaeth o lwybrau. Mae BIPBC wedi cadarnhau capasiti i dderbyn trigolion Canolbarth Powys, bydd hyn yn darparu mynediad i Ganolfannau Diagnosis Cyflym (RDC) i drigolion ar draws y bwrdd iechyd cyfan. Mae'r dull o olrhain canser yn cael ei adolygu gyda ffocws ar
wasanaethau darparwyr ac i osgoi dyblygu gweithgarwch mewn byrddau iechyd eraill. Mae gwasanaethau darparwyr yn parhau’n fregus o fewn y bwrdd iechyd, mae hyn yn gysylltiedig â materion staffio sy'n cael eu datrys drwy gomisiynu.

Ymrwymiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn dilyn yr uwchgynhadledd ddiwethaf oedd lleihau nifer y cleifion ar y PTL, mae hyn wedi lleihau 36%. Bu heriau sylweddol gyda gynaecoleg yn enwedig ym mhen blaen y llwybr gyda diagnosteg yn her sylweddol. Mae angen gwneud gwaith ar y llwybr ysgyfaint. Mae endosgopi wedi gwella gyda 24% o atgyfeiriadau’n cael eu gweld o fewn 14 diwrnod. Aeth dangosfwrdd yn fyw ym mis Chwefror i dynnu sylw at berfformiad safleoedd tiwmor. Mae caffael adnoddau ar y gweill ar gyfer gynaecoleg. Mae ymgynghorydd newydd y fron yn dechrau ym mis Ebrill gyda chefnogaeth y peiriant mamogram ychwanegol.

Mae Felindre wedi canolbwyntio'n benodol ar lwybrau, gweithlu, a gweithio rhanbarthol. Mae rhywfaint o waith â ffocws ar welliannau i ymateb i brosesau gweithredol er mwyn gwella pob elfen o'r llwybr. O ran y gweithlu mae dull deuol ar waith, mae un yn ystyried yr hyn y gellir ei wneud trwy raglenni cenedlaethol a rhanbarthol a'r llall yn adolygu rhai o'r rolau arbenigol ar lefel fwy lleol. Ers yr uwchgynhadledd ddiwethaf maent wedi cynnal nifer o adolygiadau capasiti i roi gwell dealltwriaeth o'r galw a rheoli capasiti.

Adroddiadau ymddiriedolaethau a byrddau iechyd

Cafwyd trafodaeth grŵp ar Wroleg, Gastroberfeddol Isaf a Gynaecoleg wedyn. Roedd y pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Dywedodd Nicholas William Gill, sef arweinydd y Grŵp Safle Canser ar gyfer Wroleg mai capasiti yw’r brif broblem, a bod y gwasanaeth yn anodd ei gynnal pan fo staff yn absennol. Amlygodd Nicholas fod canser prostad risg uchel yn cymryd llawer mwy o amser i fynd drwy'r llwybr oherwydd bod angen cynifer o brofion diagnostig a soniodd am yr anhawster o ran rheoli cleifion risg uchel a risg isel.
  • Dywedodd Kerryn Lutchman-Singh, sef arweinydd llwybr y Grŵp Safle Canser ar gyfer gynaecoleg, ei bod yn bwysig bod cleifion gynaecoleg yn cael gofal o’r un safon ar hyd y llwybr o’r diagnosis i’r driniaeth. Maent yn treialu'r dull un stop ar gyfer canser ofarïaidd a chafwyd canlyniadau calonogol. Efallai y bydd yn bosibl gweithredu'r un model ar gyfer Gynaecoleg.
  • Dywedodd Martyn Evans, sef arweinydd y Grŵp Safle Canser ar gyfer y colon a’r rhefr y cafwyd rhai camau arwyddocaol yn y flwyddyn ddiwethaf ar gyfer Gastroberfeddol isaf. Mae capasiti o ran endosgopi yn broblem.

Allbynnau

Cytunwyd ar yr ymrwymiadau a'r camau gweithredu canlynol a bydd cynnydd yn eu herbyn yn cael ei fonitro'n agos:

  • Rhoi llwybrau cenedlaethol ar waith a lleihau'r cyfnodau ar y llwybr trwy ddulliau fel profion uniongyrchol ac ymchwiliadau dilynol ar yr un diwrnod.
  • Disgwylir gweld cynllunio tymor hwy yng nghynlluniau byrddau iechyd.
  • Parhau i leihau’r amseroedd aros am apwyntiad cleifion allanol cyntaf a diagnosteg.
  • Lleihau nifer y cleifion sy'n aros dros 62 diwrnod i lefel fwy diogel a pharhau i wella perfformiad yn unol â llwybrau unigol y cytunwyd arnynt gyda'r uned gyflawni.
  • Goddefgarwch o 1% yn erbyn niferoedd llwybrau lleol ar arosiadau 104 diwrnod nad ydynt ar gais y claf.
  • Angen ffocws ar wella gwasanaethau canser wrolegol, canserau gastroberfeddol isaf, a chanserau gynaecolegol.