Mae Hamlyn Williams, cwmni recriwtio gweithredol arbenigol Gwasanaethau Ariannol, yn creu 100 o swyddi newydd i raddedigion yng Nghaerdydd, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Bydd swyddfa’r cwmni yn y Capital Tower. Mae ganddynt swyddfeydd yn Llundain, Efrog Newydd, Hong Kong a Dubai eisoes. Maent wedi dewis y brifddinas fel eu lleoliad diweddaraf.
Mae Hamlyn Williams yn canolbwyntio ar swyddi llywodraethu corfforaethol, blaen y tŷ ar y raddfa ganolig i uwch. Bydd y cwmni yn ymuno â sector ariannol a gwasanaethau proffesiynol sydd yn rhoi gwaith i 136,000 o bobl ledled Cymru.
Cymru enillodd y mewnfuddsoddiad hwn, diolch i gyfleoedd yn y sector sy’n tyfu gyflymaf yn economi Cymru, er gwaethaf y cynigion gan De Affrica i gynnig lle i’r swyddfa hon.
Mae Cymru eisoes yn gartref i Admiral a Go Compare, ac mae cwmnïau rhyngwladol, fel Deloitte ac Arthur J Gallagher wedi mwynhau cyfnod llewyrchus ar ôl sefydlu canolfannau yma.
Mae Prifysgol Caerdydd a sefydliadau academaidd eraill bellach yn cynnig cyrsiau gradd wedi eu teilwra ym maes y gwasanaethau ariannol. Bydd hyn yn rhoi blas i bobl ifanc o’r disgyblaethau angenrheidiol yn y sector ariannol a gwasanaethau proffesiynol, ac mae nifer o gyrsiau yn cael cefnogaeth gan y prif gwmnïau ariannol. Bydd hyn, yn ei dro yn creu gweithlu o raddedigion sydd wedi ei hyfforddi’n arbennig ar gyfer y sector yma.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae gennym lawer i gynnig i fusnesau yn y sector ariannol a gwasanaethau proffesiynol. Rydym eisoes wedi denu’r mawrion i Gymru, cwmnïau fel Deloitte. Mae’n bleser gen i estyn yr un croeso i Hamlyn Williams, a’i ychwanegu at y rhestr o’r mawrion sy’n mynd o nerth i nerth yma.
“Fel dinas Brifysgol, mae Caerdydd yn mynd i roi graddedigion talentog i roi cymorth i Hamlyn Williams’ yn ei menter newydd. Pob lwc iddyn nhw.”
Dywedodd Nick Vaughan, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Hamlyn Williams:
“Mae Caerdydd yn le delfrydol i ni gychwyn pennod newydd. Bydd y Brifysgol yn ffynhonnell o raddedigion ifanc a deinamig a fydd yn dod â bwrlwm ac egni i’r cwmni.
“Rydym yn falch iawn o gael cyfle i setlo yma yng Nghymru, rydym yn edrych ymlaen at ddyfodol llewyrchus yma.”