Neidio i'r prif gynnwy

Gofynion ar gyfer cyflawni’r cynllun Addysg Gychwynnol i Athrawon sy’n Seiliedig ar Gyflogaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r canllawiau hyn yn nodi'r blaenoriaethau a'r gweithdrefnau polisi yng Nghymru ar gyfer y Cynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth (EBS) yng Nghymru. Mae hefyd yn nodi niferoedd a lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer y grant cyflog a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â lleoliadau ac yn nodi'r blaenoriaethau a'r gweithdrefnau polisi y mae'n rhaid i ddarparwyr AFY roi sylw iddynt wrth reoli'r gwaith o ddarparu'r EBS.

Gelwir yr EBS yn TAR Cyflogedig (Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg).

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â Chynllun Hyfforddi Athrawon ar Sail Cyflogaeth 2020 sy'n nodi gofynion statudol y cynllun. 

Lleoedd a gynigir a chymorth sydd ar gael

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024, mae’r lleoedd TAR Cyflogedig canlynol ar gael ar 1 Medi 2023 neu ar ôl hynny (mae pob lleoliad a chyllid cysylltiedig yn para dwy flynedd).

Bydd hyd at 160 o leoedd i gychwyn o 1 Medi 2023 ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir. Bydd lleoliadau uwchradd ar gael yn y pynciau canlynol:

  • Dylunio a Thechnoleg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Gwyddoniaeth
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Saesneg

Bydd lleoedd cynradd yn cael eu cefnogi gyda grant hyfforddi o hyd at £4,500.

Bydd lleoedd uwchradd yn cael eu cefnogi gyda grant hyfforddi o hyd at £4,500 a chyfraniad grant cyflog o:

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023, mae’r lleoedd TAR Cyflogedig canlynol ar gael ar 1 Medi 2022 neu ar ôl hynny (mae pob lleoliad a chyllid cysylltiedig yn para dwy flynedd):

Bydd hyd at 120 o leoedd i gychwyn o 1 Medi 2022 ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir. Bydd lleoliadau uwchradd ar gael yn y pynciau canlynol:

  • Gwyddoniaeth
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Saesneg

Bydd lleoedd cynradd yn cael eu cefnogi gyda grant hyfforddi o hyd at £4,500.

Bydd lleoedd uwchradd yn cael eu cefnogi gyda grant hyfforddi o hyd at £4,500 a chyfraniad grant cyflog o:

Ym mis Ebrill 2023, yn dilyn y dyfarniad cyflog athrawon diwygiedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 byddwn yn:

• gwneud cyfraniad grant cyflog ad-hoc ychwanegol

Bydd yn:

  • gwneud yn iawn am y gwahaniaeth rhwng y lefelau cyflog athrawon gwreiddiol a'r rhai y cytunwyd arnynt ym mis Ebrill 2023
  • cael ei ôl-ddyddio
  • cynnwys yr holl gyfandaliadau anghyfunol ar gyfer pob myfyriwr cymwys yn unol â Band 1 y raddfa gyflog athrawon heb gymhwyso o dan y trefniadau newydd. (Mae elfen untro anghyfunol y dyfarniad ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 yn unig)

Bydd canran cyfraniad y grant cyflog yn aros yr un fath.

Blwyddyn academaidd 2021 i 2022

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022, mae’r lleoedd TAR Cyflogedig canlynol ar gael ar 1 Medi 2021 neu ar ôl hynny (mae pob lleoliad a chyllid cysylltiedig yn para dwy flynedd).

Uchafswm o 105 o leoedd i gychwyn ar 1 Medi 2021 ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir. Bydd lleoliadau uwchradd ar gael yn y pynciau canlynol:

  • Gwyddoniaeth
  • Mathemateg
  • Cymraeg
  • Saesneg

Bydd lleoedd cynradd yn cael eu cefnogi gyda grant hyfforddi o hyd at £4,500.

