Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod llwyddiant yr haf o ran ymweliadau undydd hefyd wedi parhau i'r Hydref - gyda mwy o bobl yn dod i Gymru am y dydd ac yn gwario mwy ar eu teithiau.
Cyhoeddwyd canlyniadau diweddaraf Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a oedd yn dangos bod nifer yr ymweliadau undydd gan dwristiaid â Chymru yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Hydref 2016 wedi cynyddu bron 29% o'i gymharu â'r 12 mis blaenorol, tra bod y swm a wariwyd wedi cynyddu dros 40%.
Bu 96.1 miliwn o ymweliadau undydd gan dwristiaid â Chymru, gyda gwariant cysylltiol o £3,685 miliwn, yn y deuddeg mis hyd at Hydref 2016. Er bod nifer y teithiau hefyd wedi cynyddu 11% ar lefel Brydeinig, cynnydd o 29% fu yng Nghymru. Mae lefel gwariant pob ymweliad bellach yn uwch yng Nghymru nag ym Mhrydain yn gyffredinol, gyda gwariant cyfartalog o £38 yr ymweliad yng Nghymru, o'i gymharu â £34 yr ymweliad ar draws Prydain.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates:
"Fel un o'r ffyrdd rydym yn mesur perfformiad twristiaeth, bu'n newyddion da iawn bod cynnydd mor fawr o ran y nifer o bobl sy'n dod yma ar ymweliad undydd a faint y mae'r ymwelwyr hynny’n ei wario. Cawsom gyfnod gwych o dywydd da yn ystod mis Hydref a oedd yn fwy heulog a sych na 2015. Mae'r ffigurau'n dangos bod Cymru’n perfformio'n well na gwledydd eraill y DU - a fyddai hefyd wedi cael yr un tywydd ffafriol.
"Mae hyn y golygu bod ein gwaith marchnata, ymrwymiad gan ein diwydiant a’r cynnyrch cyffrous sydd wedi’u ddatblygu yn cael effaith. Mae'n newyddion gwych wrth i ni ddechrau dod â Blwyddyn Antur 2016 Cymru i ben. Rydym bellach yn gweithio gyda'r diwydiant i gyflwyno Blwyddyn Chwedlau 2017 fythgofiadwy a fydd yn rhoi hyd yn oed mwy o reswm i bobl ymweld â Chymru."
Roedd yna ragor o newyddion da neithiwr wrth i Gymru cael ei henwi fel y gyrchfan orau yn y DU ar gyfer ieuenctid yng Ngwobrau teithio ieuenctid Prydain. Mae pobl ifanc 16-25 mlwydd oed yn gwario £510 miliwn y flwyddyn ar ymweliadau dydd â Chymru.
Mae'r gwobrau yn cael eu trefnu gan y Gymdeithas teithio addysgol Prydain (BETA) ac yn gwobrwyo cynnyrch newydd ac arloesol a rhaglenni ar gyfer teithwyr ifanc, yn ogystal ag enghreifftiau rhagorol o wasanaeth cwsmeriaid ac ymateb i anghenion yr unigolion pwysig hyn. Ar y rhestr fer yn y categori gyda Cymru - oedd Manceinion a Chaint. Roedd ennillydd y categorïau cyrchfan yn cael ei ddewis trwy’r nifer fwyaf o bleidleisiau ac am gyfnod o 6 wythnos, roedd aelodau BETA a’r diwydiant teithio ieuenctid yn pleidleisio mewn niferoedd uchel ar gyfer y cyrchfannau hynny
sydd wirioneddol ddarparu profiad o ansawdd ar gyfer teithwyr ifanc.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:
"Rydym wrth ein boddau i ennill y wobr bwysig hon, yn enwedig mewn gwobrau sy'n cydnabod cyrchfannau sy'n gweithio'n galed yn y sector ieuenctid. Daw hyn yn fuan ar ôl enwi Gogledd Cymru fel un o’r deg lle gorau i ymweld flwyddyn nesaf - sydd hefyd yn gydnabyddiaeth ardderchog o’r hyn sydd gan Gymru i gynnig. Mae ein hymgyrch Blwyddyn Antur yn sicr wedi apelio i'r farchnad ieuenctid, ac os yw person ifanc wedi cael profiad da tra ar wyliau yng Nghymru y maent yn debygol o ddod yn ôl dro ar ôl tro yn y dyfodol â'u ffrindiau a'u teuluoedd."
Fe enillodd Mrs Potts, Caerdydd, hefyd wobr am y llety gorau gan gydnabod rhagoriaeth mewn llety ieuenctid yn y DU.