Neidio i'r prif gynnwy

Mae un filiwn o bobl ar draws Cymru wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn rhag coronafeirws, sy’n golygu bod gan bron i 40% o’r boblogaeth sy’n oedolion bellach rywfaint o ddiogelwch rhag COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae data heddiw [9 Mawrth] yn dangos bod 1,007,391 o bobl – neu 4 o bob 10 oedolyn – yn awr wedi cael eu dos cyntaf, o leiaf.

Mae 192,030 hefyd wedi cael eu hail ddos, sy’n golygu bod cyfanswm o 1,199,421 o ddosau wedi’u rhoi i gyd yn ystod 13 wythnos gyntaf rhaglen frechu Cymru. 

Ar ôl derbyn cyflenwad is yn yr wythnosau diwethaf, fel y rhagwelwyd, yn fuan bydd Cymru’n gweld cynnydd sylweddol unwaith eto. Disgwylir y bydd oddeutu 200,000 o frechlynnau ar gael dros yr wythnosau nesaf – ac y bydd oddeutu 30,000 yn cael eu gweinyddu bob dydd.

Mae hyn yn cynnwys ail ddosau ar gyfer y nifer o bobl sydd i fod i’w cael dros yr wythnosau nesaf, ac mae cyflenwadau wedi’u cynllunio ar gyfer hyn hefyd.

Cyhoeddwyd diweddariad i’r Strategaeth Frechu i Gymru ar ddiwedd mis Chwefror, ac yn y diweddariad hwn daethpwyd â dau ddyddiad targed allweddol ymlaen, yn ogystal ag amlinellu cynlluniau ar gyfer y cam nesaf.

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd fod Cymru’n anelu at gynnig y brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn 31 Gorffennaf, cyn belled ag y bo cyflenwadau ar gael.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Mae gallu dweud bod un o bob pedwar o oedolion Cymru yn awr wedi cael y dos cyntaf o’r brechlyn yn tystio i waith caled pawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu’r brechlyn hwn, a fydd yn newid bywydau.

Rydym wedi gweld nifer anhygoel o bobl yn manteisio ar y brechlyn hyd yma, a hoffwn ddiolch i bob un person sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech genedlaethol hon. Mae’n hanfodol bod y lefelau uchel hyn yn parhau ac rwy’n annog pawb i dderbyn y cynnig o’r brechlyn – mae pob un dos yn cyfrif. Mae pob un dos yn dod â ni gam yn nes at agor ein cymdeithas, gam yn nes at ddyfodol disglair a’n ‘normal newydd.

Ond, mae’n rhaid inni bwysleisio y dylech barhau i gadw at y mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yr ydym wedi dod i arfer â nhw dros y flwyddyn ddiwethaf hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn – mae ymdrechion pawb i gadw’r feirws draw yn hanfodol bwysig.

Er bod y brechlyn yn lleihau’r risg o salwch COVID difrifol, rydym yn dal i ddysgu am effaith y brechlyn ar drosglwyddiad y feirws, a gallai rhywun ei basio i eraill o hyd, hyd yn oed ar ôl cael y brechlyn. 

Pan fydd rhywun wedi cael y brechlyn, dylent barhau i ddilyn yr un camau i’w diogelu eu hunain a diogelu Cymru; gwisgo gorchudd wyneb, cadw pellter o 2m, golchi eu dwylo’n rheolaidd ac awyru ystafelloedd cymaint â phosibl.

Bydd pob oedolyn cymwys yn cael gwahoddiad i ddod i apwyntiad yn eu tro – peidiwch â ffonio’r gwasanaethau iechyd lleol oni bai y gofynnir ichi wneud hynny.