  • Bydd lleoedd uwchradd yn cael eu cefnogi gyda grant hyfforddi o hyd at £4,500 a chyfraniad grant cyflog o 50% o bwynt 1 ar y raddfa gyflog athrawon heb gymhwyso (fel a nodir yn y Ddogfen cyflog ac amodau athrawon ysgol (Cymru) ar gyfer y flwyddyn berthnasol) ar gyfer lleoliadau cyfrwng Saesneg
  • bydd cyfraniad o 55% yn cael ei wneud ar gyfer lleoliadau cyfrwng Cymraeg

Ceisiadau i’r TAR Cyflogedig

Rhaid i bob cais gael ei wneud trwy’r darparwr AGA. Bydd y darparwr AGA yn gweithio gyda’r consortia perthnasol i fanteisio ar eu gwybodaeth a’u harbenigedd rhanbarthol i nodi anghenion recriwtio a’r meysydd recriwtio â blaenoriaeth yn eu rhanbarthau er mwyn nodi pa geisiadau i’w cefnogi o dan y TAR Cyflogedig. Bydd y darparwr AGA yn gosod y dyddiad terfyn ar gyfer derbyn ceisiadau ac yn sicrhau bod yr holl ddatganiadau a gwiriadau diogelu angenrheidiol wedi’u cyflawni. 

Y darparwr AGA fydd yn gyfrifol am fynd i’r afael ag ymholiadau ynghylch y meini prawf ymgeisio, gan gynnwys cydnawsedd cymwysterau gradd yr ymgeisydd, ond fe’i hanogir i alluogi’r consortia i ateb unrhyw gwestiynau a ddaw i law.

Dylid nodi y croesewir ceisiadau am leoliadau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn enwedig.

Gall fod sawl lleoliad TAR Cyflogedig mewn unrhyw ysgol unrhyw bryd. Bydd angen i’r ysgol, y darparwr AGA a’r consortia weithio gyda’i gilydd i ystyried effaith mwy nag un lleoliad EBS ar yr ysgol a’r athrawon dan hyfforddiant a leolir yno. Bydd hyn yn sicrhau bod ansawdd yr hyfforddiant y byddai pob athro dan hyfforddiant yn ei dderbyn yn ystod ei leoliad yn ei alluogi i gwblhau’r cwrs astudio a chyflawni’r safonau penodol ar ddiwedd ei leoliad.

Argaeledd grantiau cyflog a grantiau hyfforddiant

Mae grantiau hyfforddiant ar gael i’r darparwr AGA at ddibenion y TAR Cyflogedig i dalu costau’r hyfforddiant yn llawn neu’n rhannol. Bydd llythyr cynnig grant yn cael ei gyflwyno i’r darparwr hyfforddiant yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Mae grantiau hyfforddiant ond ar gael ar gyfer y lleoedd TAR Cyflogedig fel y nodir uchod.

Yn achos lleoliad rhan-amser, bydd y cyfraniad grant cyflog yn cael ei dalu ar gyfradd gyfwerth, pro rata. Fodd bynnag, rhaid ystyried y canllawiau yn yr adran isod.

Gall Llywodraeth Cymru ei gwneud hi’n ofynnol i ddarparwr AGA ddychwelyd unrhyw grant hyfforddiant neu grant cyflog, neu ran ohono, os bydd y lleoliad, am unrhyw reswm, yn para’n llai na’r cyfnod a nodwyd pan wnaed y grant. Bydd y swm y bydd hi’n ofynnol ei ddychwelyd ar gyfer unrhyw grant sydd ar gael yn cyfateb i unrhyw gyllid grant nad oedd wedi’i ddefnyddio pan ddaw’r lleoliad i ben.

Mae grantiau cyflog ar gael ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n gweithredu lleoliadau TAR Cyflogedig. Maent yn cynrychioli cyfraniad at gostau’r ysgol o gyflogi unigolion ar y lleoliadau hynny. Nid talu’r holl gostau yw’r bwriad, ac nid yw’n daliad i’r unigolyn dan sylw.

Nodiadau ar ddyletswyddau ysgolion i gynnig lleoliadau TAR Cyflogedig

Rhaid i bob ysgol a gynhelir sy’n cyflogi athrawon dan hyfforddiant ar leoliad TAR Cyflogedig dalu cyflog ac unrhyw gostau eraill a osodir gan y strwythur cyflog ac amodau cenedlaethol ar gyfer athrawon yng Nghymru i’r athro dan hyfforddiant, i’w talu ar bwynt 1 neu uwch ar raddfa gyflog athrawon heb gymhwyso, a chydymffurfio ag unrhyw ddeddfwriaeth a gofynion cyflogaeth eraill sydd ar waith ar hyn o bryd.

