"Mae twristiaeth a lletygarwch yn sector gwych i weithio ynddo" – dyna neges Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, i nodi dechrau Wythnos Twristiaeth Cymru 2022 (15 i 22 Mai).
Bydd yr wythnos yn helpu i dynnu sylw at yrfaoedd a chyfleoedd gwaith yn y sector twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.
Un o'r heriau sy'n wynebu'r sector yn dilyn pandemig y Coronafeirws yw recriwtio, gyda llawer o fusnesau'n gweld prinder staff. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r sector ar ymgyrch recriwtio i dynnu sylw at y llwybrau gyrfa posibl ac ystod eang o gyfleoedd datblygu personol sydd gan y sector twristiaeth a lletygarwch i'w cynnig.
Mae'r ymgyrch Gwneuthurwyr profiadau yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Cymru'n Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae cymaint o opsiynau gyrfa diddorol a gwerth chweil yn y sector twristiaeth sy'n cynnig hyblygrwydd yn ogystal â datblygu gyrfa. Mae'n sector gwych i weithio ynddo.
"Wrth i ni adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein pobl, drwy'r Warant i Bobl Ifanc, a chynnig cyflogadwyedd a sgiliau cryf, gan gynnwys prentisiaethau.
"Gall prentisiaethau helpu i ddiogelu, ysgogi ac arallgyfeirio gweithlu yn y dyfodol, gan gynnig cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel. Maent hefyd yn hanfodol i'n cynlluniau adfer economaidd uchelgeisiol ar ôl Covid. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo i greu 125,000 o brentisiaethau ychwanegol o bob oed dros y pum mlynedd nesaf
"Ac wrth i dymor prysur yr haf ddechrau, hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector am eu gwaith caled - mae staff y sector hwn yn chwarae rhan fawr o wneud i brofiadau pwysig ddod yn fyw."
Aeth Gweinidog yr Economi ar ymweliad â'r Grove of Narberth yn ddiweddar. Mae'r gwesty pum seren yn rhan o gasgliad Seren yng Nghymru, ac mae'r portffolio o leoliadau wedi bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r problemau recriwtio sy'n wynebu'r sector ac mae wedi gweithio gyda Croeso Cymru ar yr ymgyrch recriwtio.
Dywedodd Claire Matthews, derbynnydd yn The Grove of Narberth bod newid gyrfa i weithio ym maes lletygarwch tua pedair blynedd yn ôl wedi rhoi mwy o amser a chyfle iddi grwydro o amgylch Sir Benfro, sydd wedi ei helpu i ddod yn gyswllt hanfodol i westeion.
“Yr hyn dw i wrth fy modd ag e yw cael pobl i wir fwynhau eu cyfnod yma, ac i gael y mwyaf o’r Grove ei hunan ac o Sir Benfro.
“Dw i wrth fy modd yn byw yn Sir Benfro, ac er fy mod i wedi byw yma ers dros 20 mlynedd, mae’r swydd yma wedi fy annog i fynd ati i grwydro’r ardal, gan bod angen i chi allu egluro wrth westeion sut i ddod o hyd i lefydd eu hunain, ac awgrymu llefydd i fynd iddyn nhw a phethau i’w gwneud pan fyddan nhw’n aros gyda ni.
“Rheswm arall rwy’n mwynhau fy swydd yw’r cyfle i gwrdd â phobl ac i weithio fel rhan o dîm. Rydyn ni’n griw amrywiol, gyda rhai aelodau o’r tîm yn dod o Ffrainc, yr Almaen, a’r Eidal.
Bydd gweithio ym maes lletygarwch yn eich paratoi i fynd i weithio yn unrhyw le hoffech chi.”
Mae Surya Davies, Prif Arddwr The Grove of Narberth wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa’n gweithio ym maes garddwriaeth, ond fe gafodd ei ddenu gan rôl lle mae disgwyl iddo helpu i greu profiad gwych i westeion, a symudodd yn ôl i Gymru o Loegr i weithio yng ngerddi gwych The Grove.
Meddai:
“Mae gweithio yn y diwydiant lletygarwch yn sicr yn ychwanegu dimensiwn gwahanol i fy swydd, hynny yw profiad y gwestai. Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth mawr drwy ein gwaith, ac rydyn ni wrth law i wneud pethau fel ateb cwestiynau am ein gerddi.
“Mae’r ardd yn rhoi profiad hollol wahanol i westeion; mae’n ymlaciol iawn ac yn eich cysylltu â natur. Mae tîm yr ardd yn chwarae rhan fawr yn creu’r amgylchedd ymlaciol a hamddenol yma. Mae edrychiad a chynllun cyffredinol safleoedd fel ein un ni yn bwysig iawn, ac mae’r gofodau awyr agored yn chwarae rhan bwysig yn y profiad i ymwelwyr hefyd.
“Mae lletygarwch yn unigryw. Mae’n dod â phobl o bob math o gefndiroedd i un lle. Mae’n llawer o hwyl ac rwy’n ei fwynhau.”
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi:
"Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i'r economi ymwelwyr. Fodd bynnag, mae'r rhagolygon ar gyfer yr haf yn edrych yn llawer mwy disglair ac mae ymchwil bellach yn dangos bod lefelau hyder uwch ac mae'r cyhoedd yn y DU yn rhagweld y bydd yn cymryd llawer mwy o deithiau dros nos yn ystod y 12 mis nesaf, na'r 12 mis blaenorol. Ymwelodd llawer o bobl â Chymru am y tro cyntaf y llynedd – ac edrychwn ymlaen at eu croesawu'n ôl eto eleni."