Rhoddir mwy na £844,000 i Undebau Credyd ledled Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer prosiectau i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol.
Rhoddir mwy na £844,000 i Undebau Credyd ledled Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd ar gyfer prosiectau i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi'n ariannol. Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys:
- cynllun cynilo i garcharorion, o dan ofal Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr;
- prosiect cydweithredol sy'n cael ei arwain gan Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr i ddatblygu ap ar gyfer ffonau symudol a fydd o fantais i chwe undeb credyd.
- parhau â phrosiect addysgu sgiliau cynilo ac ariannol mewn ysgolion, sy'n cael ei redeg ar y cyd gan Undeb Credyd Pen-y-bont ar Ogwr ac Undeb Credyd Caerdydd a'r Fro;
- Undeb Credyd Celtic i ehangu ei brosiectau ymgysylltu â'r gymuned, a chynilo i ddisgyblion ysgol, yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot;
- hyrwyddo gwasanaethau Undeb Credyd Cambrian fel opsiwn arall i gredyd costau uchel;
- Undeb Credyd Cambrian i sefydlu gwasanaethau maes mewn rhannau gwledig o Bowys.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio:
“Mae undebau credyd yng Nghymru yn darparu addysg sy'n codi ymwybyddiaeth ariannol ymysg oedolion a phlant. Maen nhw'n rhoi sgiliau i bobl allu gwneud penderfyniadau ariannol da, ac osgoi benthycwyr anghyfrifol. Maen nhw hefyd yn helpu pobl sy'n ceisio ymdopi â dyledion, a hefyd maen nhw’n cynnig gwasanaethau ariannol cadarn i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed, a’r rheini’n wasanaethau y byddai'r bobl hynny yn ei chael hi'n anodd cael mynediad atyn nhw fel arall.”
Dywedodd Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol:
“Rydyn ni i gyd yn gwybod am y rôl bwysig y mae undebau credyd yn ei chwarae drwy helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd rheoli eu harian.
“Mae eu gwasanaethau yn arbennig o ddefnyddiol i garcharorion, gan eu bod yn caniatáu iddyn nhw adael y carchar gyda chynilion a chyfrif undeb credyd. Gall hynny wella'r posibilrwydd y bydd cyn garcharorion yn integreiddio yn ôl i mewn i gymdeithas, gan y gallant eu defnyddio i dalu eu rhent a derbyn eu cyflog pan fyddan nhw'n cael swydd - sef ffactorau pwysig sy'n helpu i atal aildroseddu.”