Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pob cyfle i wneud y mwyaf o’r profiad o gynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ffigurau twristiaeth a gyhoeddwyd heddiw yn dangos darlun cadarnhaol o’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn yr hinsawdd fyd-eang heriol sydd ohoni. 

Fodd bynnag, yn ôl arolwg ymweliadau dros nos o Brydain ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2017, mae nifer yr ymweliadau wedi gostwng 11.6% o’i gymharu â'r 12 mis a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2016. Mae nifer yr ymweliadau â Phrydain gyfan wedi gostwng 3.9% dros yr un cyfnod. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Mae'r hyn y mae Caerdydd wedi ei gyflawni y penwythnos diwethaf yn destun balchder i mi. Bydd miliynau o bobl ledled y byd wedi cael eu blas cyntaf ar Gymru a'n her nesaf yw sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfle hwn i ddenu ymwelwyr, gwaith a busnes i’r wlad. Mae gennym dipyn o brofiad wrth fanteisio ar y cyfleoedd sy’n cael eu cynnig o gynnal digwyddiadau mawr ac rwy’n edrych ymlaen i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle yma. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu croesawu pêl-droedwyr byd-enwog o bedwar ban byd i Gymru yn ystod ein Blwyddyn Chwedlau.

“Mae'r diwydiant twristiaeth yn dal i ffynnu yn y farchnad heriol sydd ohoni. Yn 2016, mae darlun cyfan y wlad - gan ystyried ymweliadau undydd, ymweliadau rhyngwladol yn ogystal ag ymweliadau dros nos o Brydain - yn dangos cynnydd sylweddol yn niferoedd twristiaid drwyddynt draw o'u cymharu â 2015. Roedd cyfanswm yr ymweliadau ar draws y tri chategori i fyny 15% yn 2016 - sy'n parhau â llwyddiant y blynyddoedd cynt. Mae'n braf gweld bod ffigurau'r ymwelwyr undydd sy'n cynnwys gwyliau'r Pasg yn cynyddu eto eleni. Byddwn yn dal ati gyda'n hymgyrch i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr tramor a'r rhai sydd am aros yng Nghymru oherwydd y bunt wan.

“Cynyddodd nifer yr ymwelwyr tramor y llynedd hefyd, a byddwn yn gwneud y gorau o'n cyfle i werthu Cymru i’r byd. Rydym ni wedi llwyddo i roi profiad anhygoel i bobl yn y gêm derfynol ac roedd yn bleser gweld Gareth Bale yn codi’r tlws yn ninas ei eni.”