Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi heddiw yn dangos bod Twristiaeth yng Nghymru wedi cael haf hynod brysur, ac yn awgrymu inni gael mwy o ymwelwyr na llynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd ffigurau ymwelwyr ar safleoedd Cadw wedi torri recordiau a gwelwyd y ffigurau gorau erioed ar safleoedd Amgueddfa Cymru.

Mae busnesau twristiaeth yng Nghymru wedi cael haf llwyddiannus iawn. Dywedodd 40% o fusnesau iddyn nhw gael mwy o ymwelwyr na haf llynedd, ac roedd hwnnw'n haf gwell na haf 2015 - a dywedodd cyfran debyg (39%) iddyn nhw weld tua'r un faint o ymwelwyr. 

Mae ffigurau Cadw yn dangos bod ffigurau ymwelwyr yr haf yn uwch nag erioed, diolch yn rhannol i daith y Dreigiau o gwmpas safleoedd hanesyddol Cadw fel rhan o Flwyddyn Chwedlau Cymru. 


Mae'r ffigurau'n dangos bod rhagor na hanner miliwn o bobl wedi ymweld â safleoedd Cadw ym misoedd Gorffennaf ac Awst eleni - y nifer fwyaf erioed yn nhymor yr haf a chynnydd o 8.2% o'i gymharu â haf 2016. 


Mae'r ffigur yn rhan o'r cyfanswm o fwy na 900,000 o ymwelwyr ers mis Ebrill 2017 - cynnydd o 12% o'i gymharu â'r un cyfnod llynedd. Mae'r ffigurau'n awgrymu bod y cyfanswm blynyddol ar drywydd cyrraedd 1.5 miliwn am y tro cyntaf cyn diwedd y flwyddyn. 


Mae'r llwyddiant i'w gyfrif yn rhannol i ymgyrch Chwilio am Chwedlau, a ddaeth â theulu o Ddreigiau'n fyw i ddathlu Blwyddyn Chwedlau 2017. Gwnaeth presenoldeb y Dreigiau dros yr haf helpu i sicrhau cynnydd o 15% yn nifer y teuluoedd a ymwelodd o'i gymharu â Gorffennaf ac Awst llynedd - o 87,333 yn 2016 i 101,051 yn 2017. Fel rhan o ymgyrch y Dreigiau, lansiwyd Dreigiau Bach - gêm realiti estynedig ar ffôn clyfar sy'n caniatáu i ymwelwyr 'snapio' rhith-ddreigiau mewn saith castell o gwmpas y wlad a hyd yma, mae'r gêm wedi'i chwarae gan bron 18,000 o ddefnyddwyr. 


Gwnaeth 297,792 o bobl ymweld â saith safle Amgueddfa Cymru ym mis Awst - y ffigur uchaf ar gyfer mis Awst erioed yn hanes Amgueddfa Cymru, i fyny 18.9% ers Awst 2016. 

Fesul amgueddfa, ym mis Awst, gwnaeth 117,584 o bobl ymweld â Sain Ffagan, nifer aruthrol a'r ail ffigur uchaf ers 2002 pan gafwyd 126,808 o ymwelwyr, a chroesawodd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd 76,614 o ymwelwyr, mwy nag erioed o'r blaen. 

Ym misoedd Gorffennaf ac Awst, denodd Amgueddfa Cymru hanner miliwn o ymwelwyr (492,845), sy'n 17% o gynnydd o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2016, a 6.3% yn uwch na'r haf gorau cyn hynny yn 2012. 

Gellir priodoli'r cynnydd i nifer o ddatblygiadau, gan gynnwys arddangosfa'r Dinosoriaid yn Deor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ailagor y prif adeilad a datblygiadau newydd yn Amgueddfa Werin Cymru yn ogystal â'r ymgyrch Deino yn Dianc. 

Mae amrywiaeth eang o resymau wedi'u cynnig am brysurdeb yr haf yn gyffredinol. Y rheswm mwyaf cyffredin yn y Baromedr Twristiaeth oedd ymgyrchoedd marchnata'r busnesau eu hunain (dywedodd 23% o fusnesau eu bod wedi cael mwy o ymwelwyr) a mwy o bobl gwledydd Prydain yn aros ym Mhrydain (16% yn dweud iddynt weld cynnydd). 

Ar ôl haf prysur, dywedodd 82% eu bod yn teimlo'n hyderus neu'n weddol hyderus ynghylch gweddill 2017. 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae'n galonogol iawn bod y ffigurau hyn yn dangos bod 2017 yn profi'n flwyddyn lwyddiannus arall i dwristiaeth yng Nghymru. Rydym wedi cael dwy flwyddyn lwyddiannus o'r bron ac rydym yn gobeithio cynnal y twf hwnnw. Er bod llawer o ansicrwydd, mae'n amlwg bod y bunt wannach yn golygu bod mwy o bobl yn dewis aros gartref ar gyfer eu gwyliau eleni. Rwy'n falch iawn bod y diwydiant yn edrych tua gweddill y flwyddyn yn hyderus. 

"Mae ffigurau Cadw ac Amgueddfa Cymru'n dangos hefyd bod syniadau blaengar fel dreigiau'n teithio a Deino wedi Dianc yn gallu cydio yn nychymyg pobl a sbarduno diddordeb newydd yn hanes Cymru - profiad gwych inni yn ystod Blwyddyn y Chwedlau." 

Mae'r ffigurau defnyddio llety dros y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Gorffennaf 2017 hefyd yn dangos inni gael haf prysur, gyda lefelau defnydd mewn gwestai, llety gwely a brecwast a thai llety i fyny un pwynt canran o'u cymharu â 2016. Gwelwyd cynnydd o 7 pwynt canran i 84% yn lefelau defnydd carafanau sefydlog a chynnydd o 5 pwynt canran yn lefelau defnyddio cerbydau teithiol. 

I weld y ffigurau ymwelwyr diweddaraf. ewch i: http://gov.wales/docs/caecd/research/2017/170926-wales-tourism-business-barometer-wave-3-2017-cy.pdf