Mae bwyty newydd i deuluoedd yn Saundersfoot wedi cael tymor cyntaf llwyddiannus ac mae'n edrych ymlaen yn llawn hyder at yr hydref.
Agorodd y Boathouse ym mis Gorffennaf yn barod ar gyfer gwyliau haf yr ysgolion, ac mae'r perchennog, Leigh Evans, yn hapus iawn gyda'u haf cyntaf o fasnachu a'r ymateb gan eu cwsmeriaid.
Cefnogwyd y bwyty gan gyllid gwerth £57,267 gan Lywodraeth Cymru drwy Gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Croeso Cymru. Roedd y prosiect yn gyfle gwych i ddod â thŷ bwyta o ansawdd sy'n addas i deuluoedd i Saundersfoot.
Mewn arolwg gan Croeso Cymru yn ddiweddar, nodwyd bod digwyddiadau a gwyliau yn allweddol ar gyfer denu mwy o ymwelwyr. Cafodd Saundersfoot a'r ardal ddiwedd prysur iawn i'r haf o ganlyniad i Dreiathlon Saundersfoot a'r digwyddiad IRONMAN a oedd yn hwb gwych i Leigh a'r tîm ar ddiwedd y tymor. Mae Saundersfoot bellach yn paratoi ar gyfer penwythnos y 'Big Bang' ym mis Hydref.
Mae Leigh bellach yn edrych ymlaen at yr hydref ac at ddatblygu'r busnes ymhellach. Dywedodd:
“Roeddem yn edrych ymlaen at agor y fenter newydd hon yn Saundersfoot ac yn falch iawn o allu cynnig profiad bwyta gwahanol yn yr ardal. Mae llwyddiant y tymor cyntaf, prysur yn rhoi hyder i ni ar gyfer y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar iawn i’n staff gweithgar, i’n cwsmeriaid am eu cefnogaeth ac i Croeso Cymru am eu buddsoddiad a’u cyngor. Rydym bellach yn edrych ymlaen at ddatblygu’r busnes ymhellach a gweithio gyda’r diwydiant twristiaeth lleol i wella enw da Cymru fel cyrchfan gwyliau.”
Mae dyluniad y Boathouse yn deyrnged i dreftadaeth forol yr ardal. Mae ganddo thema forwrol ac mae’n creu naws am le drwy ddefnyddio paentiadau ac arteffactau sy'n gysylltiedig â'r gymuned leol ac sy'n adrodd stori. Mae’r pwyslais ar weini bwyd cartref ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
"Mae'r haf prysur y mae'r tîm yn y Boathouse wedi'i gael yn adlewyrchu'r haf prysur yng Nghymru gyfan. Rwy'n falch iawn eu bod wedi cael haf llwyddiannus a'n bod ni wedi gallu cynnal datblygiad y bwyty hwn sydd â naws cryf am le a brwdfrydedd am gynnyrch lleol. Mae tuedd yn datblygu yng Nghymru am fwytai o safon uchel ar lan y môr gyda phwyslais ar gynnyrch lleol. Mae ymwelwyr yn chwilio am fwy o brofiadau lleol, go iawn a newydd sy'n gysylltiedig â'r ardaloedd y maen nhw’n ymweld â nhw. Hoffwn ddymuno'n dda i'r tîm yn y dyfodol.”