Mae pobl yng Nghymru yn cael eu hannog i ddefnyddio eu hundeb credyd lleol os ydynt yn wynebu dyledion y Nadolig hwn, yn hytrach na throi at ddefnyddio benthycwyr diwrnod cyflog.
Yn ôl arolwg gan Undebau Credyd Cymru, roedd un o bob tri yn rhagweld y byddai’r Nadolig yn effeithio ar eu gallu i dalu biliau cartref hanfodol, gan gynnwys rhent a morgeisi.
Nododd yr arolwg hefyd nad oedd bron i hanner wedi pennu cyllideb i reoli eu gwariant Nadolig – gall hyn arwain at orwario ar ddamwain a gwthio lefelau dyledion hyd yn oed yn uwch.
Gall yr adeg hon o'r flwyddyn roi pwysau aruthrol ar deuluoedd a gall arwain at lefelau uwch o ddyledion – lefelau na ellir eu rheoli. Er mwyn cefnogi teuluoedd, mae undebau credyd yn cyflawni gwaith rhagorol ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau credyd a chynilo fforddiadwy ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na £1m o gyllid i undebau credyd yng Nghymru i gydnabod eu gwaith yn cefnogi cynhwysiant a gallu ariannol.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
"Bydd llawer o bobl yn straffaglu ac o bosib yn ceisio cael mynediad at ryw fath o gredyd yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae undebau credyd yn ddewis cyfrifol a moesegol yn lle benthycwyr diwrnod cyflog. Mae undebau credyd yn cynnig cynilion diogel a moesegol a benthyciadau fforddiadwy i bob aelod o'r gymuned.
“Os ydych chi'n benthyca'r Nadolig hwn, gwnewch yn siŵr y gallwch ymdopi ac nad ydych chi’n dioddef gormod ym mis Ionawr."
Fel cwmnïau cydweithredol ariannol, heb unrhyw gyfranddalwyr allanol, gall undebau credyd gynnig benthyciadau ar gyfraddau rhesymol o gyn lleied â £50 hyd tua £15000. Codir llog ar y balans wrth iddo leihau ac nid oes unrhyw gostau cudd na chosb am ad-dalu'r swm yn gynnar.
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:
"Rwy'n gwybod bod undebau credyd Cymru yn gweithio'n eithriadol o galed yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn rhoi benthyciadau ac yn rhyddhau cynilion aelodau – ac rwy'n diolch iddynt am eu hymroddiad."
Yn ogystal â chynhyrchion cynilo eraill, mae undebau credyd yn cynnig cynlluniau cynilo Nadolig sydd ond yn caniatáu tynnu arian cyn y Nadolig – er mwyn helpu teuluoedd ar yr adeg anodd a drud hon o'r flwyddyn.
Er mwyn cydnabod eu gwaith yn cefnogi cynhwysiant a gallu ariannol, mae undebau credyd wedi cael mwy na £1m o gyllid gan Lywodraeth Cymru ers Ebrill 2018 i fwrw ymlaen ag amrywiaeth o brosiectau.
Nod y prosiectau hyn yw hybu aelodaeth drwy annog mwy o bobl i ddefnyddio undebau credyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflogwyr i gynnig cynlluniau arbedion cyflogres i gefnogi lles ariannol staff. Am fwy o wybodaeth ewch i: Undebau Credyd Cymru.