Bydd eitemau ar gyfer y mislif ar gael yn rhad ac am ddim mewn ysgolion ar draws Cymru diolch i £2.3miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Bydd y Grant Urddas yn ystod Mislif i Ysgolion yn darparu amrywiol gynnyrch ar gyfer y mislif i dros 141,000 o ferched yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru.
Yn ogystal â bod yn rhad ac am ddim, bydd y cynnyrch ar gael mewn ffordd mor ymarferol a phriodol â phosib.
Bydd ysgolion yn cael eu hannog i gefnogi cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio, sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol, er mwyn rhoi cymaint o ddewis â phosib i ddysgwyr.
Mae cyflenwi ysgolion cynradd yn mynd gam ymhellach na'r ddarpariaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr. Bydd yr arian ar gael drwy Awdurdodau Lleol, sy'n ariannu ysgolion Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi urddas yn ystod mislif ac yn parhau i fuddsoddi mewn ysgolion er mwyn helpu i drechu tlodi mislif.
"Ym mis Mawrth, fe wnaethon ni gyhoeddi y byddai eitemau ar gyfer y mislif ar gael i bob menyw yn ysbytai Cymru – mae ond yn deg gwneud yr un fath yn ein hysgolion.
"Mae'n hanfodol sicrhau bod digon o eitemau ar gyfer y mislif, yn ogystal â chyfleusterau da, ar gael i bob merch er mwyn iddyn nhw reoli eu mislif â hyder a goresgyn unrhyw rwystrau diangen i'w haddysg."
Dywedodd Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
"Mae'n anodd credu bod menywod ifanc yn gorfod colli diwrnodau o'u haddysg am nad ydyn nhw’n gallu cael gafael ar gynnyrch ar gyfer y mislif, neu fforddio talu amdanynt.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i drechu'r anghydraddoldeb hwn yng Nghymru, ac fe fydd y cyllid yn helpu i sicrhau bod eitemau ar gyfer y mislif ar gael i bob dysgwr ym mhob ysgol, yn rhad ac am ddim ac yn y ffordd fwyaf urddasol bosib."
Yn ôl ymchwil gan Plan International, mae 15% o ferched yn ei chael yn anodd fforddio talu am eitemau ar gyfer y mislif, mae 14% wedi gorfod benthyg gan ffrind, a bron i 20% wedi gorfod defnyddio cynnyrch llai addas gan fod y gost yn broblem.
Daw'r £2.3 miliwn a gyhoeddwyd heddiw â chyfanswm cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer urddas yn ystod mislif i £3.4 miliwn wedi iddi ymrwymo £1.1 miliwn llynedd i roi sylw i dlodi mislif mewn cymunedau a gwella cyfleusterau mewn ysgolion.
Mae'r cyllid blaenorol yn cynnwys £440,000 ar gyfer Awdurdodau Lleol hyd at 2020 i ddarparu eitemau ar gyfer y mislif drwy ysgolion, banciau bwyd a llochesi i'r rhai a fyddai fel arall yn cael trafferth talu amdanynt, a £700,000 i wella cyfleusterau toiledau mewn ysgolion.