Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hon yn amlinellu casgliadau adroddiad ar yr ystod eang a chymhleth o wasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru.

Er bod yr Adroddiad yn cydnabod bod llawer o arfer da yn yr ystod o ddarpariaeth mewn ysgolion, colegau Addysg Bellach, Addysg Uwch ac yng Ngyrfa Cymru, mae'n nodi bod angen diffinio'r gwasanaethau yn fwy clir a gwella ansawdd yr arweinyddiaeth ar bob lefel.

Ar 9 Tachwedd 2009, cyhoeddwyd y Cylch Gorchwyl ar gyfer ail gam yr Adolygiad o Wasanaethau Gyrfaoedd yng Nghymru, a oedd i’w arwain yn allanol, gan John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau. Penodwyd Dr Haydn Edwards, yr Athro Danny Saunders a Dr Deirdre Hughes yn aelodau o'r Grŵp Craidd i weithredu'r ail gam hwn ganddo. Penodwyd Dr Edwards yn Gadeirydd y Grŵp. Diwygiwyd Telerau'r Adolygiad gan Leighton Andrews, y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, ym mis Ionawr 2010 i gynnwys penderfyniad mewn egwyddor i sefydlu corff unedol ar gyfer Gyrfa Cymru.

Lluniodd y Grŵp Craidd adroddiad ddiwedd mis Mehefin 2010.

Mae'r Adroddiad 'Uchelgeisiau i'r Dyfodol: datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru' yn amlinellu gweledigaeth i ddatblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru.

Mae ei drigain o argymhellion yn cynnwys llawer o agweddau ar ddarpariaeth sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd ac yn cyfeirio at ystod eang o ddarparwyr gwasanaethau. Maent yn cynnig dulliau posibl o wella'r berthynas rhwng y darparwyr gwasanaethau hyn er lles y defnyddiwr gwasanaethau drwy ddatblygu system fwy hyblyg, effeithlon, cydlynol ac effeithiol i ddarparu gyrfaoedd.

Ar y cyd, mae'r cynigion hyn yn strategaeth tymor canolig ar gyfer y tair i bum mlynedd nesaf. Maent yn golygu rhai newidiadau sylfaenol a blaengar o ran dulliau ac rydym yn cydnabod y bydd yn cymryd amser i'w rhoi ar waith. Y nod yw darparu cyfeiriad i’w ddilyn i ddelio â’r agweddau ymarferol ar reoli newid yn wyneb realiti cyfyngiadau ar adnoddau.

Adroddiadau

Uchelgeisiau i'r Dyfodol: Datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.