Neidio i'r prif gynnwy

Daeth Deddf Caffael 2023 a rheoliadau cysylltiedig Cymru i rym ar 24 Chwefror. Mae'r Ddeddf hon yn atgyfnerthu rheolau caffael blaenorol i greu un gyfundrefn caffael gyhoeddus ar draws y DU. Bydd hyn yn symleiddio'r system, yn gwneud caffael cyhoeddus yn fwy hygyrch i newydd-ddyfodiaid ac yn ymgorffori tryloywder.

Bydd Uned Adolygu Caffael Cymru (WPRU) yn 'mynd yn fyw' yn unol â'r gyfundrefn gaffael newydd sy’n dod i rym ar 24 Chwefror 2025. Nod Uned Adolygu Caffael Cymru yw:

  • Gwella gallu ac arferion awdurdodau contractio Cymreig datganoledig er budd pawb sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus drwy sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheolau caffael newydd (a chytundebau masnach).
  • Diogelu caffael cyhoeddus rhag cyflenwyr sy'n peri risg annerbyniol.

Bydd hyn yn ymgorffori’r newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Caffael 2023 a Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025.

Mae Uned Adolygu Caffael Cymru yn cynnwys tri gwasanaeth:

  • Gwasanaeth Adborth Caffael newydd
  • Gwasanaeth Cydymffurfiaeth Caffael newydd
  • Gwasanaeth Gwaharddiadau a Rhagwaharddiadau newydd

Mae tudalen Uned Adolygu Caffael Cymru, ynghyd â'i phrosesau manwl, yn dal i gael ei chwblhau gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a bydd ar gael yn llawn maes o law.