Neidio i'r prif gynnwy

Galw o'r newydd ar i Gymru reoli faint o dreth a delir ar hediadau wrth i arbenigwyr annibynnol ganfod y bydd datganoli o fudd i Dde Cymru a De-orllewin Lloegr

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, Llywodraeth y DU sy'n pennu faint o dreth a delir ar hediadau i gwsmeriaid o Gymru, tra bod yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu torri cost hediadau pellter hir drwy leihau'r Doll Teithwyr Awyr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ers amser ar i'r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli, ac mae canfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk yn cefnogi hynny. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y galwadau, gan ddweud y byddai unrhyw ostyngiad mewn Toll Teithwyr Awyr yng Nghymru yn cael effaith negyddol ar Faes Awyr Bryste.

Mae'r dystiolaeth annibynnol a adolygwyd gan gymheiriaid a gyhoeddwyd heddiw yn datgelu, er gwaethaf sylwadau amlwg yn awgrymu y byddai cam o'r fath yn ddifrifol o niweidiol i Faes Awyr Bryste, ni fyddai'r effaith yn fawr iawn mewn gwirionedd.

Yn bwysicach fyth, byddai datganoli ac yna gostwng y Doll Teithwyr Awyr yng Nghymru yn arwain yn uniongyrchol at fanteision sylweddol i economïau De Cymru a De-orllewin Lloegr, ac yn cynnig mwy o ddewis i deithwyr y ddau ranbarth. Mae'r manteision hyn ar gyfer de-orllewin y DU yn rhoi cyfle pwysig i Lywodraeth San Steffan ddechrau rhannu economi'r DU yn decach.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:

"Mae'r dystiolaeth newydd hon yn chwalu unrhyw gamsyniadau ac yn cyflwyno achos economaidd cryf iawn dros roi rheolaeth i Gymru dros Doll Teithwyr Awyr.

"Wrth inni baratoi ar gyfer dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol ein bod yn gallu hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang a chefnogi twf yn ein sector hedfan a'r economi yn ehangach. Ar ôl i'r doll gael ei datganoli, byddai Llywodraeth Cymru yn gostwng neu hyd yn oed yn dileu'r dreth a delir ar hediadau - gan nid yn unig fod yn fanteisiol i deithwyr, ond hefyd roi hwb mawr i Faes Awyr Caerdydd a'r diwydiant hedfan yng Nghymru, yn dda i Faes Awyr Bryste ac yn darparu gwasanaeth mwy cystadleuol. Byddai datganoli'r Doll Teithwyr Awyr hefyd yn gwella lefelau cysylltedd ar draws Cymru, yn hybu lefelau buddsoddi ac yn helpu busnesau.

"Edrychaf ymlaen at gael gweithio gyda Llywodraeth y DU i wireddu hyn. Byddai parhau i wrthod datganoli'r Doll Teithwyr Awyr yn wyneb tystiolaeth mor gryf yn dangos diystyrwch enbyd a fyddai'n gwahaniaethu Cymru, yn cyfyngu ar ein gallu i hyrwyddo Cymru dramor ac yn tanseilio ein buddion economaidd."