Neidio i'r prif gynnwy

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn mesur lefelau unigrwydd yn y boblogaeth. Rhoddwyd chwe datganiad i bobl, yr oedd yn bosibl eu hateb yn gadarnhaol neu’n negyddol neu 'fwy neu lai'. Mae hon yn raddfa safonol a ddefnyddir i fesur unigrwydd, graddfa De Jong Gierveld. Y chwe datganiad yw:

  • ‘Rwy'n teimlo gwacter cyffredinol’
  • ‘Rwy'n gweld eisiau cael pobl o gwmpas’
  • ‘Rwy'n aml yn teimlo fy mod wedi cael fy ngwrthod’
  • ‘Rwy'n medru dibynnu ar lawer o bobl pan mae gen i broblemau’
  • ‘Mae llawer o bobl y gallaf ymddiried ynddynt yn llwyr’
  • ‘Rwy'n teimlo'n agos at ddigon o bobl’

Cyfunwyd yr ymatebion i gynhyrchu graddfa o 0 i 6, gyda 0 y lleiaf unig a 6 y mwyaf unig. At ddibenion adrodd, rydym yn ystyried bod pobl sydd â sgôr rhwng 4 a 6 yn unig. 

Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ganfyddiadau'r Arolwg Cenedlaethol wyneb yn wyneb yn ystod 2019-20 a hefyd yr Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd dros y ffôn rhwng mis Mai a mis Medi 2020, yn ystod pandemig y coronafeirws.  Canlyniadau 2019-20 yw'r rhai y gellir eu cymharu orau i ganlyniadau’r blynyddoedd blaenorol; mae canlyniadau mis Mai i fis Medi 2020 yn fwy diweddar ond yn llai syml i'w cymharu â blynyddoedd blaenorol oherwydd y newid i gyfweliadau dros y ffôn. Mae canlyniadau pellach o'r arolygon misol a blynyddol ar gael yn y dangosydd canlyniadau.

Prif ganfyddiadau

  • Yn 2019-20, roedd 15% o bobl yn unig, sy’n llai nag yn 2016-17.
  • Roedd pobl iau yn fwy tebygol o fod yn unig na phobl hŷn.
  • Roedd unigolion â chyflwr iechyd meddwl neu mewn gwaeth iechyd cyffredinol hefyd yn fwy tebygol o fod yn unig.
  • Roedd unigrwydd hefyd yn dangos perthynas gref â llesiant. Nododd pobl unig foddhad llawer is â bywyd na'r rhai nad oeddent yn unig.
  • Rhwng mis Mai a mis Medi 2020, adroddwyd bod unigrwydd yn is nag yn 2016-17 a 2019-20.

Unigrwydd

Yn 2019-20, roedd 15% o bobl yn unig. Mae hyn yn is nag yn 2016-17, pan oedd 17% yn unig. Yn 2017-18, 16% ydoedd.

Yn 2019-20, roedd 51% weithiau'n unig (sgôr 1 i 3) ac nid oedd 33% yn unig (sgôr 0).

Cynhaliwyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng unigrwydd ac amrywiaeth o ffactorau demograffig, cymdeithasol ac iechyd. Wrth reoli dylanwad ffactorau eraill, roedd cysylltiad annibynnol rhwng y canlynol a bod yn unig:

Oedran

Mae cysylltiad cryf rhwng bod yn ieuengach a bod yn unig. Mae 9% o'r rhai dros 65 oed yn unig, o gymharu â 19% o'r rhai 16 i 44 oed a 15% o'r rhai 45 i 64 oed.

Image
Siart bar yn dangos bod y canran o bobl sy’n teimlo’n unig yn lleihau gydag oedran. O 20% o bobl 16 i 24 oed i 9% o bobl 75+ oed.

 

Ethnigrwydd

Roedd pobl a nododd eu bod yn Wyn - Prydeinig yn llai tebygol o fod yn unig na'r rhai a nododd eu bod yn wyn ac nid yn Brydeinig.

