Heddiw, mae Uwch Aelod o Senedd Ewrop, Elmar Brok yng Nghymru i drafod Brexit â'r Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cyllid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Elmar Brok i ddod i drafod cynigion am Brexit sy'n diogelu swyddi ac economi Cymru. Mae’n aelod blaenllaw o Grŵp Plaid Pobl Ewrop (y grŵp gwleidyddol mwyaf yn Senedd Ewrop), ac yn un o'r chwe aelod o Grŵp Llywio Brexit yn y Senedd honno a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth bennu ei barn ar Gytundeb Ymadael Brexit. Mae gan Senedd Ewrop rôl allweddol ym mhroses Brexit gan y bydd yn rhaid iddi gymeradwyo’r Cytundeb Ymadael a fydd yn cael ei negodi gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Yn ystod ei ymweliad, bydd Mr Brok yn annerch Grŵp Cynghori ar Ewrop y Prif Weinidog ac yn siarad yn nigwyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru. Yn dilyn hynny, bydd sesiwn holi ac ateb fer yn cael ei chynnal â'r cyhoedd ym Mae Caerdydd.
Wrth siarad cyn ymweliad Mr Brok, dywedodd y Prif Weinidog:
"Mae Elmar Brok yn un o'r aelodau sy'n gwasanaethu Senedd Ewrop ers y cyfnod hiraf, ac mae ymysg y mwyaf profiadol a dylanwadol.
"Rwy'n edrych ymlaen at glywed ei farn ar sefyllfa negodiadau Brexit ar hyn o bryd, ac ar y posibilrwydd i ddod i gytundeb masnachu i'r dyfodol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Rydw i hefyd am wrando ar ei farn ar ddyfodol yr Undeb, ac yn arbennig y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb arfaethedig a sut olwg fydd ar yr Undeb, a Senedd nesaf Ewrop, heb y Deyrnas Unedig."
Dywedodd Mark Drakeford:
"Rwy'n falch o groesawu Elmar Brok i Gymru ar ôl cael y cyfle i drafod Brexit gydag ef ar sawl achlysur dros y ddwy flynedd diwethaf. Dyma gyfle inni amlinellu ein cynlluniau ar gyfer Brexit synhwyrol sy'n diogelu economi a swyddi Cymru. Mae angen inni ganfod ffyrdd newydd o gydweithio â'n ffrindiau a'n cymdogion yn Ewrop ar yr heriau cyffredin."
Bydd y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod preifat ag Elmar Brok cyn y Grŵp Cynghori ar Ewrop.