Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig y bydd Unedau Cwarantin yn dod i rym yng Nghymru ar 12 Mehefin 2017.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd cyflwyno Unedau Cwarantin yn golygu y bydd modd i geidwaid ddewis rhwng defnyddio Uned Gwarantin wedi’i chymeradwyo i reoli symudiadau da byw neu barhau i gadw at y Gwaharddiad Symud Chwe Niwrnod (6DSS) ar eu daliad cyfan.

Mae’r trefniadau newydd yn symleiddio’r drefn gwahardd symud ac yn caniatáu mwy o hyblygrwydd ar gyfer ceidwaid da byw, tra’n parhau i reoli symudiadau i atal clefydau rhag lledaenu.  

Meddai Lesley Griffiths:

“Dwi’n falch o gyhoeddi y bydd Unedau Cwarantin yn dod i rym ar 12 Mehefin.  Bydd gan bob ceidwad da byw unigol bellach fwy o hyblygrwydd a bydd yn gallu penderfynu pa gamau– Unedau Cwarantin neu y Gwaharddiad Symud Chwe Niwrnod - sy’n bodloni ei ofynion orau.  Cyn eu defnyddio mae’n syniad da i berchnogion da byw ddarllen rheolau a gofynion gweithredu yr Unedau Cwarantin.  

Ychwanegodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:

“Cafodd y dewis arall i’r Gwaharddiad Symud Chwe Niwrnod ei ddatblygu ar gais y diwydiant, a thrwy gydweithio’n agos â hwy.  Mae hyn wedi ei ystyried yn ofalus, trwy gydweithio, gyda chymorth Asesiadau Risg Milfeddygol Annibynnol.  Rwy’n hyderus y bydd yr hyblygrwydd ychwanegol hwn yn mynd i’r afael ac yn datrys y problemau a godwyd gan y diwydiant ynghylch y Gwaharddiad Symud Chwe Niwrnod, ond ar yr un pryd, ni fydd yn cynyddu’r perygl o ledaenu clefydau.”  

Cost tystysgrif am 18 mis, gan gynnwys TAW, yw £172.80 am un Uned Cwarantin neu £244.80 am ddau.