Mae’r dudalen hon yn egluro’r dystiolaeth y gwnaethom ei defnyddio i ddod i’r casgliad ‘Bydd y rhan fwyaf o deithiau oddeutu munud yn hirach’.
Manylion
Rydym yn deall bod rhai pryderon cyhoeddus ynghylch cyflwyno’r terfynau cyflymder 20 milltir yn awr (mya) yn ymwneud â’r datganiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru; ‘Bydd y rhan fwyaf o deithiau tua munud yn hwy.’
Ategir y datganiad hwn gan asesiad technegol manwl sy’n ystyried ystod gymhleth o fewnbynnau ac allbynnau sy’n gysylltiedig â data ffynhonnell agored perthnasol sy’n berthnasol i boblogaeth, teithiau car a chilomedrau car yng Nghymru. Mae hyn yn dangos, ar gyfartaledd, y bydd pob taith car yn funud yn hirach oherwydd y newid mewn terfynau cyflymder i 20mya. Mae'r mathau o deithiau a wneir ar y ffyrdd yr effeithir arnynt fel arfer yn fyr ac yn cynnwys amodau teithio stop-cychwynnol. Mae hyn yn golygu bod effaith wirioneddol y newid mewn terfynau cyflymder yn aml yn ymylol.
Ymateb technegol
Rydym yn deall bod rhai pryderon cyhoeddus ynghylch cyflwyno’r terfynau cyflymder 20mya yn ymwneud â’r datganiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru; ‘Bydd y rhan fwyaf o deithiau tua munud yn hwy.’ Ategir y datganiad hwn gan asesiad technegol manwl sy’n llywio’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n ystyried ystod gymhleth o fewnbynnau ac allbynnau sy’n gysylltiedig â data ffynhonnell agored perthnasol sy’n berthnasol i boblogaeth, teithiau car a chilomedrau car yng Nghymru.
Er gwaethaf y testun esboniadol a ddarparwyd fel rhan o’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r hyn y cyfeirir ato ar dudalennau 6, 26, 29 a 41 ynghylch amseroedd teithio, mae rhai o’r cyfrifiadau a lywiodd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi’u crynhoi isod i helpu i egluro’r tybiaethau y tu ôl i’r datganiad.
Mae amcangyfrifon traffig ffyrdd gan cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 25.1 biliwn cilometr wedi’u gyrru gan geir ar Ffyrdd Cymru yn 2019. Mae 4.4 biliwn cilometr (17.5%) ar ffyrdd y disgwylir iddynt newid i derfyn cyflymder 20mya.
Mae'r rhan fwyaf o deithiau ar y ffyrdd hyn yn fyr, er enghraifft i'r ysgol, i siopau lleol neu i ymweld ag aelodau o'r teulu a ffrindiau cyfagos.
Gyda'r newid i derfyn cyflymder o 20mya, bydd y cilometrau ceir ar y ffyrdd hyn yn golygu mwy o amser teithio. Mae hyn wedi’i gyfrifo gan gyfeirio at ddata Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gan gynnwys cyflymderau llif rhydd cyfartalog ar ffyrdd 30mya a 20mya, sef 31mya a 26mya yn y drefn honno, sy’n dangos oedi cyfartalog o 46 eiliad y filltir. Y cyflymderau cyfartalog mewn amodau gyrru arferol felly yw 22.2mya ar ffyrdd 30mya a 19.5mya ar ffyrdd 20mya. Y rheswm pennaf am y gwahaniaeth bychan hwn yw bod traffig llif rhydd yn gyffredinol yn uwch na'r terfyn cyflymder mewn parthau 20mya. Yna mae'r gwahaniaeth mewn cyflymder teithio arferol, 2.7mya, yn cael ei gymhwyso i'r 4.4 biliwn cilometr car i ddarparu gwerth o 1 biliwn munud ychwanegol y flwyddyn.
