Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwynwyd Unedau Gwahanu TB (TBIUs) Cymeradwy i wahanu a phrofi lloi neu wartheg stôr o ddaliadau o dan gyfyngiadau TB.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyflwynwyd TBIUs er mwyn:

  • darparu safleoedd ar gyfer lloi neu wartheg stôr sy'n tarddu o ddaliadau o dan  gyfyngiadau TB
  • rhoi cyfle i wahanu a phrofi gwartheg i adennill statws heb TB y gwartheg hynny 
  • darparu safleoedd ar gyfer daliadau nad oes ganddynt gyfleusterau magu 

Y bwriad yw creu grŵp gwahanol o wartheg o statws tebyg (yr un fuches, yr un grŵp oedran, yr un cysylltiad blaenorol â'r risg o haint). Mae cyfnod cyfyngedig ar gyfer symud gwartheg i TBIU i sicrhau bod pob anifail o grŵp oedran tebyg. O 30 Awst 2024 cafodd y cyfnod hwn ei ymestyn i 60 diwrnod. Mae hyn yn cynyddu capasiti anifeiliaid fesul swp gan wneud y TBIU yn opsiwn mwy hyfyw. 

Cymeradwyo TBIU

Yng Nghymru, dim ond mewn Ardaloedd TB Uchel a Chanolig y gellir sefydlu TBIUs. 

Rhaid lleoli TBIUs i ffwrdd o'r prif ddaliad a dim ond ar ddaliad sydd â statws heb TB swyddogol (OTF) y gellir eu cymeradwyo. Rhaid i'r uned fod yn ddaliad sydd yn gyfangwbl ar wahân a rhaid bod ganddo rif CPH ar wahân.

Rhaid i fesurau bioddiogelwch rhagnodedig fod ar waith. Mae hyn er mwyn diogelu buchesi gwartheg lleol a bywyd gwyllt rhag y risg o ledaenu TB o'r TBIU. 

Stocio TBIU

Dim ond o un daliad o dan gyfyngiadau TB y gallwch gael eich gwartheg. Mae cyfnod cyfyngedig o 60 diwrnod (o ddyddiad y symudiad cyntaf i'r uned) i bob swp lenwi'r uned. 

Rhaid i wartheg sy'n symud i TBIU fod wedi cwblhau prawf croen gyda chanlyniad negatif o fewn 60 diwrnod cyn cael eu symud, ac eithrio lloi o dan 42 diwrnod oed. 

Profi a symud gwartheg

Unwaith iddynt gyrraedd yr uned rhaid i’r gwartheg gael o leiaf dau brawf croen negatif yn olynol i’w dehongli o dan amodau llym er mwyn adennill statws OTF, waeth beth yw statws TB y fuches y daethant ohoni. Rhaid i'r prawf cyntaf gael ei gynnal o leiaf 60 diwrnod ar ôl i'r anifail olaf ddod i'r uned. 

Ni chaniateir symud anifeiliaid ymlaen nes bod yr uned wedi:

  • adennill statws OTF, neu 
  • ei gwacáu a'i hail-gymeradwyo 

Hyd nes y bydd statws OTF wedi'i adennill, ni all gwartheg adael y TBIU ac eithrio o dan drwydded: 

  • ar gyfer mynd yn uniongyrchol i'w cigydda, neu 
  • i uned besgi gymeradwy (AFU)

Unwaith y bydd statws OTF yn cael ei adennill, caiff y cyfyngiadau symud eu codi a gellir masnachu gwartheg yn rhydd. 

Goblygiadau i'r fuches y daw'r gwartheg ohoni

Mae'r gwartheg yn y fuches ag achos o TB y daw'r anifeiliaid ohoni a'r TBIU yn rhannu'r un risg o ddod i gysylltiad â haint TB. Mae hyn yn golygu bod gan unrhyw glefyd sy'n gwaethygu yn y TBIU oblygiadau i'r fuches y daw'r gwartheg ohoni. 

Rhaid i'r drefn ofynnol o brofi croen gael ei chwblhau gan y fuches y daw'r gwartheg ohoni a'r gwartheg yn y TBIU. Bydd hyn yn osgoi codi'r cyfyngiadau yn rhy fuan. Bydd hefyd yn atal symudiadau gwartheg sydd â haint heb ei ddatgelu i fuchesi eraill. 

Bioddiogelwch

Dylai pob TBIU fod yn uned wartheg hunangynhwysol ar wahân, wedi'i chadw'n gwbl ar wahân oddi wrth fuchesi eraill.

Ni ddylai fod unrhyw gyfle i gael cyswllt trwyn i drwyn â da byw eraill. Ni ddylai unrhyw dda byw arall gael mynediad i'r uned. 

Ni ellir lleoli'r uned ar iard fferm lle cedwir gwartheg eraill. Rhaid i'r holl offer gael ei neilltuo i'r uned, yn enwedig crafwyr iardiau. 

Rhaid i adeiladau a storfeydd bwyd anifeiliaid fod yn ddiogel rhag bywyd gwyllt. 

Rhaid storio tail yn ddiogel heb unrhyw fynediad gan dda byw na bywyd gwyllt. 

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: 

Dylai pobl sy'n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer TBIU naill ai: :