Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.3m ychwanegol i ehangu opsiynau credyd fforddiadwy, gan helpu miloedd yn fwy o bobl ledled Cymru i gael mynediad at wasanaethau ariannol teg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cyllid newydd hwn ar gyfer undebau credyd yn adeiladu ar y cynllun ehangu benthyciadau llwyddiannus a sefydlwyd yn 2022, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i £2.9m. Mae'r cynllun eisoes wedi helpu dros 4,000 o bobl i gael mynediad at gredyd fforddiadwy a allai fel arall fod wedi cael eu gwrthod gan fenthycwyr prif ffrwd.

Bydd y cyllid yn rhoi hwb i dwf undebau credyd, ochr yn ochr â mentrau fel gwasanaeth cangen symudol newydd Undeb Credyd Celtic. Wedi'i sefydlu'n wreiddiol yng Nghastell-nedd, mae'r Undeb Credyd Celtic wedi ehangu ei gyrhaeddiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd y gwasanaeth symudol yn mynd â gwasanaethau ariannol wyneb yn wyneb hanfodol yn uniongyrchol i gymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.

Dywedodd Rheolwr Datblygu Busnes Undeb Credyd Celtic, Julie Mallinson:

Yn dilyn newidiadau i dirwedd ein stryd fawr, rydyn ni’n gobeithio y bydd y gwasanaeth ychwanegol hwn yn ateb arloesol i gynnal presenoldeb corfforol yn ein cymunedau.

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru gallwn ni barhau i roi mynediad i'n gwasanaethau i'r rhai sy'n byw yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, gan gynnwys y rhai nad ydyn nhw’n gallu ymgysylltu'n ddigidol neu sy'n dewis peidio â gwneud hynny. Mae hyn yn arbennig o werthfawr yn ystod y sefyllfa economaidd bresennol, ac yn ein galluogi i hyrwyddo opsiynau benthyca moesegol, fforddiadwy i bobl sy'n wynebu dyled na ellir ei reoli.

Mae lansio'r gwasanaeth hwn ar flwyddyn ein hugeinfed pen-blwydd yn fonws ychwanegol ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ein helpu i barhau â'n twf cyson, cynaliadwy ac yn ein galluogi i annog mwy o bobl i ymuno â ni.

Mae'r buddsoddiad yn rhan o strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru i greu Cymru gynhwysol yn ariannol, a chefnogi aelwydydd incwm isel yn benodol sy'n aml wedi'u heithrio o fancio prif ffrwd.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn y digwyddiad 'Bancio yng Nghymunedau Cymru' fis diwethaf, lle wnaeth Llywodraeth Cymru ddod â sefydliadau ariannol a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i ddatblygu atebion ar gyfer pobl sydd wedi'u hallgáu'n ariannol.

Dywedodd Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

 "Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle gall pawb gael mynediad at wasanaethau ariannol teg, ac fel llywodraeth rydyn ni’n defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael inni i helpu pobl yn yr amseroedd ansicr hyn. Bydd y £1.3m ychwanegol hwn ar gyfer undebau credyd yn darparu dewisiadau amgen moesegol a fforddiadwy i gredyd cost uchel a all ddal pobl mewn cylch o ddyled.

Rydyn ni eisiau system ariannol gysylltiedig sy'n gweithio i bawb. Trwy gefnogi undebau credyd a dod â phartneriaid ar draws y sector ariannol at ei gilydd, rydyn ni'n cymryd camau ymarferol i wireddu hyn ar gyfer cymunedau ledled Cymru.