Wedi i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) lofnodi cytundeb newydd, uchelgeisiol i gydweithredu â chwmni technoleg gwyddoniaeth blaenllaw, mae Cymru yn agosach at gael hawlio ei lle fel gwlad sy’n arwain y ffordd yn y maes genomeg.
Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y GIG yng Nghymru a chwmni Illumina yn adeiladu ar ymchwil sy’n bodoli’n barod i brofion diagnostig canser yr ysgyfaint. Ehangu ymhellach i gynnwys mathau eraill o ganser yw’r uchelgais, a chynnwys meysydd genomeg ehangach hefyd, er mwyn ceisio atal afiechyd, rhoi diagnosis yn gynharach a darparu triniaethau wedi’u personoli.
Bydd yn cefnogi ymdrechion i wella’r datblygiadau ym maes technoleg, ac i ddatblygu dulliau a thriniaethau clinigol, meddyginiaethau a brechlynnau newydd yn ogystal â gwasanaethau i gefnogi gofal ataliol.
Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i lofnodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Illumina Cambridge Limited, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, ac mae wedi’i hwyluso gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Phartneriaeth Genomeg Cymru.
Yn gynharach heddiw (7 Tachwedd), aeth Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar ymweliad â Chanolfan Iechyd Genomig Cymru yng Nghaerdydd i gyfarfod â phartneriaid o Bartneriaeth Genomeg Cymru ac Illumina. Cafodd weld â’i lygaid ei hun sut mae Cymru yn ymdrechu i arwain y ffordd yn y maes hwn.
Dywedodd:
Mae potensial gan y cytundeb hwn i wneud gwahaniaeth enfawr i ofal canser ataliol i bobl yng Nghymru.
Ein huchelgais ni yw gweld Cymru ar flaen y gad ym maes genomeg. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn arwydd o’n hymdrechion i sefydlu partneriaeth strategol rhwng y diwydiant a’r dalent a’r dyfeisgarwch sydd wedi’u meithrin yma yng Nghymru. Bydd hyn yn ein helpu i arwain y ffordd ac i ddod yn fwy cydnerth ar gyfer y dyfodol.
Rydyn ni’n credu y bydd gweithio gyda’n gilydd gan gyfuno gwybodaeth ac arbenigedd, yn ogystal â defnyddio’r adnoddau prin sydd ar gael inni mewn ffordd well, yn hybu ymchwil i’r sector.
Dywedodd Suzanne Rankin, Uwch-swyddog Cyfrifol Partneriaeth Genomeg Cymru:
Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous ar gyfer y maes meddygaeth genomeg, ac rwy’n credu bod cydweithrediad strategol rhwng y sefydliadau hyn yn gyfle gwych i Gymru barhau i gryfhau ei safle yn y maes hwn.
Bydd llofnodi’r cytundeb hwn yn cefnogi pawb sy’n cydweithredu i weithio ochr yn ochr â’i gilydd i gyflawni set gyffredin o amcanion, gan sicrhau bod y gofal gorau ar gael i gleifion a gwella lles y boblogaeth ehangach ar yr un pryd.
Dywedodd Mark Robinson, Is-lywydd a Rheolwr Cyffredinol Illumina, y DU ac Iwerddon, a Gogledd Ewrop:
Mae Illumina wedi ymrwymo i gydweithredu i ddatblygu’r maes meddygaeth genomeg.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Prifysgol Caerdydd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ein galluogi i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil a threialon clinigol cydweithredol ar lefel ddyfnach eto. O ganlyniad, bydd gennym y potensial i achub bywydau drwy sicrhau bod profion genomig yn dod yn rhan annatod o ofal rheolaidd.