Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl y ffigurau diweddaraf, mae ymweliadau dydd wedi cynyddu'n fawr gan arwain at haf hynod brysur i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Mae Arolwg Ymweliadau Dydd Prydain Fawr a gyhoeddir heddiw yn dangos bod nifer yr ymweliadau dydd â'r wlad gan dwristiaid yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2016 wedi cynyddu dros 28% o’i gymharu â'r 12 mis blaenorol, a bod yr arian a wariwyd wedi cynyddu 40%.

Cafodd Cymru 95.2 miliwn o ymweliadau dydd gan dwristiaid, gyda gwariant cysylltiedig o £3,609 miliwn. 

Mae mwy o arian bellach yn cael ei wario fesul ymweliad yng Nghymru nag ym Mhrydain Fawr yn ei chyfanrwydd, gyda £38 yn cael ei wario ar gyfartaledd fesul ymweliad yng Nghymru o’i gymharu â £34 ledled Prydain Fawr. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates: 

"Am ei fod yn un o'n ffyrdd o fesur perfformiad twristiaeth, mae'n newyddion da iawn bod mwy o bobl yn ymweld â ni am y dydd a'u bod yn gwario mwy tra eu bod nhw yma. Mae'r ffigurau hyn hefyd yn cyd-fynd â'n Harolwg Baromedr Twristiaeth a gynhaliwyd ar ôl gŵyl y banc fis Awst lle y dywedodd 84% o'r busnesau eu bod nhw'n brysurach - neu'r un mor brysur - nag yn ein blwyddyn orau erioed yn 2015. Y prif reswm oedd bod mwy o bobl o Brydain wedi aros yn y DU dros yr haf.

"Cawsom wybod hefyd yn ddiweddar fod nifer yr ymwelwyr tramor â'r wlad wedi cynyddu 15% yn chwe mis cyntaf 2016 o’i gymharu â chwe mis cyntaf 2015. Nid yw'r un wlad arall yn y DU wedi gweld cynnydd o'r fath. Er bod ymwelwyr tramor wedi bod yn gwario ychydig yn llai ar draws y DU ar y cyfan, mae ymwelwyr tramor â'r wlad hon wedi bod yn gwario dros 8% yn fwy.

“Mae'r ffigurau hyn yn dangos ffrwyth ein gwaith marchnata ac yn newyddion i'w groesawu wrth i Flwyddyn Antur 2016 dynnu at ei diwedd.  Rydym yn awr yn edrych at weithio gyda'r diwydiant i gyflwyno Blwyddyn Chwedlau fythgofiadwy yn 2017 a manteisio ar bob cyfle a ddaw ar ôl i'r Lonely Planet restru'r Gogledd yn un o'r 10 lle gorau yn y byd i fynd iddo y flwyddyn nesaf.”