I amcangyfrif y newid amser fesul taith, amcangyfrifir cyfanswm nifer y teithiau car drwy luosi nifer cyfartalog y teithiau car fesul person y flwyddyn, 380 (data Arolwg Teithio Cenedlaethol (NTS)) â phoblogaeth Cymru, 3.1 miliwn, sy’n hafal i 1.2 biliwn o deithiau car gan drigolion Cymru y flwyddyn. Mae rhannu 1 biliwn o funudau ychwanegol y flwyddyn gan 1.2 biliwn o deithiau car yn arwain at gynnydd o 50 eiliad fesul taith ar gyfartaledd, neu pan gaiff ei dalgrynnu i ddarparu achos gwaethaf rhesymol; o tua 1 munud.
Data
Yn gyntaf mae angen deall cyfanswm yr amser ychwanegol a dreulir ar y ffordd oherwydd y newid yn y terfyn cyflymder
-
Cyfanswm cilometrau a wnaed mewn car yng Nghymru yn 2019
Gwerth: 24.9 biliwn
Ffynhonnell: Tabl 1, Traffig ffyrdd: 2019
-
Y cyfanswm y cilometrau a wnaed mewn teithiau ceir yng Nghymru yn 2019 ar ffyrdd y disgwylir i newid i derfyn cyflymder 20mya
Gwerth: 4.4biliwn
Ffynhonnell: Cyfrifiad yn seiliedig ar ffyrdd yr effeithir arnynt a chyfran o gyfanswm o 24.9biliwn ar y ffyrdd hyn. (Tabl A5.5 yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol) -
4.4biliwn cilometr wedi ei drosi i filltiroedd
Gwerth: 2.7biliwn
Ffynhonnell: cyfrifiad -
Cyflymder llif rhydd cyfartalog mewn terfyn cyflymder o 30mya
Gwerth: 31mya
Ffynhonnell: Ffigur 11, Vehicle speed compliance statistics for Great Britain: 2021 (Saesneg yn unig) -
Cyflymder llif rhydd cyfartalog mewn terfyn cyflymder o 20mya
Gwerth: 26mya
Ffynhonnell: Ffigur 11, Vehicle speed compliance statistics for Great Britain: 2021 (Saesneg yn unig) -
Oedi cyfartalog i deithiau car o dan amodau gyrru arferol a thagfeydd o gymharu â llif rhydd
Gwerth: 46.1 eiliad y filltir cerbyd
Ffynhonnell: Ffigur 2, Travel time measures for local 'A' roads: January to December 2021 report (Saesneg un unig) - Cyflymder cyfartalog mewn terfyn cyflymder o 30 mya gan gymryd i ystyriaeth 46.1 eiliad o oedi i bob milltir cerbyd
Gwerth: 22.2mya
Ffynhonnell: cyfrifiad
- Cyflymder cyfartalog mewn terfyn cyflymder o 20 mya gan gymryd i ystyriaeth 46.1 eiliad o oedi i bob milltir cerbyd
Gwerth: 19.5mya
Ffynhonnell: cyfrifiad
- 2.7bn milltir/22.2 mya
Gwerth: 122 miliwn awr
Ffynhonnell: cyfrifiad
- 2.7bn milltir/19.5 mya
Gwerth: 138 miliwn awr
Ffynhonnell: cyfrifiad
- Cyfanswm munudau ychwanegol ar y ffordd, 138 miliwn awr-122 miliwn awr a throsi i funudau
Gwerth: 1 biliwn munud
Ffynhonnell: cyfrifiad
Yna mae angen deall cyfanswm nifer y teithiau a wneir mewn car i rannu cyfanswm yr amser â chyfanswm y teithiau i amcangyfrif y newid cyfartalog fesul taith car
-
Teithiau car fesul person y flwyddyn
Gwerth: 380
Ffynhonnell: National Travel Survey: 2020 (Saesneg yn unig) -
Poblogaeth Cymru
Gwerth: 3.1 miliwn
Ffynhonnell: Amcangyfrifon o'r boblogaeth a chartrefi Cymru: Cyfrifiad 2021
- Cyfanswm teithiau car yng Nghymru, 380* 3.1 miliwn
Gwerth: 1.2 biliwn
Ffynhonnell: Cyfrifiad
- Rhannu’r cyfanswm o funudau ychwanegol gyda chyfanswm y teithiau car ar gyfer newid cyfartalog fesul taith, 1 biliwn / 1.2 biliwn
Gwerth: 0.85 (~50 eiliad)
Ffynhonnell: Cyfrifiad