Iechyd cyffredinol

Roedd pobl sy'n ystyried eu hunain mewn iechyd gwael yn fwy tebygol o fod yn unig na'r rhai mewn iechyd da. Roedd 24% o bobl mewn iechyd gweddol a 35% mewn iechyd gwael neu wael iawn yn teimlo’n unig, o gymharu â 11% o'r rhai mewn iechyd da neu dda iawn.

Salwch meddwl

Roedd 44% o'r rhai â salwch meddwl (gan gynnwys gorbryder ac iselder) yn unig, tra mai dim ond 12% o'r rhai heb salwch o'r fath oedd yn unig.

Cyfeiriadedd rhywiol

Roedd 15% o’r rhai a ddywedodd eu bod yn heterorywiol yn teimlo’n unig, o gymharu â 30% o'r rhai a roddodd ymateb arall.

Amddifadedd materol

Roedd amddifadedd materol yn ffactor arwyddocaol o ran yr unigrwydd a gofnodwyd. Roedd 41% o bobl mewn amddifadedd materol yn teimlo’n unig, o gymharu â 12% o'r rhai nad oeddent mewn amddifadedd materol.

Statws priodasol

Roedd unigolion a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn llai tebygol o fod yn unig na'r rhai a oedd yn sengl (hynny yw, ddim yn briod na'n byw gyda phartner), wedi gwahanu, wedi ysgaru neu’n weddw. Yn ogystal, roedd y rhai a oedd yn ddi-briod ond yn byw gyda phartner yn llai tebygol o fod yn unig na'r rhai sengl neu wedi gwahanu.

Image
Siart bar yn dangos y gyfran o bobl sy’n teimlo’n unig yn ôl eu statws priodasol. Pobl sydd wedi gwahanu a phobl sengl sydd fwyaf tebygol o fod yn unig, a phobl sy’n briod neu’n byw gyda phartner yw’r rhai lleiaf tebygol o deimlo’n unig.

 

Dangoswyd hefyd bod gan unigrwydd berthynas â llesiant ehangach yr unigolyn. Dywedodd 48% o'r rhai nad oeddent yn unig eu bod yn fodlon iawn â bywyd, o gymharu â 30% o'r rhai a oedd weithiau'n unig a dim ond 11% o'r rhai a oedd yn unig. Yn yr un modd, roedd bron i hanner y rhai nad oeddent yn unig yn teimlo'n gryf iawn bod pethau a wnânt yn eu bywyd yn werth chweil, o gymharu â 19% o'r rhai a oedd yn unig.

Image
Siart bar yn dangos sut y mae pobl â lefelau llesiant uchel yn llai tebygol o fod yn unig.

Unigrwydd emosiynol a chymdeithasol

Mae dau ddimensiwn i unigrwydd: unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. O'r chwe datganiad a restrir uchod, mae'r tri datganiad cyntaf yn ddangosyddion o unigrwydd emosiynol ac mae'r tri arall yn ddangosyddion o unigrwydd cymdeithasol. Gan ddefnyddio graddfa 0 i 3, gan roi sgôr o 2 i 3 fel unig a 3 fel unig iawn, canfuwyd bod unigrwydd cymdeithasol yn fwy cyffredin nag unigrwydd emosiynol. Mae 30% o bobl yn gymdeithasol unig, gyda hanner y rhain yn gymdeithasol unig iawn, o gymharu â 20% sy’n emosiynol unig.