Mae’n ofynnol i ysgolion gyflogi pob athro dan hyfforddiant ar y rhaglen am y cyfnod llawn, a rhaid iddynt gadarnhau cymeradwyaeth o leoliad a’u statws cyflogaeth i’r darparwr AGA cyn i leoliad gychwyn. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i bob lleoliad, waeth a yw’n derbyn cyllid grant ai peidio. Ni fydd y darparwr AGA yn gwneud unrhyw daliadau grant cyflog hyd nes iddo dderbyn y cadarnhad hwn. Dylid atal neu dynnu cymeradwyaeth o le yn ôl os na fydd y gofyniad hwn wedi’i fodloni. Ni fydd ceisiadau wedi’u hunanariannu gan unigolion yn cael eu hystyried o dan unrhyw amgylchiadau.

Rhaid i ysgolion gofrestru unigolion sy’n ymgymryd â lleoliad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg o dan y Categori Cymorth Dysgu cyn iddynt gychwyn eu cyflogaeth; mae hwn yn ofyniad cyfreithiol statudol.

Ar leoliad, bydd angen cymorth, arweiniad a mentora ychwanegol ar unigolion i’w galluogi i gwblhau’r cwrs astudio a chyflawni’r safonau penodol (Statws Athro Cymwysedig (SAC)) ar ddiwedd eu lleoliad. Rhaid i drefniadau gweithio yn yr ysgol roi cyfle iddynt wneud hyn, a dylid cytuno ar hyn gyda’r darparwr AGA.

Bydd ysgolion yn cytuno a llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth priodol gyda’r darparwr AGA a fydd yn amlinellu rolau a chyfrifoldebau’r ysgol a’r darparwr AGA.

Rhaid i ysgolion gyflogi unigolion ar leoliad TAR Cyflogedig sy’n gallu addysgu pynciau y maent yn gymwys i’w haddysgu ac a addysgir fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol neu i lefel arholiad cyhoeddus.

Gofynion o dan yr EBS

Mae’r gofynion statudol ar gyfer darparu rhaglenni AGA achrededig yn nodi bod rhaid i bob athro dan hyfforddiant gael profiad mewn o leiaf ddwy ysgol yn ei leoliadau addysgu ymarferol. Nid yw hyn mor syml mewn hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth, lle mae’r athro dan hyfforddiant yn cael ei gyflogi gan ysgol. Fodd bynnag, gellid ystyried y defnydd o ysgolion lleoliad eraill, amser a dreulir mewn ysgolion o fewn clwstwr o ysgolion neu ysgol bartner arweiniol yn gweithio o fewn partneriaeth y Darparwr AGA. Bydd yr ail leoliad ysgol yn cael ei gytuno gan yr ysgol, Y consortia a’r darparwr AGA.

Lleoliadau rhan-amser

Wrth ystyried lleoliadau rhan-amser, rhaid i ysgolion, y consortia a’r darparwr AGA drafod y cais ac a fyddai modd i’r athro dan hyfforddiant gael cyfle i gyfrannu cymaint â phosibl at bob agwedd ar waith yr ysgol a gallu cyflawni SAC. Mae’n annhebygol y byddai’r rhai sy’n gweithio’n rhan-amser, beth bynnag fo’u profiad addysgu blaenorol, yn gallu cyflawni SAC trwy’r EBS. Fodd bynnag, bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan yr ysgol, y consortia a’r darparwr AGA fesul achos.

Cyfyngiadau ar ymgymryd â’r TAR Cyflogedig

Rhaid i’r darparwr AGA, y consortia a’r ysgol sicrhau y bydd unrhyw leoliad yn galluogi’r athro dan hyfforddiant i gyflawni’r safonau penodol (SAC) ar ddiwedd ei leoliad. Rhaid i’r darparwr AGA sicrhau bod athrawon dan hyfforddiant, yn ystod eu lleoliad, yn derbyn yr hyfforddiant yn unol â’r rhaglen AGA achrededig i gyflawni’r SAC. Felly, y darparwr AGA fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar a fydd lleoliad yn cychwyn.

Byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd a’r ysgol dan sylw fodloni’r holl ofynion mynediad eraill. Y consortia a’r darparwr AGA fydd yn penderfynu a ddylid cefnogi cais, yn ddibynnol ar y blaenoriaethau recriwtio a nodir gan y consortia.

Ni all hyfforddiant mewn Uned Cyfeirio Disgyblion (PRU) neu Sefydliad Addysg Bellach fod yn rhan o raglen EBS gymeradwy gan na fydd hyn yn galluogi’r athro dan hyfforddiant i gyflawni SAC.