Roedd nifer yr ymweliadau â Chymru 15% yn uwch yn 2016 nag yn 2015 - gan ddilyn twf y ddwy flynedd ddiwethaf.
Y llynedd oedd blwyddyn thematig gyntaf Cymru a bu'n llwyddiant ysgubol. Diolch i waith marchnata Croeso Cymru ar gyfer 2016, daeth £370 miliwn yn fwy o arian i economi Cymru - cynnydd o 18% ar ffigurau 2015. Mae'r ffigurau'n seiliedig ar y rheini y cafodd gwaith marchnata Croeso Cymru ddylanwad pendant arnyn nhw i ymweld â Chymru. Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi yn ddiweddar y byddai'r blynyddoedd thematig yn parhau gyda chyhoeddi 'Blwyddyn y Darganfyddiadau' ar gyfer 2019 a fydd yn datblygu themâu antur, diwylliant a'r awyr agored ac yna Blwyddyn y Môr yn 2018.
Yng nghyd-destun Blwyddyn y Chwedlau yn 2017, mae'n dda gweld i safleoedd Cadw elwa ar y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr yn 2016, gan groesawu 1.4m o ymwelwyr i'w safleoedd â staff - cynnydd o 8% ar y flwyddyn cynt a'r flwyddyn orau erioed i'r corff treftadaeth. Gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr â'i brif atyniadau hanesyddol, gan gynnwys Cestyll Caernarfon, Caerffili a Chasgwent. Gwelodd Carnarfon bron 60% o gynnydd yn ei ymwelwyr - gyda llawer ohonyn nhw'n teithio'n unswydd i weld Arddangosfa'r Pabi. Roedd y Draig Goch anferth, a deithiodd i safleoedd Cadw fel rhan o'i ymgyrch farchnata flaengar "Anturiaethau Hanesyddol" hefyd wedi chwarae rhan bwysig i ddenu cenhedlaeth newydd o ymwelwyr i'r safleoedd. Yn dilyn llwyddiant y llynedd ac ar ôl dod i enwogrwydd fel Draig breswyl Cymru dros Flwyddyn y Chwedlau, cafodd Dewi'r Ddraig gwmni Dwynwen a thros y penwythnos, croesawon nhw ddwy ddraig fach i Gastell Caerffili.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru mewn cyflwr rhagorol a chalonogol iawn oedd gweld safleoedd Cadw yn denu cymaint o ymwelwyr ychwanegol llynedd. Mae hyn yn dangos bod syniadau blaengar fel Dewi'r Ddraig yn helpu i sbarduno diddordeb newydd yn ein treftadaeth. Yn ogystal â chael effaith bositif ar economi ehangach Cymru, mae'n dda i'n hamgylchedd hanesyddol hefyd. Mae'r safleoedd hyn yn dal i ysbrydoli pobl Cymru ac yn dod â'n gorffennol yn fyw yn ystod Blwyddyn y Chwedlau.
"Llynedd hefyd, gwnaeth ymwelwyr tramor wario mwy nag erioed ac am y tro cyntaf ers 8 mlynedd, cawsom dros filiwn o ymwelwyr. Newyddion ardderchog. Rydym yn sylweddoli bod y farchnad yn un gystadleuol iawn a bod heriau mawr yn wynebu'r diwydiant. Ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol - yn enwedig yng ngoleuni canlyniad Refferendwm yr UE - yw gwneud mwy eto i borthi'r hyder hwn ac i fynd â'n henw da a'n ffyrdd o weithio ar draws y byd. Rydym yn gwneud y gorau o bob cyfle yn sgil Ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA i godi ymwybyddiaeth o Gymru fel cyrchfan i dwristiaid yn ein prif farchnadoedd."
Aeth Ysgrifennydd yr Economi yn ei flaen:
"Er bod y rhan fwyaf o'n dangosyddion perfformiad yn edrych yn dda a bod ymateb y diwydiant yn dda, cwympo wnaeth nifer yr ymweliadau dros nos o Brydain o'u cymharu â ffigurau'r flwyddyn orau erioed yn 2015. Gwelwyd yr un gostyngiad ym mhob rhan o Brydain. Ond o edrych ar y darlun cyfan - gan ystyried ymweliadau undydd, ymweliadau rhyngwladol yn ogystal ag ymweliadau dros nos o Brydain - gwelwyd cynnydd sylweddol yn niferoedd twristiaid drwyddynt draw o'u cymharu â 2015. Roedd cyfanswm yr ymweliadau ar draws y tri chategori i fyny 15% yn 2016 - sy'n parhau â llwyddiant y blynyddoedd cynt.
"Bydd gweithgarwch i droi'r diddordeb a'r cyfleoedd cychwynnol sy'n deillio o wendid y bunt yn parhau gydag ymgyrch yr Haf."
Bydd hysbysebion yn ymddangos yng ngorsafoedd tanddaearol Llundain cyn hir ynghyd â hysbyseb deledu Blwyddyn y Chwedlau gyda Luke Evans ar sgrin symud Waterloo. Caiff yr hysbyseb deledu ei dangos hefyd ar Channel 4 yn Llundain i gyd-fynd â'r rhaglen Cabins in the Wild - yn ogystal ag ar Sky Regional London a Sky Adsmart Meridian.
Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos hon ar gyfraddau defnydd yn dangos tueddiadau positif ar gyfer 2017 gyda chyfraddau defnydd gwestfeydd/llety gwely a brecwast dros y 12 mis hyd at Fawrth 2017 ar 40%, 2 bwynt canran yn uwch na'r un cyfnod yn 2016. Dros y 12 mis hyd at fis Mawrth 2017, cododd cyfradd defnydd unedau hunanddarpar 2 bwynt canran i 54% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2016.