Defnyddiwyd yr un dull dadansoddi ag uchod i edrych ar gysylltiadau rhwng gwahanol ffactorau ac unigrwydd emosiynol a chymdeithasol. Canfuwyd bod ffactorau tebyg yn bwysig i'r ddau fath hyn o unigrwydd ag ar gyfer unigrwydd cyffredinol. Fodd bynnag, roedd rhai gwahaniaethau nodedig, gyda chyfeiriadedd rhywiol yn dangos cysylltiad cryfach ag unigrwydd emosiynol na chymdeithasol; a deiliadaeth yn dangos cysylltiad ag unigrwydd emosiynol ond nid unigrwydd cymdeithasol na chyffredinol. Roedd y rhai mewn tai cymdeithasol neu lety rhent preifat yn fwy tebygol o fod yn emosiynol unig na'r rhai sy’n berchen ar eu cartref.

Unigrwydd a COVID-19

Oherwydd pandemig COVID-19, cynhaliwyd arolwg ffôn byrrach yn lle’r Arolwg Cenedlaethol Cymru wyneb yn wyneb bwriedig ar gyfer 2020-21, ac mae canlyniadau misol ar gael ar gyfer misoedd Mai i Medi 2020. Oherwydd y newid dull, dylid bod yn ofalus wrth gymharu canlyniadau'r flwyddyn gyfan a'r canlyniadau misol, ond mae rhai pwyntiau o ddiddordeb o hyd.

Efallai'n syndod, pan gyfunir canlyniadau mis Mai i fis Medi 2020, dywedodd 11% o bobl eu bod yn unig, sy'n is nag yn 2019-20 (15%). Yn yr arolwg blwyddyn gyfan, roedd y cwestiynau unigrwydd yn cael eu cwblhau gan unigolion ar gyfrifiadur. Nid yw hyn yn opsiwn dros y ffôn, lle mae'n rhaid i ymatebwyr ddweud wrth y cyfwelydd beth yw eu hateb. Mae'n bosibl bod ymatebwyr yn teimlo'n llai parod i gyfaddef eu bod yn unig pan gânt eu cyfweld dros y ffôn nag wrth ateb ar eu pen eu hunain ar gyfrifiadur.

Cyd-destun polisi

Unigrwydd yw un o'r 46 dangosydd cenedlaethol a ddefnyddir i fesur cynnydd yn erbyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r Ddeddf hon wedi’i chynllunio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hefyd yn rhan o Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd Cymru, sy'n ystyried y ffactorau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol amrywiol sy'n effeithio ar iechyd yr unigolyn, y gymuned a chymdeithas. Mae unigrwydd yn ddangosydd ar gyfer "amodau byw", gan gefnogi datblygiad cymunedau cydlynol. Mae Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar roddwyr gofal a derbynwyr gofal, hefyd yn defnyddio unigrwydd fel mesurydd ar gyfer llesiant yr unigolion hyn.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Arolwg wyneb yn wyneb oedd Arolwg Cenedlaethol 2019-20 a oedd yn cynnwys hapsampl o dros 12,000 o oedolion o bob rhan o Gymru. Cynhaliwyd yr arolwg hwnnw rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2020.

Yn sgil pandemig y coronafeirws, bu’n rhaid newid i gynnal arolwg byrrach dros y ffôn bob mis. O fis Mai 2020 ymlaen, cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn gyda hapsampl o bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn Arolwg Cenedlaethol blwyddyn lawn, wyneb yn wyneb. 

Mae siartiau manwl a thablau canlyniadau ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth ynglŷn â chasglu’r data a’r fethodoleg gweler yr adroddiad ansawdd a'r adroddiad technegol atchweliad.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy'n dangos cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo'r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y byddai’r ystadegau hyn yn parhau i gael eu dynodi’n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau). Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu’n llawn (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer ddiwethaf yn 2013.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau a'i gwneud yn haws i ddefnyddwyr gymharu canlyniadau ar draws blynyddoedd
  • diweddaru pynciau'r arolwg yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy'n newid
  • gwneud dadansoddiad atchweliad yn rhan safonol o'n hallbynnau i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau diddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn casglu gwybodaeth ar gyfer 15 o'r 46 dangosydd.  

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alice Roebuck
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 44/2020