Neidio i'r prif gynnwy

Dim ond ychydig o amser sydd gan bobl sydd mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael yn sgil y ffliw a COVID-19 i amddiffyn eu hunain cyn i'r feirysau ledaenu'n eang.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae un o feddygon mwyaf blaenllaw Cymru yn poeni nad yw llawer o bobl sydd â chyflyrau iechyd, a all gynyddu'r risg o orfod mynd i'r ysbyty oherwydd salwch y gaeaf, wedi manteisio hyd yma ar y cynnig i gael eu brechu.

Mae'r data diweddaraf yn dangos bod llai na 30% o oedolion iau sy'n gymwys wedi manteisio ar y brechiad rhag y ffliw am ddim. Mae 62% o bobl 65 oed a throsodd wedi'u brechu.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Keith Reid:

I bobl sydd â chyflyrau iechyd cronig, nid jest 'annwyd trwm' yw'r ffliw. Heb gael eu brechu, gallai arwain at salwch difrifol a gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty ar frys.

Rydyn ni'n gwybod nad yw llawer o bobl ifanc sydd â chyflyrau fel asthma neu ddiabetes wedi cael yr amddiffyniad hanfodol hwn eto.

Mae brig tymor y feirysau yn agosáu. Os ydych chi'n gymwys, nawr yw'r amser i gael eich brechiadau rhag y ffliw a COVID-19.

Maen nhw am ddim ac yn ddiogel a dyma'r ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag cymhlethdodau difrifol. Mae hefyd yn fwy cyfleus erbyn hyn oherwydd fe allwch chi gael y ddau frechiad ar yr un pryd.

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn cael eu hannog yn gryf i fanteisio ar y cynnig i gael brechiad rhag y ffliw, er mwyn amddiffyn eu hiechyd wrth iddyn nhw ofalu am eraill.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Rydyn ni'n hynod o ffodus yng Nghymru bod gennym raglen genedlaethol brechu rhag y ffliw i ddiogelu'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd y feirws.

Mae'r rhaglen hefyd ar gael i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cadw'n iach dros fisoedd heriol y gaeaf.

Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fynd i gael eu hamddiffyn cyn gynted â phosib.

Yn ystod y pandemig, gwelwyd gostyngiad sydyn yn lledaeniad y ffliw, yn bennaf oherwydd y mesurau a'r cyfyngiadau a oedd ar waith i atal COVID-19 rhag lledaenu, ond ers hynny, mae nifer y bobl sy'n wynebu salwch difrifol wedi codi.

Dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Ffliw Cymru, yr Athro Catherine Moore:

Ers y pandemig, rydyn ni wedi gweld y ffliw yn lledaenu eto, gyda mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd cymhlethdodau, rhai y gellid bod wedi eu hatal â brechiadau.

Bob gaeaf, rydyn ni'n gweld mwy o bobl sydd â chyflyrau niwrolegol, cyflyrau anadlol cronig, cyflyrau ar yr iau a'r galon yn cael eu derbyn i'r ysbyty ac yn cael triniaeth gofal dwys yn sgil cymhlethdodau oherwydd y ffliw neu oherwydd ei fod wedi gwaethygu salwch sydd gan yr unigolyn eisoes. Yn anffodus, bydd cyfran o'r bobl hyn yn marw o ganlyniad.

O ran pobl â diabetes, gall y ffliw arwain at ostyngiad yn lefelau glwcos y gwaed ac mae'n gysylltiedig â risg o cetoasidosis diabetig sy'n argyfwng meddygol.

Ceir pryder sylweddol hefyd os yw mamau yn dal y ffliw yn hwyr yn eu beichiogrwydd, gan fod risg uwch o niwmonia, ac mae wedi bod yn gysylltiedig â geni'n gynnar. Mae brechu'n mynd y tu hwnt i amddiffyn y fam newydd, mae hefyd yn amddiffyn y babi yn ystod misoedd cyntaf ei fywyd.

Mae gan unrhyw un sy'n gymwys i gael brechiad rhag COVID-19 neu'r ffliw amser o hyd i gael eu hamddiffyn cyn bod tymor y feirysau ar ei anterth.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gael brechiadau ym mhob ardal bwrdd iechyd yma.