Mae adrannau brys ledled Cymru yn cael eu herio i groesawu technoleg ddigidol mewn ymgais i wneud gofal cleifion yn fwy effeithlon a bod yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Fel rhan o'r ymdrechion i sicrhau bod cleifion yn cael eu trin yn gynt a lleihau allyriadau carbon, mae adroddiadau labordy yn Ysbyty Treforys bellach yn cael eu rhannu'n electronig yn hytrach na'u hargraffu.
Mae hyn wedi atal hyd at 2kg o bapur wedi'i argraffu rhag cael ei gynhyrchu bob dydd. Bydd hyn yn arbed mwy na £1,200 o arian a mwy na 1,200kg o allyriadau carbon yn sgil papur yn unig bob blwyddyn.
Mae safleoedd ledled Cymru hefyd yn lleihau eu defnydd o bapur drwy ddefnyddio codau QR i roi gwybodaeth i gleifion, yn ogystal â lleihau eu defnydd o drydan lle bo'n ymarferol drwy bylu sgriniau cyfrifiadurol a defnyddio goleuadau mewn swyddfeydd yn fwy effeithlon.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU lle mae pob adran frys yn ymdrechu i gyflawni achrediad efydd y fenter GreenED.
Nod y fenter, a lansiwyd mewn cydweithrediad â'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, yw mesur a lleihau effaith amgylcheddol adrannau brys yn y DU.
Mae tair lefel i'r fframwaith, sef lefel efydd, lefel arian a lefel aur. Mae canllawiau ac adnoddau ar gael hefyd i helpu adrannau i gyflawni'r lefelau hyn.
Gall llwyddo i ennill achrediad GreenED gael effaith gadarnhaol ar leihau allyriadau, gwastraff a chostau.
Dangosodd tystiolaeth o safleoedd peilot sydd wedi’u hachredu’n ddiweddar yn y GIG yn Lloegr arbedion carbon sylweddol ac arbedion cost o tua £10,000 fesul safle, diolch i ymdrechion i leihau'r defnydd o drydan, fel rhan o'r fenter.
Ymhlith y mesurau eraill sy'n cael eu mabwysiadu gan adrannau brys yng Nghymru drwy'r fenter GreenED mae defnyddio papur wedi'i ailgylchu, rhoi'r gorau i ddefnyddio cwpanau a chyllyll a ffyrc plastig, gwella arferion gwahanu a gwaredu gwastraff sy'n effeithlon o ran ynni, a chynyddu argaeledd anadlyddion powdr sych.
Y gobaith yw y bydd y mesurau hyn yn helpu i leihau allyriadau carbon GIG Cymru, gan helpu i gyflawni'r uchelgais i'r sector cyhoeddus cyfan fod yn sero net erbyn 2030 ac i Gymru fod yn sero net erbyn 2050.
Wrth siarad heddiw ar ddiwrnod iechyd a gofal cymdeithasol Wythnos Hinsawdd Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Jeremy Miles:
Bydd croesawu technoleg ddigidol mewn adrannau brys ledled Cymru, nid yn unig yn golygu y gallwn ni drin cleifion mewn modd mwy effeithlon, ond bydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar leihau allyriadau, gwastraff a chostau.
Rwy'n falch ein bod wedi cefnogi'r ymdrech i gyflawni achrediad GreenED drwy ein rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo'r argyfwng hinsawdd.
Mae'n gadarnhaol ein bod wedi croesawu'r mesurau arloesol hyn a'n bod ar y trywydd iawn i gyflawni achrediad efydd erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Mae hyn yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau o ran sero net ac yn dangos y manteision ehangach y gallwn ni eu cyflawni wrth gyrraedd ein targedau.
Croesawodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, y ffocws ar dechnoleg ddigidol. Dywedodd:
Mae gan dechnoleg ddigidol y potensial i wneud gwahaniaeth enfawr i effeithlonrwydd y ffordd rydyn ni'n rhoi diagnosis ac yn trin pobl.
Os gallwn ni groesawu digideiddio, drwy ddefnyddio adroddiadau labordy ar-lein a defnyddio codau QR i roi gwybodaeth i gleifion, gallwn ni hefyd roi hwb i'n nodau o ran sero net.
Dywedodd Sue West-Jones, ymgynghorydd adran frys ac arweinydd clinigol GreenED yn Ysbyty Treforys:
Yr allwedd yw'r potensial ar gyfer gweld targedau GreenED fel esiampl i ledaenu a chynyddu newid ar draws gweddill yr ysbyty a sefydliadau gofal iechyd eraill.
Os gallwn ni gyflawni newid 'wrth y drws ffrynt', a hynny gan weithio o dan y pwysau clinigol eithafol a'r pwysau yn sgil gorlenwi sy'n ein hwynebu, yna mae newid yn bosibl yn unrhyw le!